Skip to Main Content

Agenda item

Nodyn Cyngor Cynllunio, Archeoleg: Craffu cyn penderfynu ar y polisi ar nodi tair Ardal Archeolegol Sensitif newydd

Cofnodion:

Archwilio’r polisi cyn y penderfyniad yngl?n â dynodi tair Ardal sy’n Sensitif yn Archeolegol (ASAau)

 

Cyflwynwyd polisi i’r pwyllgor oedd yn cynnig estyniadau i ffiniau Ardaloedd sy’n Sensitif yn Archeolegol (ASAau) cyfredol yn Y Fenni, Trefynwy, Tryleg ac yn cynnig dynodi Ardal sy’n Sensitif yn Archeolegol newydd yn Nhyndyrn.   Clywodd aelodau taw Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent (YAMG) yw cynghorydd archeolegol y cyngor a taw ystyriaeth berthnasol yw cadwraeth sy’n ymwneud ac olion archeolegol wrth benderfynu am gais cynllun. Bydd y ‘Nodyn Cyngor Cynllunio’ yn amlinellu sut y byddai’r Cyngor yn gweithredu ei ddyletswydd trwy ei weithred Rheoli Datblygu.

 

Her:

·         Sut ydyn ni’n cefnogi ymgeiswyr ar hyn o bryd? A fyddwn yn hyrwyddo’r cyngor hwn i bobl? 

Ar hyn o bryd, mae’r YAMG yn cynnig cyngor i ymgeiswyr yngl?n â hyn. Bydd angen i ni ei hyrwyddo trwy’r sianeli cyfrwng cymdeithasol arferol a thrwy benseiri ac asiantiaid. 

·         Pam deimlo’ch chi’r angen i gynhyrchu’r canllawiau?  Pa broblemau oeddech chi’n ceisio mynd i’r afael â? 

Codwyd yr angen am ganllaw yn dilyn profiadau lle bod cyfyngiadau wedi codi’n hwyr yn y broses gynllunio oedd wedi arwain at oblygiadau amser a chost, lle buasai ymgeiswyr wedi manteisio o wybod am gyfyngiadau’n fwy cynnar yn y broses gynllunio.  Mae'r arddull sy’n ymwneud â diogelu a rheoli archeoleg wedi bod yn anghyson gyda dryswch cyffredinol yngl?n â'r lefel o wybodaeth sydd angen ei chyflwyno'n gynnar yn y broses.

·         A fydd hyn yn cynyddu gwaith arolygu i ymgeiswyr?

Bydd gwaith arolygu’n cynyddu, ond bydd modd i’r Cyngor rhoi cyfarwyddyd llawer mwy clir i ymgeiswyr a bydd yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.

·         A fydd hyn yn cyfyngu datblygu?

Nid ydym yn rhagweld y bydd datblygu’n cael ei gyfyngu. Mae’r estyniad arfaethedig i ffin archeolegol Trefynwy’n digwydd gan fod posibilrwydd uchel o ddarganfyddiadau canoloesol – wrth wybod taw ardal hanesyddol yw’r mwyafrif o Drefynwy, nid yw hyn yn debygol o gyfyngu datblygu'n bellach.  Yn Nhryleg, mae wedi bod nifer o ddarganfyddiadau ac mae yna lawer i ddysgu yngl?n â datblygiad Tryleg yn hanesyddol. Serch hynny, nid oes goblygiadau yn ôl datblygu. Nid oedd Tyndyrn wedi’i ddiffinio fel ardal archeolegol ac mae yna ddadleuon cryf y dylai fod.  Mae’r ffin o amgylch yr ASA yn Nhyndyrn yn enfawr, ond caiff hyn ei gyfiawnhau oherwydd darganfyddiadau archeolegol yn yr ardal.

·         Pwy fydd yn cael eu hymgynghori yngl?n â hyn?

Bydd Cynghorau Tref a Chymunedol, asiantau a phenseiri yn cael eu hymgynghori a byddwn yn sicrhau ymwybyddiaeth trwy’r wefan, Twitter a Facebook.  Bydd pob ymateb yn cael eu dadansoddi, eu hystyried a’u hadrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn. 

·         Rydym yn deall yr angen am gydbwysedd, fel ein bod yn diogelu ardaloedd ond ddim yn cyfyngu datblygiad. Ydych chi’n hyderus y gallwch chi gynnig eglurder a thryloywder?

Rydym yn teimlo y bydd y cyfarwyddyd yn helpu ymgeiswyr trwy ystyriaeth lawer fwy cynnar yn y broses cynllunio.

·         Pa brosesau yr ydych wedi eu defnyddio i adnabod ardal newydd o amgylch Tyndyrn?

Dadansoddodd YAMG gwybodaeth a phenderfynon nhw fod mwy o ddarganfyddiadau i’w gael yn yr ardal hon a nodwyd yn ystod y gwaith yn Nhryleg hefyd bod angen yr estyniadau.  Os ydym yn darganfod nad yw’r arolygon yn awgrymu bod angen yr estyniadau, byddwn yn adolygu’r ffiniau.

·         Rydym yn deall sut y mae safleoedd yn cael eu hadnabod, ond os oes ardaloedd lleol sydd heb eu dynodi (er enghraifft, mae yna ardaloedd yn Kingswood yn Nhrefynwy sy'n gysylltiedig â chrochanau ar gyfer ffurfio aur), oes ardaloedd pellach y gellir eu hystyried gan YAMG?

Gallwn yn sicr adolygu ardaloedd pellach os oes darganfyddiadau archeolegol. 

·         Felly, os yw’r ffiniau’n cael eu hadnabod yn ôl darganfyddiadau ac nid yw darnau o Gas-gwent yn cael eu cynnwys, ydy hyn yn awgrymu nad oes darganfyddiadau, neu efallai nad yw’r wybodaeth o reidrwydd yn gyfredol?   A ydych yn ymgysylltu â’r curadur yn Fairfield Mabey?

Beth am ardaloedd megis Brockweir a Redbrook sydd â hanes llongau hysbys? Ydych chi’n edrych ar ardaloedd rhwng yr aneddiadau?

Darlun yw e sydd wedi'i ffurfio dros amser ac mae angen i ni adolygu ardaloedd yn barhaol, ond ein gwybodaeth lan at nawr sydd wedi arwain at ddynodi’r ffiniau hyd yn hyn. Rydym yn ymgysylltu â’r Curadur yn Fairfield Mabey i weld a oes unrhyw wybodaeth y gellir ei gynnig i YAMG y gellir hysbysu adolygiad sy’n ymwneud â chynnwys Mabey Bridge ai peidio.  Yngl?n ag ardaloedd rhwng yr aneddiadau, nid ydym wedi cael yr adnoddau i archwilio’r rheini ac mae yna gyfyngiad ar ba mor bell y gallwn ddynodi, ond byddai dal angen i ni adolygu hyn os fyddai darganfyddiadau pellach yn yr ardaloedd hyn yn cyfiawnhau pwysigrwydd archeolegol uwch.

 

Canlyniad a Chasgliad y Cadeirydd:

 

·         Rydym wedi archwilio’r rhesymeg dros ddod â’r canllaw ymlaen.

·          Rydym yn gwerthfawrogi’r cydbwysedd rhwng diogelu a gwella ein hamgylchedd hanesyddol yn ogystal â pheidio â rhwystro datblygiad neu oedi prosesau cynllunio. Rydym hefyd yn adnabod goblygiadau amser a chost i ymgeiswyr. Rydym wedi archwilio'r rheswm am y ffiniau gwahanol a’r ardaloedd rhwng prif aneddiadau ac rydym yn adnabod y cyfyngiadau ar adnoddau.  Rydym wedi ein cysuro gan fod Tyndyrn wedi’i gynnwys yn ôl ei haeddiant ei hun ac rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith a wnaed hyd yn hyn.

·         Buaswn yn gwerthfawrogi pe bai’r pwyntiau a godwyd gennym yn cael eu cynnwys ac rydym yn cefnogi’r polisi yma’n gyfan gwbl. Rydym yn cynghori eich bod yn ymgynghori yngl?n â hyn ac yn adrodd yn ôl i’r pwyllgor gydag ymatebion yr ymgynghoriad.

 

 

 

Dogfennau ategol: