Agenda item

Adroddiad Trysorlys Canol Blwyddyn

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Gyfrifydd, Y Trysorlys ac Asedau Sefydlog yr Adroddiad Canol flwyddyn, oedd wedi’i grynodi fel a ganlyn:   

 

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dempled a ddarparir gan Arlingclose, cynghorwyr Rheoli Trysorlys yr Awdurdod ac sydd wedi’i lunio’n benodol ar gyfer Cyngor Sir Fynwy.

Mae’r Awdurdod yn bwriadu cydymffurfio â Chod Rheoli Trysorlys y CIPFA sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yr Awdurdod yn cymeradwyo adroddiadau rheoli’r trysorlys pob blwyddyn a hanner blwyddyn ac ei fod yn rhoi sylw i ddiogelwch a hylifedd ei fuddsoddiadau cyn ceisio enillion ychwanegol.

 

Mae’r Cod Darbodus yn ei wneud yn ofynnol bod gan yr Awdurdod Strategaeth Gyfalaf wedi'i chymeradwyo gan y Cyngor llawn, sy’n gosod y ffordd orau i gwrdd ag ystod eang o amcanion bod gan yr Awdurdod gydag adnoddau cyfalaf cyfyngedig.  Cafodd hyn ei gymeradwyo gan y Cyngor ar y 19eg o Fedi 2019 a chaiff ei ddiweddaru’n flynyddol.

 

Mae Cod Rheoli’r Trysorlys nawr yn cwmpasu buddsoddiadau heblaw trysorlys yn ogystal â buddsoddiadau trysorlys sy’n ei gwneud yn ofynnol bod Awdurdodau’n dangos sut ydynt yn darparu diwydrwydd dyladwy yn yr un modd a’u bod yn ei wneud am fuddsoddiadau Trysorlys. Nid yw’r Awdurdod wedi cynyddu ei ddaliad o fuddsoddiadau heblaw trysorlys yn hanner cyntaf 2019/20 ond mae’n dal yn edrych i wario balans llawn y £50m cymeradwy erbyn diwedd 2020/21. 

 

Mae yna wedi bod ansicrwydd economaidd yn 6 mis cyntaf 2019/20 gyda 6 mis ychwanegol yn debygol oherwydd estyniad dyddiad Brexit ac economi sy’n arafu yn Ewrop. Mae gwleidyddiaeth dramor hefyd wedi parhau i fod yn yrrwr mawr o farchnadoedd ariannol, er enghraifft gyda thensiynau parhaol rhwng yr UD a Tsieina.  Cynhaliodd Banc Lloegr cyfraddau o 0.75% er mwyn cefnogi’r economi.

 

Cwympodd cyfraddau llog gilt yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd hwn felly cymrodd yr Awdurdod fenthyciad hirdymor o £7m er mwyn sicrhau ychydig o fuddiant hirdymor o'r cyfraddau isel hyn, penderfyniad da wrth edrych yn ôl oherwydd codwyd cyfraddau PWLB gan 1% yn Hydref 2019.

 

Ar yr 31ain o Fawrth 2019 roedd gan yr Awdurdod Gofyniad Cyllid Cyfalaf benthyg o £183.9m a benthyciad allanol crynswth o £178.3m.  Cododd benthyg crynswth ychydig i £180.1m yn y 6 mis hyd at y 30ain o Fedi ond cwympodd benthyg net o £158.0 i £148.9m oherwydd cynnydd byrdymor mewn buddsoddiadau.

 

Mae’r Awdurdod yn parhau i ddal lleiafswm o £10m o fuddsoddiadau i gwrdd â gofyniadau cleient proffesiynol dan y rheoliadau Mifid II (Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol).   Mae’r buddsoddiad mewn cronfeydd cyfun strategol nawr wedi codi o £2m i £3m.  Mae’r cronfeydd hyn wedi dychwelyd incwm o £63,000 yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn. Caiff colledion cyfalaf o £45,000 gan gynnwys £39,000 untro eu hamsugno gan y gwarged a ddelir yng nghronfa ailbrisio’r Offerynnau Ariannol. 

Mae’r Awdurdod yn rhagweld arbediad o £243,000 ar gyfer 2019/20 ym meysydd llog taladwy a llog derbyniadwy yn erbyn cyfanswm cyllideb net o £4.0m.

 

Croesawyd cwestiynau a sylwadau, cawsant eu hateb fel a ganlyn:

 

Deallodd y Pwyllgor Archwilio y bydd benthyg hirdymor yn y dyfodol oddi wrth Fwrdd Benthyciadau’r Gweithiau Cyhoeddus (PWLB) yn fwy drud.  Ystyriwyd bod y lefel fenthyg ar hyn o bryd yn gynaladwy.     Ceisiodd Aelod eglurdeb yngl?n â benthyg am brosiectau penodol, a chadarnhawyd nad yw’r awdurdod yn benthyg am brosiectau penodol ond yn hytrach er mwyn cynnal lefelau arian i alluogi’r Awdurdod i wneud unrhyw daliadau sydd eu hangen.   Wrth ddadansoddi proffidioldeb buddsoddiadau eiddo mawr diweddar, ystyrir y cyfraddau benthyg sydd ar gael ar yr adeg honno, a chost y benthyg y buasai ei angen os oedd y prosiect yn cael ei weithredu ar ei ben ei hun sydd wedi'i osod i mewn i ragolwg elw ar gyfer bywyd y prosiect. Ychwanegwyd bod y tîm trysorlys yn gwerthuso’r cyfanswm a’r benthyg sydd eu hangen er mwyn bod yr Awdurdod cyfan yn cynnal llif arian, ac yna’n nodi’r dull mwyaf addas o ennill cyllid wrth ystyried unrhyw gyfle am fenthyg mewnol e.e. oherwydd derbyniadau cyfalaf, er mwyn lleihau costau benthyg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y gyfradd llog ar y mwyafrif o fenthyciadau PWLB yr awdurdod wedi'u sefydlu ar y diwrnod am gyfnod cyfan y benthyciad. Yn y gorffennol, mae'r Awdurdod wedi cymryd un benthyciad cyfradd amrywiol ar y tro yn unig, ac roedd hyn yn fuddiol oherwydd y cyfraddau a gynigwyd gan y PWLB ar yr adeg honno.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas â’r buddsoddiad Fferm Solar, os yw hi wedi’i dibrisio dros y tymor ugain mlynedd, a chadarnhawyd bod y Tîm Ystadau’n prisio pob ased yn flynyddol.  Rhagwelir bod y Fferm Solar yn cynnal ei gwerth sy'n seiliedig ar ei botensial ar gyfer cynhyrchu incwm.  Mewn perthynas ag asedau masnachol, rhoir ystyriaeth i pam mor hir y bydd yr ased yn para ac mae yna egwyddor i beidio cymryd cyllid llog am gyfnod mwy na bywyd disgwyliedig yr ased.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddylanwadau allanol, yn enwedig y tensiynau rhwng yr UD a Tsieina, a gofynnodd sut y bydd esblygiad yr economi byd eang yn effeithio buddsoddiad.  Cytunwyd taw amser anodd ac anrhagweladwy yw hwn a bod yr Awdurdod yn dibynnu ar ragolygon a chyngor o’i Gynghorwyr Trysorlys. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod wedi bod nifer o newidiadau i reoliad banciau ers gwymp banciau Gwlad yr Iâ, er mwyn lliniaru problemau yn y dyfodol, bod rhaid i fanciau cydymffurfio â nhw. Hefyd, mae arallgyfeirio buddsoddiadau'n allweddol yn ôl gwasgaru'r risg.  Mae rôl y Pwyllgor mewn archwilio strategaeth y trysorlys yn allweddol wrth asesu ffactorau risg.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r awdurdod yn pennu cyfradd A triphlyg, a gofynnodd, os oedd Llywodraeth Prydain yn cael ei israddio, a fydd asedau'n cael eu symud o gwmpas.  Esboniwyd taw ffactor ganolog mewn lleihau risg yw sicrhau bod gwrthbartïon wedi’u graddio A- neu uwch gan ychwanegu bod Arlingclose yn cynnig cyngor ychwanegol yngl?n â chryfder gwrthbartïon sy’n cael ei ddilyn yn agos.  

 

Ceisiodd Aelod eglurhad yngl?n â cholledion cyfalaf o £45,000 oherwydd cynnig bid ar wasgar a sylwebodd na fydd y golled yn crisialu nes y caiff ei werthu ac awgrymodd efallai bod y datganiad yn agored i'w gamddehongli. Cytunwyd â’r pwynt hwn.  Esboniwyd bod yna fuddsoddiad mewn dwy gronfa gyfun gellir eu prynu a'u gwerthu ar yr un gyfradd ar unrhyw ddiwrnod.  Buddsoddwyd £500,000 mewn cronfa eiddo sydd â gwasgariad bid/cynnig o 8%, yn arwain at golled untro ar y buddsoddiad hwn hyd yn hyn.  Y bwriad yw cadw’r cronfeydd hyn i gyd am o leiaf 3-5 mlynedd er mwyn lleihau unrhyw enillion a cholledion cyfalaf net ac er mwyn casglu'r enillion incwm cyson.

 

Wrth gyfeirio at argymhellion yr adroddiad, adolygodd y Pwyllog gweithgareddau rheoli’r trysorlys yn hanner cyntaf 2019/20 fel sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad ac ystyrion nhw a ddylid ystyried ymgorffori unrhyw newidiadau i'r broses i Ddatganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2020/21.

 

Dogfennau ategol: