Agenda item

Cyflwyno'r Broses Rheoli Goryrru ar gyfer craffu cyn-penderfyniad a ddatblygwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cryf.

Cofnodion:

 

·         Clywodd y pwyllgor safbwyntiau Mr Andrew Vincent a oedd wedi cyfrannu at y gr?p gorchwyl a gorffen ac wedi mynychu fel rhan o fforwm agored y cyhoedd.

·         Rhoddodd Mr Vincent wybod i’r pwyllgor nad oedd y ddogfen, yn ei farn ef, yn cynnwys digon o ddychymyg o ran mynd i’r afael â phroblemau allweddol mewn sir wledig. Codwyd pryderon yngl?n â chyfeiriad y papur at gwynion.  Ystyriwyd ei bod yn anaddas cyfeirio at bobl sy’n codi materion yn ymwneud â gyrru’n rhu gyflym fel cwynwyr. 

·         Dywedodd Mr Vincent wrth y pwyllgor ei fod wedi rhoi sylwadau manylach i’r adran priffyrdd ond nad oedd yn teimlo eu bod wedi cael eu hystyried. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod Atodiad G yn ddogfen fwy proffesiynol. 

·         Dadleuodd Mr Vincent na fyddai’r cynigion yn arwain at wellhad digonol i’r prosesau presennol er mwyn helpu cymunedau i gael terfynau cyflymder is, er enghraifft, cafodd y defnydd o gyfartaleddau fel ffordd o fesur cyflymder ei herio a dywedwyd nad yw timau heddlu cymunedol bellach yn adlewyrchu plismona modern.

·         Codwyd pryderon yngl?n â chywirdeb y data a fyddai’n cael ei ddarparu gan nodi bod data gwael yn arwain at benderfyniadau gwael. Gofynnodd Mr Vincent i’r pwyllgor edrych eto ar y ddogfen.

·         Dywedodd swyddogion wrth y pwyllgor bod rhai cyffelybiaethau gyda dogfen Caerffili ond bod yr elfen rheolaeth cyflymder, heb os, yn bapur sy’n perthyn i Sir Fynwy.  Adroddwyd bod Sir Fynwy’n bwriadu cyflogi swyddog i ddelio â hyn.

·         Cafodd yr aelodau gyflwyniad gan y Peiriannydd Gr?p Priffyrdd a gadarnhaodd bod swyddogion wedi edrych i mewn i ymarfer da, gan gynnwys CBS Caerffili a’u bod wedi teilwra’r rhain i gwrdd ag anghenion Sir Fynwy ac wedi cynnal cyfres o weithdai gydag aelodau lleol, cymunedau cymuned a chymunedau tref. 

 

Her yr Aelodau

·         Gofynnodd yr aelodau am eglurder ar gyfraddau damweiniau ar y ffyrdd y mae’r cyngor yn gyfrifol amdanynt o’u cymharu â ffyrdd y sir yn ei chyfanrwydd.  Clywodd yr aelodau fod gan Sir Fynwy un o’r cyfraddau damweiniau isaf yng Nghymru os yw traffyrdd a chefnffyrdd yn cael eu heithrio.

·         Heriodd yr aelodau sut y bydd prosesau’n lleihau damweiniau.  Clywodd y pwyllgor y bydd yr adroddiadau yn edrych ar ddamweiniau yn ogystal â damweiniau fu bron â digwydd ochr yn ochr â gwybodaeth yngl?n â chyflymder.  Mae’r rhain yn cael eu bwydo i mewn i fatrics sgorio er mwyn penderfynu pa gamau i’w cymryd.

·         Lleisiodd yr aelodau anfodlonrwydd am fod yr adroddiad yn dangos nad oes gwellant digonol wedi ei wneud i’r prosesau a bod cyfle wedi ei golli i wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg.  Clywodd aelodau bod camerâu wedi eu gosod a bod swyddogion yn edrych i mewn i systemau awtomatig ar gyfer adnabod platiau cofrestru.

·         Codwyd cwestiwn yngl?n â p’unai penderfyniad i’r Cabinet neu i’r Cyngor fyddai hyn.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth y gallai fod yn benderfyniad i’r Cabinet, ond y gellid mynd ag ef i’r cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth.

·         Cododd yr aelodau nifer o bwyntiau yngl?n a phroblemau lleol penodol.  Clywsant y gellid ymdrin â phrosiectau lleol fel rhan o gynllun amlen o welliannau i reolaeth traffig mewn pentrefi.

·         Gofynnodd aelodau a oes gan y cyngor yr adnoddau ar gael i reoli hyn neu peidio.  Clywodd y pwyllgor bod adnoddau staffio wedi cael eu rhoi mewn lle ar gyfer cydlynu.  Bydd y cynlluniau’n cael eu cyllido allan o gyllidebau’r awdurdod neu drwy geisiadau am gyllid allanol. 

·         Cwestiynodd y pwyllgor a oedd defnydd digonol yn cael ei wneud o’r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o hyrwyddo’r ymddygiad cywir. Adroddwyd bod negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i addysgu pobl yngl?n ag ymddygiad gan gynnwys ymwybyddiaeth o seiclwyr a marchogwyr ceffylau.

 

Canlyniad

 

·         Cytunwyd y byddai’r newidiadau a gyniwyd gan Mr Vincent yn cael eu cyflwyno i’r Cadeirydd.  Byddai materion yn ymwneud â drafftio’n cael sylw gan swyddogion, a byddai angen ystyried materion yn ymwneud â sylwedd polisi yn llawn cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Cabinet neu i’r Cyngor. Cytunwyd y byddai’r gweithgor yn cwrdd unwaith eto i roi sylw i’r materion.

·         Crynhodd y cadeirydd bod y pwyllgor wedi argymell nifer o newidiadau gan gynnwys; sicrhau bod mwy o gydweithio gyda chynghorau cymunedau a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar safbwyntiau’r gymuned leol wrth osod terfynau cyflymder.

 

 

 

Dogfennau ategol: