Agenda item

Craffu er mwyn cynnig barn ar y cynigion ar gyfer Ysgol Mounton House (i ddilyn).

Cofnodion:

·         Cafodd adroddiad yngl?n â'r cynnig ei gyflwyno cyn ei ystyried yn y Cabinet.

·         Crynhodd y prif swyddog nifer o weithiau i’r pwyllgor sut y bydd dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi yn y dyfodol.

·         Mae swyddogion yn argymell cyhoeddi hysbysiadau yngl?n â chau Ysgol Mounton House ar ddiwedd Awst 2020.

·         Mae gan yr ysgol le ar gyfer 58 disgybl ac mae 15 o ddisgyblion yn ei mynychu ar hyn o bryd. Mae 8 o’r rheini yn byw yn Sir Fynwy, o’r rheini mae dau yn perthyn i awdurdodau eraill. Ychydig iawn o angen sydd am y fath yma o ysgol yn y sir.

·         Y gost i redeg yr ysgol oedd £1.26M y flwyddyn hon a gall yr awdurdod adfer £471K. Mae yna gost net o £131K fesul disgybl sy’n cynyddu i £263K o fis Medi 2020 os yw’r ysgol yn aros ar agor. Mae hyn lawer yn uwch na’r tâl a wnaed i awdurdodau eraill ar gyfer lleoli.   Adroddodd y Prif Swyddog nad yw’r argymhelliad hwn yn cael ei gymryd heb ystyriaeth neu heb unrhyw gymhelliant heblaw am ddarganfod y ddarpariaeth orau ar gyfer y disgyblion. Nid yw’r adeilad bellach yn addas i’w ddefnyddio ac nid yw dynodiad bellach yn cwrdd ag anghenion disgyblion yn Sir Fynwy.

 

Her Aelodau

·         Ceisiwyd sicrwydd gan aelodau yngl?n â dyfodol staff ac yngl?n â sut y buasai darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd yn cael ei gwneud ar ôl cau.  Clywodd aelodau y bydd cau'r ysgol cyn diwedd 2019-20 yn galluogi dau dymor ychwanegol i gynllunio ac i adnabod cyfleoedd addysg sy’n addas ar gyfer anghenion pob disgybl.  Clywodd aelodau hefyd, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan Gabinet, y buasai Polisi Amddiffyn Cyflogaeth y cyngor yn cael ei ddefnyddio er mwyn cefnogi a chwilio am gyfleoedd ar gyfer staff i gyd.

·         Cyfeiriodd aelod at gynigion amgen er mwyn cefnogi’r ysgol i ledu ei darpariaeth er mwyn cwrdd ag angen Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n cynyddu yn y wlad fel trydydd opsiwn a mynegodd nad oedd y cynigion wedi cymryd ystyriaeth ddigonol o ymatebion yr ymgynghoriad.   Clywodd aelodau bod yr adroddiad wedi ateb y themâu a godwyd o'r ymarfer ymgynghori mewn modd eglur.  Clywon nhw hefyd bod angen gwario cyfanswm sylweddol o arian ar yr ysgol ac ni fuasai arddull o gario ymlaen a thrwsio yn addas.  Cafodd yr ysgol ei hariannu yn y gorffennol ar y niferoedd o leoedd yn hytrach na'r nifer o ddisgyblion sydd ar y gofrestr sef y ffordd y mae ysgolion eraill yn cael eu cyllido.  Mynegodd y Prif Swyddog nad yr awyrgylch a fydd yn cwrdd ag anghenion disgyblion sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig oedd hwn ynghyd â disgyblion presennol ac ymrwymodd i ddatblygu darpariaeth yn y sir i blant 7 - 19 mlwydd oed sy'n gweld hi'n anodd mewn addysg oherwydd amryw o anghenion sylweddol a chymhleth eraill.  

·         Cwestiynodd aelodau os byddai’r arian yn cael ei wario ar adeiladu darpariaeth mewn ysgolion gwahanol.  Clywodd y pwyllgor y dylid cwrdd ag anghenion disgyblion sydd ag anghenion ychwanegol neu arbennig mewn darpariaeth brif ffrwd lle bynnag y bo modd, bod gan Sir Fynwy tair sylfaen adnodd ac y bydd y cyngor yn parhau i ddatblygu’r rhain.   Serch hynny, bydd rhaid i rai disgyblion sydd ag anghenion hynod o arbennig a chymhleth cyrchu lleoliadau y tu fas i’r sir.

·         Ymholodd Aelodau os ellir ceisio am gyllid ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain er mwyn adeiladu ysgol newydd.  Cadarnhawyd nad oes posibilrwydd o fidiau ychwanegol am gyllid Band B oddi wrth Lywodraeth Cymru.

·         Pleidleisiodd y pwyllgor yngl?n ag argymell i Gabinet eu bod yn ystyried trydydd opsiwn, fel y'i cyflwynwyd gan y Cyng. Brown, i newid math y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig yn Mounton House er mwyn cwrdd â’r angen Anghenion Dysgu Ychwanegol cynyddol, a chadarnhawyd y bleidlais.

Canlyniadau

·         Adolygodd Aelodau’r cynigion a gofynnon nhw gyfres o gwestiynau i’r swyddogion.  Bydd y cadeirydd yn mynychu Cabinet er mwyn cyflwyno barn y pwyllgor y dylid ystyried trydydd opsiwn

 

 

Dogfennau ategol: