Agenda item

Cais DM/2019/00796 - Cadw adeiladau presennol a diwygiadau i strwythur toeau a gweddluniau allanol. Tir yn y Bridge House, Canolfan Arddio Cas-gwent yr A48 i Fryn Pwllmeurig, Pwllmeurig.

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad yn ymwneud gyda’r cais a’r ohebiaeth hwyr ac argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar yr wyth amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.   

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Nid yw’r datblygiad wedi ei adeiladu yn unol gyda’r cynlluniau cymeradwy. Diolchodd yr Aelod lleol i’r Swyddog Cynllunio am gysylltu gyda'r ymgeisydd er mwyn gwneud y newidiadau priodol  i wella’r datblygiad a’i wneud yn fwy cydnaws gyda’r hyn sydd i’w weld ar hyn o bryd ar y strydoedd.  

 

·         Nid yw un o’r modurdai wedi ei leoli mewn lle delfrydol. Fodd bynnag, hyd yn oed os caiff ei symud ymlaen, ni fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r annedd.  

 

·         O ran y modurdai, mae’r Aelod lleol yn bles fod yna amod i gadw’r modurdai am byth.   

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol gwestiynau am statws y modurdai yn y cais gwreiddiol ac am y deunyddiau a gytunwyd a’r math o  rendr sydd yn cael ei ddefnyddio.

 

Wedi derbyn adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd gan yr Aelod lleol, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ystyriwyd bod yr anheddau ac un o’r modurdai yn dderbyniol. Fodd bynnag, roedd y modurdy arall yn annerbyniol.  

 

·         Dywedodd y Rheolwr Ardal Rheolaeth Datblygu  wrth y Pwyllgor fod uchder y modurdy yn y cais presennol yn is na’r modurdy a gymeradwywyd yn wreiddiol. 

 

·         Mae’r math o rendr sydd i’w ddefnyddio i’w gytuno drwy’r Panel Dirprwyo neu mae modd gosod amod.  

 

·         Nid yw’r ddarpariaeth parcio yn amodol ar y caniatâd blaenorol. Roedd yn gyson gyda’r cynlluniau cymeradwy. Fodd bynnag, mae modd gosod cadw’r ddarpariaeth parcio am byth fel amod  ynddo’i hun.

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi datgan y byddai’r modurdai yn cael eu hadeiladu o gerrig gyda’r tai yn cael eu hadeiladu o gerrig a rendr, rendr meddal gobeithio sydd yn gyson gyda’r  gyda’r hyn sydd i’w weld ar hyn o bryd ar y strydoedd. Mae modd ychwanegu amod i’r cais gwreiddiol o ran y meysydd parcio. 

 

·         Roedd yna gefnogaeth i’r Swyddogion Cynllunio yn mynd ati i sicrhau newidiadau o’r cynllun. Fodd bynnag, roedd yna bryderon am leoliad un o’r modurdai. 

 

·         Dywedodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu  wrth y Pwyllgor fod uchder yr anheddau yn is na’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. Mae modurdai wedi eu cymeradwyo cyn hyn ar y safle sydd yn uwch na’r hyn sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Mae’r modurdai yn cael llai o effaith na’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol. 

 

·         Ystyriwyd bod cyfeiriadedd un o’r modurdai yn anghywir wrth yrru ar y safle.  

 

·         Wrth ymateb i’r sylwadau a wnaed, dywedodd y  Pennaeth Gwneud Llefydd, Priffyrdd a Llifogydd nad oedd modd gwrthod y cais gan nad yw fel y cynllun gwreiddiol. Mae ond modd ei wrthod os caiff ei ystyried fod niwed yn cael ei wneud gan yr hyn sydd yn cael ei gynnig nawr.  

 

·         Awgrymwyd y dylid gohirio ystyriaeth o’r cais er mwyn caniatáu’r Adran Priffyrdd i ymchwilio a yw’r newidiadau yn briodol er mwyn caniatáu i gerbydau i adael y modurdai i ymuno â’r briffordd mewn  gêr symud ymlaen.

 

·         Yn ei ffurf bresennol, ystyriwyd fod perthynas y modurdai gyda’r t?, a’r  hyn sydd i’w weld ar hyn o bryd ar y strydoedd, yn andwyol o ran ymddangosiad a chymeriad. Awgrymwyd y gallai’r Pwyllgor bleidleisio yngl?n â chymeradwyo’r tai ai peidio. Byddai hyn yn cael ei ddilyn gan bleidlais i ystyried gwrthod y modurdai. 

 

·         Dywedodd y Rheolwr Ardal Rheolaeth Datblygu  wrth y Pwyllgor fod y trefniadau mynediad yr un peth â’r hyn a gymeradwywyd yn wreiddiol gan y Pwyllgor Cynllunio. Gofynnodd y gymuned leol am leihau’r wal ffin o ddau fetr i un medr. Felly, byddai hyn yn golygu bod y modurdai yn fwy gweledol. Mae’r ymlediadau gweledol hefyd wedi eu gwella. Mae’r ddarpariaeth parcio a throi yr un peth â’r hyn a gytunwyd cyn hyn gan y Pwyllgor Cynllunio. 

 

·         Dywedodd yr Aelod lleol  y byddai’n well cael y modurdai yn hytrach na wal un medr.  

 

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir G. Howard, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir A. Webb, y dylid ystyried rhannu’r penderfyniad, sef cadw’r tai ond nid cadw’r modurdai.  

 

Cynnig: cadw’r tai:

 

O blaid y cynnig                      -           8

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Heb bleidleisio             -           1

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Cynnig: Ailystyried gyda’r ymgeisydd cyfeiriadedd, ôl-troed a’r materion priffyrdd sydd yn ymwneud gyda'r modurdai garages:

 

O blaid y cynnig                      -           4

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Heb bleidleisio             -           5

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Cynhaliwyd pleidlais fel bod y Swyddogion Cynllunio yn cysylltu gyda’r ymgeisydd o ran y modurdai. Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi cytuno, drwy bleidlais fwyafrif, i weithredu’r cynnig hwn.  

 

Roeddem wedi penderfynu gohirio ystyriaeth o gais DM/2019/00796 i’r cyfarfod Pwyllgor Cynllunio nesaf. Mae’r dyluniadau tai diwygiedig yn dderbyniol ond mae angen i’r ymgeisydd i ail-ystyried y modurdai drwy leihau’r ôl-troed ac ystyried ail-gyfeirio llinellau’r toeon.  

 

Dogfennau ategol: