Agenda item

Cais DM/2019/00346 - Cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl (ymddangosiad, graddfa, cynllun a thirlunio) ar gyfer datblygu 106 o anheddau preswyl yn unol â chaniatâd amlinellol DC/2016/00880. Orchard Lea, Gypsy Lane, Llan-ffwyst.

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad yn ymwneud gyda’r cais a’r ohebiaeth hwyr ac argymhellwyd eu bod yn cael eu cymeradwyo, yn amodol ar yr wyth amod fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.   

 

Roedd yr Aelod lleol dros Llan-ffwyst, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mynegwyd pryderon am statws y cysylltiadau i gerddwyr yn y cynlluniau, yn enwedig o ran ffin gogledd orllewinol y safle. Nid yw hyn yn llwybr sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml. Os yw’r llwybr am fod yn hyfyw a’n cael ei ddefnyddio yn aml, bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw cyson ar y llwybr. 

 

·         Ystyriwyd bod gosod y cerbyty ar ganol yr iard / maes parcio yn  amhriodol a gwnaed cais i adolygu hyn. 

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â’r defnydd o Gypsy Lane o ran cyflymder eithriadol y traffig ar hyd yr heol hon. Mae’r heol eisoes yn cael ei defnyddio yn helaeth fel ffordd i’r de. Mynegwyd pryderon nad oedd unrhyw fesurau lliniaru yn nodi sut y mae’r cytundeb Adran 106 o bosib yn medru mynd i’r afael gyda hyn.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol bod y Pwyllgor yn rhoi caniatâd i ystyried disodli rhannau o ddosbarth A i’r estyniadau ochr ar y plotiau os oes yna le parcio ar ochr yr annedd.  

 

·         Mynegwyd pryderon fod nifer y bythynnod gorllewinol yn ormodol. Gellid ystyried hyn eto gyda chytundeb y Panel Dirprwyo.

 

Mewn ymateb i’r materion sydd wedi eu codi gan yr Aelod lleol, roedd y Pennaeth Gwneud Llefydd, Priffyrdd a Llifogydd wedi rhoi’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

 

·         Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol. Roedd y materion a gedwir yn ôl wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar gyfer eu hystyriaeth. 

 

·         Mae hawl tramwy cyhoeddus cyfredol y tu nôl i’r datblygiad. Nid oes yna gynnig i newid yr hawl tramwy ac eithrio creu cysylltiadau newydd o’r datblygiad arfaethedig er mwyn gwella  cysylltedd.

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaethau datblygu wedi  rhoi’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

 

·         O ran y dyluniad, mae modd adolygu’r Cerbyty a’r teras gorllewinol.  

 

·         O ran hawliau datblygu a ganiateir, gellir ychwanegu amod y dylid cadw’r meysydd parcio ar gyfer darpariaeth parcio a fyddai wedyn yn atal anheddau rhag cael eu hadeiladu ar y meysydd parcio yma.  

 

·         Gan fod hyn yn gais mater a gedwir yn ôl, nid oes modd ystyried defnydd cerbydau a chyflymder y traffig ar hyd yr heol B gan fod egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei gytuno. Gallai’r Adran Priffyrdd ystyried y mater hwn y tu hwnt i sgôp y cais. 

 

Wrth ystyried y cais, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ystyriwyd bod angen gostwng cyfyngiad cyflymder ar hyd Gypsy Lane.

 

·         Mae angen ail-ddylunio’r teras.  

 

·         Mae darparu safle bws wedi ei ystyried yn y cais cynllunio amlinellol.

 

·         Byddai’n rhaid bod wedi ystyried y pwyntiau electrig yn ystod y cam cais cynllunio amlinellol fel rhan o gytundeb Adran 106.

 

·         Mae’r simneiau ffug yn ei gwneud hi'n fwy anodd i osod paneli solar ar y toeon. Byddai amddiffyn i simneiau ffug yn effeithio’n andwyol ar y cyfleoedd i fanteisio ar ynni solar.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir R. Harris, y dylid cymeradwyo cais  DM/2019/00346, yn amodol ar yr wyth amod, fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ac yn amodol  hefyd ar amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod y meysydd parcio yn cael eu cadw drwy’r amser at ddibenion parcio. At hyn, dylid ail-ddylunio’r teras hir, adolygu’r uned cerbyty yn  y maes parcio ac ystyried tynnu’r simneiau ffug oddi yno. Mae’r diwygiadau yma i’w cyflwyno i’r Panel Dirprwyo ar gyfer cael eu cymeradwyo.   

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cynnig                      -           8

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Heb bleidleisio             -           1

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais  DM/2019/00346 yn amodol ar yr wyth amod, fel sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ac yn amodol hefyd ar amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod y meysydd parcio yn cael eu cadw drwy’r amser at ddibenion parcio. At hyn, dylid ail-ddylunio’r teras hir, adolygu’r uned cerbyty yn  y maes parcio ac ystyried tynnu’r simneiau ffug oddi yno. Mae’r diwygiadau yma i’w cyflwyno i’r Panel Dirprwyo ar gyfer cael eu cymeradwyo.   

 

 

Dogfennau ategol: