Cofnodion:
· Mae'r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yn ystyried ffyrdd newydd o adrodd er mwyn rhoi lefel uwch o ddealltwriaeth i Aelodau tra'n ceisio symleiddio adroddiadau, a bydd yn cyfarfod â chadeiryddion pwyllgorau dethol fel rhan o'r gwaith hwn.
· Ar hyn o bryd mae diffyg cyffredinol o £2.4 miliwn. Mae gorwariant cyffredinol gwerth £750,000 o fewn y portffolio hwn ac mae rhai arbedion nad ydynt wedi'u canfod.
· Mae'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyflwyno yn unol â’r gyllideb ond bydd angen llithro ymlaen rywfaint o'r gwariant ar gynllun Heol Crug.
· Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddefnydd y cronfeydd wrth gefn yn 2019-20. Ar hyn o bryd, mae lefelau'r cronfeydd wrth gefn yn 3.19% o wariant net y gyllideb, sy'n is na'r lefelau priodol, sef 4%-6%, ond dylai'r dyfarniad untro ar gyfer TAW helpu i ailgyflenwi'r rhain.
Her yr Aelodau
· Mewn ymateb i fewnbwn gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, trafododd y Pwyllgor hygyrchedd adroddiadau ariannol i'r rhai nad ydynt yn gyfrifyddion, a bu cais am ragor o hyfforddiant a chrynodebau. Cytunwyd y byddai'r opsiynau hyn yn cael eu harchwilio mewn cyfarfod â chadeiryddion pwyllgorau dethol.
· Heriodd yr Aelodau berfformiad ariannol buddsoddiadau masnachol a'r effaith ar gyllid y cyngor. Clywodd yr Aelodau fod costau ariannu Castlegate wedi'u diogelu ond bod yna lleoedd rent ar osod yn wag, gyda deiliadaeth o tua 65%, sy'n golygu nad yw'r awdurdod yn cyrraedd targedau incwm. Bydd gwybodaeth am fuddsoddiad masnachol yn cael ei derbyn gan y pwyllgorau buddsoddi ac archwilio
· Holodd y Pwyllgor a oedd yn iawn terfynu deiliadaeth gr?p y theatr gerddorol ar y safle. Atgoffwyd yr Aelodau bod angen ystyried yr unedau fel buddsoddiad masnachol yn hytrach na fel asedau gweithredol sy'n gysylltiedig â chyflawni ein diben
· Holodd yr Aelodau ynghylch y posibilrwydd o gynyddu incwm ymhellach o ynni adnewyddadwy. Clywodd yr Aelodau fod tariffau bwydo i mewn wedi gostwng felly nid yw ynni haul mor ddeniadol ag o'r blaen er bod technoleg bellach yn rhatach. Mae diffyg capasiti yn y seilwaith cenedlaethol i gymryd mwy o b?er ac efallai y bydd angen i'r Cyngor fod yn gwmni ynni er mwyn oresgyn hyn neu glymu ffermydd ynni haul i mewn gyda datblygiadau tai newydd.
· Heriodd yr Aelodau a oeddem yn bod yn rhy uchelgeisiol gyda thargedau arbedion Sir Fynwy yn y dyfodol. Clywodd yr Aelodau fod y gyllideb hon yn cael ei defnyddio fel cyfrif cynnal nes bod yr arbedion yn cael eu dyrannu i gyllidebau unigol.
· Ceisiodd yr Aelodau ddeall y manteision masnachol sydd ar gael o'n gallu fel corff cyhoeddus i gynhyrchu incwm. Clywodd yr Aelodau fod y Bwrdd Benthyciadau Gweithfyedd Cyhoeddus yn rhoi mynediad i ni at gyfraddau llog ffafriol. Fodd bynnag, rydym bob amser yn edrych ar ein hadnoddau ein hunain (benthyca mewnol) cyn edrych i'r tu allan.
Canlyniadau
· Gofynnodd yr Aelodau am fwy o eglurder gyda'r adroddiadau gan ychwanegu crynodeb gweithredol a bydd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yn cyfarfod â chadeiryddion y Pwyllgorau Dethol i fynd â hyn yn ei flaen
· Heriodd yr Aelodau y targedau arbedion a pherfformiad masnachol yr awdurdod a chawsant ymatebion i ystod eang o gwestiynau
Dogfennau ategol: