Agenda item

Cynllun Corfforaethol: Dal Aelodau'r Cabinet i gyfrif ar berfformiad ac alinio’r ddarpariaeth gwasanaeth â'r cynllun corfforaethol

Cofnodion:

3.    Nodau'r Cynllun Corfforaethol a Mesurau Perfformiad Cenedlaethol

 

·         Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Perfformiad.  Esboniwyd bod yr adroddiad yn cwmpasu'r 22 o bethau y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w cyflawni erbyn 2022 fel rhan o'i bum amcan llesiant o fewn y Cynllun Corfforaethol. 

·         Mae'r adroddiad yn ymdrin â chynnydd yn erbyn yr amcanion sydd fwyaf perthnasol i'r Pwyllgorau Dethol Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc ac yn dangos sut y maent yn cyfrannu at y nodau cenedlaethol a nodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Ceir asesiadau yn erbyn yr amcanion cyffredinol a'r camau unigol yn yr adroddiad.

 

Herio gan Aelodau

 

·         Cafwyd her ynghylch y broses ar gyfer pennu lefel yr asesu.  Esboniwyd bod y penderfyniadau hyn yn cael eu llunio drwy ddefnyddio fframwaith hunan-werthuso'r Cyngor. Cyfunwyd pob cam a aseswyd ac yna'r asesiad o gamau gweithredu unigol er mwyn rhoi asesiad cyffredinol sy'n gweithredu fel dyfarniad cryno ar lefel uwch.

·         Heriwyd y lefel a aseswyd o berfformiad 'digonol' a neilltuwyd ar gyfer y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Clywodd yr Aelodau, er nad oedd y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 4, yn y fan lle'r oeddem am iddynt fod yn 2018, roedd perfformiad cyffredinol yn y cyfnod sylfaen yn parhau'n uchel tra bod gwelliant wedi'i wneud yn lefelau 2 a 3 ar y lefel ddisgwyliedig a'r lefel ddisgwyliedig +1.  Atgoffwyd yr Aelodau y byddai adroddiad ar D? Mounton yn dod yn ôl i'r Pwyllgor yn ddiweddarach ym mis Medi. Clywodd yr Aelodau hefyd na fu gostyngiad yn arian yr AALl ar gyfer cynorthwywyr addysgu ac y bydd yn parhau felly pan fydd plant yn bresennol gyda lefel o angen sydd wedi'i asesu'n glir. 

·         Gofynnodd yr Aelodau a oedd problemau o ran y cysylltiadau rhwng addysg ac iechyd ym maes iechyd meddwl pobl ifanc.   Clywodd yr Aelod am y 'Model Mynydd Iâ' o ddarpariaeth ar gyfer asesu ac ymyrryd yn gynnar a ariannwyd gan y gronfa trawsnewid.

·         Gofynnodd yr Aelodau am ragor o fanylion ynghylch pam nad oedd y perfformiad yn 2018 ar y lefel ddisgwyliedig ac fe'u hatgoffwyd bod y data hwn wedi cael ei archwilio yn ystod y deuddeng mis diwethaf mewn nifer o feysydd. Clywodd yr Aelodau hefyd gan yr Aelod Cabinet a eglurodd ychydig o'r gweithgaredd a gyflwynwyd i gynorthwyo dysgwyr agored i niwed i gael cymorth wedi'i dargedu ym mlwyddyn 11. 

·         Codwyd her ynghylch a ellid diwygio'r cynllun corfforaethol i gefnogi Ysgol T? Mounton.  Ymatebodd yr Aelod Cabinet y bydd y Cabinet yn sicrhau bod disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn cael eu haddysgu yn yr amgylchedd mwyaf priodol.

·         Heriodd yr Aelodau'r asesiad o'r amcan Lles Gydol Oes fel 'da', er enghraifft gan fod llai o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon. Clywodd yr Aelodau gan yr Aelod Cabinet fod cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod cyfleoedd ar gael, er enghraifft drwy ein canolfannau hamdden a gynhelir, ac mewn rhai achosion, eu huwchraddio a hefyd gynnal digwyddiadau fel Gemau Sir Fynwy.

·         Heriodd yr Aelodau'r penderfyniad i gadw gwasanaethau twristiaeth, hamdden a diwylliant yn fewnol yn dilyn faint o adnoddau a ddefnyddiwyd i baratoi'r achos busnes.   Clywodd yr Aelodau gan yr Aelod Cabinet na ddylai'r awdurdod fod ofn arloesi a rhoi cynnig ar wahanol bethau, ond weithiau byddwch yn dilyn opsiynau, yn rhoi pwysau arnynt ac yn penderfynu peidio â dilyn llwybr penodol.   Cyfeiriwyd at Ganolfan Hamdden Trefynwy fel enghraifft o sut y gall gwasanaethau ffynnu'n fewnol.

·         Cododd yr Aelodau gwestiwn ynghylch a oedd Aelodau'r Cabinet mor heriol o swyddogion ag y gallent fod.  Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu bod her yn digwydd ac y byddai mwy o adborth oddi wrth Bwyllgorau Dethol yn cael ei groesawu ac atgoffodd y Pwyllgor bod y Cabinet hefyd yn cael ei ddal i gyfrif yn y cyngor llawn.  Roedd yr Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc hefyd wedi cyfeirio at gyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg ac Ysgolion i herio perfformiad a sicrhau ffocws ar ddeilliannau dysgwyr.

·         Cafwyd her o ran dewis mesurau a ddewiswyd i ddangos tystiolaeth o gynnydd.   Clywodd yr Aelodau fod ystod eang o fesurau yn dod o'r fframweithiau cenedlaethol a ragnodwyd gan Lywodraeth Cymru a chynlluniau busnes y gwasanaethau, a'u bod wedi'u cynnwys ar sail eu perthnasedd i'r cynllun corfforaethol.

 

Deilliannau

 

·         Bod y Pwyllgor yn mynegi pryder i Aelodau'r Cabinet y gall dyfarniad o 'da' gael ei roi ar waith yn rhy gynnar weithiau, pan fyddwn yn dal i newid a chyn i welliannau ddod i'r amlwg.

·         Bod cadeiryddion craffu yn cael cyfle i eistedd gyda'r tîm perfformiad i sicrhau dealltwriaeth o sut y cymhwysir y sgoriau gwerthuso a sut y mae'r dystiolaeth yn arwain at ddyfarniadau gan ddefnyddio'r fframwaith hunanwerthuso.

·         Mae'r Pwyllgor yn dymuno gweld tystiolaeth, pan fydd ar gael, bod yr arian ychwanegol a roddir i gynorthwyo dysgwyr sy'n agored i niwed yn cael yr effaith a ddymunir.

 

 

 

Dogfennau ategol: