Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog, Gofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: Craffu ar yr Adroddiad Blynyddol (gellir cyrchu'r Adroddiad Blynyddol trwy glicio "Go to this Sway" yn yr adroddiad clawr).

Cofnodion:

·         Mae hwn yn ddull newydd o ymdrin â'r adroddiad blynyddol.  Mae'r penawdau a ddefnyddir yn safonol ledled Cymru, fodd bynnag eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn defnyddio Microsoft Sway i gynhyrchu dogfen fwy rhyngweithiol tra'n cynnwys amrywiaeth eang o dystiolaeth a ddarparwyd gan bob rhan o'r gweithlu, er mwyn rhoi tystiolaeth i ddangos sut y mae'r chwe safon ansawdd a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu bodloni. Mae'r rhain yn atodol i'r naratif craidd a gynhyrchwyd gan y Prif Swyddog.

·         Siaradodd y Prif Swyddog drwy benawdau'r penodau a thynnodd sylw at nifer o adrannau penodol.

 

 

Herio gan Aelodau

 

·         Roedd her ynghylch sut y bydd yr Aelodau'n gwybod beth yw'r gwahaniaethau pan fyddant yn edrych yn ôl ar y cynnydd yr adeg hon y flwyddyn nesaf ac a yw'r fformat hwn yn ei gwneud yn anos craffu.   Clywodd yr Aelodau fod yr adroddiad yn cynnwys cymysgedd o dystiolaeth feintiol ac ansoddol.   Mae mesurau confensiynol yn dal yn rhan o'r adroddiad a gellir eu gweld drwy ddolen.   Eglurwyd hefyd y gellir rhannu'r pecyn sleidiau a'r ffilmiau byrion planedig yn rhwydd gyda'r gymuned a'r defnyddwyr gwasanaeth.  Mae gan Sway offer hefyd sy'n gwneud y cynnwys yn fwy hygyrch.

·         Roedd y Pwyllgor am gael esboniad manylach am y gwaith sy'n digwydd i weddnewid y niferoedd presennol sy’n cynyddu yn y gwasanaethau plant.   Eglurwyd y gall gweithwyr cymdeithasol gyfeirio at dîm arbenigol i gael ymyriad â ffocws a ddylai fynd ati i ymateb i achos.   Mae hwn yn dîm sydd ag adnoddau dwys, sy'n gweithio gyda niferoedd bach o bobl ac yn gweithio i gadw plant o fewn teulu. 

·         Gofynnodd yr Aelodau am esboniad o'r cysylltiadau rhwng tlodi a'r rhai sy'n ymuno â'r system gofal.   Esboniwyd bod cydberthynas rhwng y data, ond er y gall tlodi roi pwysau aruthrol ar deuluoedd nid oes cyswllt achosol.  Mae rhai o'r materion hyn hefyd yn pontio'r cenedlaethau.  

·         Roedd her ynghylch a oedd y blaenoriaethau eang yn ei gwneud hi'n anos gweld manylion yr hyn a oedd yn cael ei gyflawni ac i'r Aelodau ddwyn swyddogion i gyfrif, er enghraifft maethu.   Eglurwyd bod llawer iawn o fanylion ac mae hyn wedi'i gynnwys mewn themâu cyffredinol ond mae'r manylion o dan y rhain wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ac mae hyd yn oed mwy o fanylion ar gael yng nghynlluniau gwasanaeth timau

·         Heriodd yr Aelodau lefel yr oedi wrth drosglwyddo gofal ac anawsterau darparu gwasanaethau mewn rhai ardaloedd ac a arweiniodd hyn at loteri cod post.   Eglurwyd bod y sefyllfa yn fwy o broblem nag a fu mewn blynyddoedd blaenorol.   Mae cysylltiadau ag anawsterau gyda'r farchnad annibynnol ar gyfer gofal cartref lle mae'n anos sicrhau darpariaeth.   Mae'r ardaloedd hyn wedi'u targedu gyda phrosiectau penodol, er enghraifft 'Troi'r Byd Ben i Waered'.

·         Heriodd yr Aelodau a oedd y lefelau ffioedd a oedd yn cael eu talu gan awdurdodau lleol i ddarparwyr gofal preifat yn creu risg nad oedd darparwyr gofal yn gynaliadwy; ceisiwyd sicrwydd bod darparwyr yn economaidd gadarn a'r effaith ar bobl os bydd y busnes yn mynd i'r wal.  Clywodd yr Aelodau fod swyddogion yn cwrdd â darparwyr ym mhob ardal yn rheolaidd i ystyried recriwtio, cadw a hyfywedd.   Mae’r gwaith sy'n mynd rhagddo fel rhan o'r prosiect 'Troi'r Byd Ben i Waered' yn golygu comisiynu mewn ffordd sy'n seiliedig ar safle sy'n gwneud y sector yn fwy cynaliadwy ac yn cydnabod y costau gwahanol mewn gwahanol rannau o'r Sir.

 

 

Deilliannau

 

·         Gofynnodd yr Aelodau i'r mesurau a'r targedau gael eu cynnwys fel Atodiad er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch gyda chysylltiadau clir â'r safonau pan fydd hyn yn cael ei gymryd i'r Cyngor.

·         Nododd Aelodau y gallai fod angen rhoi hyfforddiant ar Microsoft Sway os yw hyn i gael ei ddefnyddio'n fwy yn y dyfodol

·         Gofynnodd yr Aelodau a oedd yn bosibl casglu data pellach ar gefndir economaidd-gymdeithasol plant sy'n mynd i ofal i ddeall yn well y cysylltiadau rhwng gofal a thlodi.

·         Nodwyd y sefyllfa bresennol o ran oedi wrth drosglwyddo gofal a chaiff adroddiad llawn ar ofal yn y cartref ei gyflwyno yng nghyfarfod llawn nesaf y Pwyllgor Dethol Oedolion.

·         Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Aelod Cabinet yn gofyn am unrhyw fyfyrdodau pellach.

 

Dogfennau ategol: