Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Is-gadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir John Crook yn Is-gadeirydd..

 

2.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Sir Tony Easson ddiddordeb personol nad yw’n rhagfarnu yn unol â’r Cod Ymddygiad Aelodau yng nghyswllt pob eitem agenda gan ei fod yn gwybod am faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch y cais gan Gyngor Sir Fynwy.

 

3.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 – Adran 53 Gorchymyn Addasu Llwybr Map Diffiniol, A i G, Llwybrau Troed 83 a 84 Cil-y-coed – Mur y Môr. pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad a chyflwyniad gan y Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad a’r Swyddog Map Diffiniol a chawsom ein hysbysu fod gan yr Awdurdod ddyletswydd i adolygu’r Map a’r Datganiad Diffiniol yn barhaus. I gyflawni’r ddyletswydd hon mae angen i’r Cyngor ystyried a phenderfynu achosion gyda golwg ar wneud gorchymyn i newid y Map a Datganiad Diffiniol. Fe wnaeth codi cwestiwn am lwybr brig mur y môr ynghyd ag ymateb y cyhoedd hi’n hanfodol cynnal ymchwil i benderfynu p’un ai, o bwyso a mesur tebygolrwydd, fod hawliau cyhoeddus eisoes yn bodoli drwy’r safle. Esboniwyd cyfraith gyffredin a deddfwriaeth berthnasol. Fe wnaeth y cyflwyniad barhau am 1.5 awr ac yn cynnwys manylion am leoliad, y gofrestrfa tir, gwrthwynebiadau, tystiolaeth o fapiau hanesyddol, map a datganiadau diffiniol, lluniau o’r awyr, lluniau safle a thystiolaeth defnyddwyr.

 

Diben yr adroddiad yw ystyried yr holl dystiolaeth hanesyddol a ph’un ai i ychwanegu’r llwybrau troed honedig at Fapiau a Datganiad Diffiniol Sir Fynwy. Rhoddir y llwybrau i’w hychwanegu i gymuned Cil-y-coed ar y map gorchymyn.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gwahoddwyd Aelodau i drafod a rhoi sylwadau a chafodd aelodau o’r cyhoedd gyfle i siarad, fel sy’n dilyn:

 

·         Ni ddylai’r Pwyllgor ystyried angen, niwsans nac addasrwydd, dim ond os penderfynu os yw’r cyhoedd wedi cerdded y llwybr am gyfnod sylweddol.

·         Holodd Aelod am lwybrau mynediad i’r maes tanio.

·         Roedd aelod o’r cyhoedd sy’n byw yng Nghil-y-coed wedi cerdded y llwybr a dywedodd fod pyst baneri yn gwneud synnwyr.

·         Dywedodd aelod o’r cyhoedd ei fod wedi defnyddio llwybr mur y môr iddo ers iddo fod yn 8 oed ac roedd bellach yn 70 oed ac roedd yn llwybr hyfryd.

·         Dywedodd aelod o’r cyhoedd fod Llwybr Arfordirol Cymru sy’n rhedeg i fewn ir tir o’r ddau faes tanio yn hyll ac yn llwybr mwy peryglus i gerddwyr a bod mur y môr yn llwybr da.

·         Cadarnhaodd aelod o’r cyhoedd y bu llwybr concrit ar fur y môr dan y bwtres am o leiaf 60/70 mlynedd ac mae’n llwybr cerdded poblogaidd a ddefnyddir bob dydd.

·         Anghytunai’r Cyngor Sir am yr ardal (oedd yn cynrychioli’r maes tanio) am nifer o agweddau y dystiolaeth tebyg i dderbyn fod y llwybr ar y Map Diffiniol wedi erydu, ar y daliwr bwled ac nid mur y môr ac nid yw gosod y blychau sentri a’r clwydi moch yn cadarnhau’r llwybr gwreiddiol gan eu bod wedi eu gosod i weld cychod sydd yn y maes tanio i sicrhau fod tanio’n dod i ben. Nid yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwybod y bydd nifer fwy o ymwelwyr ar y maes tanio (G i N). Nid oes unrhyw fudd i wneud y llwybr yn un swyddogol gan y bydd angen adolygu adrannau pellach. Pan mae baneri coch yn cyhwfan, mae cerddwyr yn aros i basio’r daliwyr bwled tra gofynnir am atal tanio a gwirio gynnau i sicrhau nad oes bwledi ynddynt. Nid oes unrhyw is-gyfreithiau am ddefnydd y cyhoedd. Mae swyddogion Iechyd a Diogelwch yn ystyried bod y safle yn cael ei reoli’n dda.

·         Dywedodd Aelod o’r cyhoedd bod  ...  view the full Cofnodion text for item 3.