Canllawiau ~
Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd
dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir
Fynwy
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion
sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich
sylwadau
drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
- Rhannwch eich barn
drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4
munud); neu
- Cyflwynwch sylwadau
ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion
mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r
Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y
sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain,
yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor
Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i
gynghorwyr cyn y cyfarfod.
Os hoffech fynychu un o’n
cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd
angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu
â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.
Y cadeirydd sy’n penderfynu
faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond
i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw
cyfraniadau yn hirach na 3 munud.
Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau
Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy
e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk