Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol – Canllawiau

 

 

Our Select Committee meetings are live streamed and a link to the live stream will be available on the meeting page of the Monmouthshire County Council website

 

 

If you would like to share your thoughts on any proposals being discussed by Select Committees, you can submit your representation in advance via this form



·      Please share your views by uploading a video or audio file (maximum of 4 minutes) or;

·      Please submit a written representation (via Microsoft Word, maximum of 500 words)

 


You will need to register for a
My Monmouthshire account in order to submit the representation or use your log in, if you have registered previously.

 

The deadline for submitting representations to the Council is 5pm three clear working days in advance of the meeting. 

 

If representations received exceed 30 minutes, a selection of these based on theme will be shared at the Select Committee meeting.  All representations received will be made available to councillors prior to the meeting.

If you would like to attend one of our meetings to speak under the Public Open Forum at the meeting, you will need to give three working days’ notice by contacting Scrutiny@monmouthshire.gov.uk  

The amount of time afforded to each member of the public to speak is at the chair’s discretion, but to enable us to accommodate multiple speakers, we ask that contributions be no longer than 3 minutes. 

If you would like to suggest future topics for scrutiny by one of our Select Committees, please do so by emailing
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd.

 

 

3.

Polisi Cludiant Cartref i'r Ysgol: Cynnal craffu cyn penderfynu ar y polisi. pdf icon PDF 683 KB

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Martyn Groucott wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau'r Aelodau gyda  Debra Hill-Howells a Becky Pritchard.

 

Her:

Mae llefydd gwag weithiau yn cael eu cymryd gan bobl sydd yn dymuno danfon eu plant i ysgolion y tu allan i’r ardal dalgylch. A oes yna ffi ar gyfer hyn? Sut ydym yn pennu pwy fydd yn cymryd y llefydd gwag sydd yn weddill?

Mae’r polisi yn eglur bod plant yn cael eu cludo i’r ysgol agosaf neu’r ysgol dalgylch, ac felly, nid  oes hawl gan rieni i ddewis pa ysgol y bydd y drafnidiaeth yn cludo disgyblion. Ond oes yna lefydd gwag ar y bws, mae modd i ni rhyddhau’r rhain er mwyn talu am ychydig o gost y drafnidiaeth. Bydd ceisiadau ôl-16 yn cael eu blaenoriaethu gan nad oes yna ofyniad statudol ar gyfer eu cludo a byddem am eu cefnogi i barhau gyda’u haddysg.   Os oes yna seddi gwag da ar ôl, mae yna bolisi consesiynol y mae rhieni yn medru gwneud cais ar ei gyfer, a hynny ar y sail mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu; yn y polisi newydd, rydym yn cynnig delio gyda hyn drwy ffafrio’r sawl sydd yn byw bellaf o’r ysgol.

 

A yw’r trothwy diogelwch yn y mesur teithio ar gyfer dysgwyr yn rhy uchel? A oes modd diwygio’r asesiad cerdded fel bod yna broses apêl lle y mae Aelodau lleol yn medru cyflwyno eu dealltwriaeth o’r ardal leol i’r Prif Swyddog? 

Nid oes unrhyw newid i’r pellter y byddai disgwyl i ddisgybl gerdded cyn bod yn gymwys ar gyfer cludiant. Mae’r penderfyniad yngl?n ag a yw’n ddiogel i gerdded yn cael ei wneud gan Swyddog Diogelwch y Ffordd annibynnol ac nid gan aelod o’r tîm trafnidiaeth ysgol. Rydym ond wedi ehangu ar yr esboniad (e.e. rydym yn cymryd yn ganiataol bod pob plentyn ysgol gynradd yn cael ei dywys gan oedolyn) – mae’r polisi sylfaenol yn parhau heb ei newid.  

 

O dan y goblygiadau adnoddau, y gost ar gyfer 22/23 yw tua £5.4m. A yw hyn wedi ei brofi eto yn sgil y cynnydd mewn costau byw a thanwydd ayyb, ac os felly, sut?

Rydym yn mynd allan i dendr ar gyfer ein holl gontractau, ac maent yn cael eu dyfarnu yn gwbl gywir a heb ffafriaeth. Rydym hefyd yn gofyn i’n tîm mewnol i gyflwyno tendr o ran cost fel bod modd ni gymharu’r ddarpariaeth fewnol gyda’r ddarpariaeth allanol.  Nid ydym yn derbyn unrhyw dendrau ar gyfer rhai contractau, ac felly, nid oes dewis gan ein tîm mewnol ond ymgymryd â’r contract. Mae hyn wedi golygu bod rhaid i ni brynu cerbydau newydd, gan gynyddu cost y ddarpariaeth i’r Awdurdod. Rhaid i ni dalu am unrhyw gynnydd gan ddibynnu ar y darlun cenedlaethol, gan weithio gyda chydweithwyr yn Nhorfaen a Chasnewydd er mwyn sicrhau, pan fyddwn yn gwneud hyn, nad ydym yn creu marchnad  a chystadleuaeth rhyngom ni a’r awdurdodau cyfagos. Mae’r Awdurdod yn talu am y rhan fwyaf o’r gost, ac nid yw’n effeithio ar ddefnyddwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cyflwyniad - Gorsafoedd ambiwlans Trefynwy a Chas-gwent: Trafod y newidiadau i orsafoedd ambiwlans yn Nhrefynwy ac ar wal Parc rhwng Cas-gwent a Chil-y-coed.

Cofnodion:

Roedd Jason Killens ac Estelle Hitchon wedi mynychu o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac wedi rhoi’r cyflwyniad ac ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Her:

Yr pryder allweddol yw tynnu’r cerbydau ymateb brys o Drefynwy a Chas-gwent, ac felly, mae’n mynd i effeithio ar yr amser i ymateb i achosion fel trawiad ar y galon neu ddamwain difrifol ar y fferm yn yr ardaloedd hynny.

Rydym yn cydnabod y pryderon yma. Rydym yn ceisio defnyddio’r adnoddau sydd gennym yn y ffordd fwyaf effeithlon, er mwyn sicrhau’r gorau ar gyfer ein cleifion. Mae’n wir fod y data a ddefnyddir yn deillio o  2019, a bod llawer wedi newid ers hyn; ym Mai, roeddem wedi gwneud modelu gyda chwmni gwahanol er mwyn profi a oedd yr hyn yr ydym yn bwriadu gwneud yn mynd i arwain at welliannau mewn amser oedd ymateb ac mae’r ateb yn bositif. Tra y bydd yna lai o fudd o wneud hyn, yn sgil yr aflonyddwch a cholledion yn yr adrannau damweiniau brys, byddwn yn gweld cynnydd yn y perfformiad coch ac ambr. Ni fydd y newidiadau roster yn cywiro’r problemau yr ydym yn wynebu o ran amseroldeb ein hymateb ond byddant yn helpu.  

 

Mae’r modelau yn cynnwys sicrwydd ond beth os yw’r amseroedd ymateb yn methu?  

Rydym yn monitro perfformiad bob awr. Os yw’r perfformiad yn dirywio, byddwn yn ystyried yn gyntaf pam fod hyn wedi digwydd  e.e. a oes mwy o weithgarwch, mwy o gapasiti wedi ei golli mewn unedau damweiniau brys ayyb neu fel ararall, byddem yn ymateb drwy newid yr adnoddau sydd ar gael, ychwanegu mwy o bobl, newid oriau neu’n gweithredu mesurau eraill. Dylid cofio ein bod yn gosod mwy o ambiwlansys ac adnoddau gofal brys ychwanegol mewn ymateb i’r newid yn  rhestr waith yr ambiwlansys.

 

Gyda llai o ambiwlansys yn yr ardaloedd yma, a fydd yr ambiwlansys awyr yn cael eu defnyddio’n fwy aml?

Nid ydym yn lleihau’r nifer o ambiwlansys ond yn cyflwyno mwy . Bydd mwy ar gael ar lefel genedlaethol a lleol - mwy na 30 yn genedlaethol, gyda mwy na 40 o oriau ychwanegol ar draws y fflyd yn Sir Fynwy bob wythnos. Nid ydym yn gyfrifol am Ambiwlans Awyr Cymru ond rydym yn ymwybodol bod eu modelu hwythau ar y newidiadau arfaethedig i’w gwaith yn dangos na fydd unrhyw ddirywiad ar gyfer cleifion sydd angen Ambiwlans Awyr neu’u hymateb i ddamweiniau ffordd - nid oes yna gysylltiad rhwng yr hyn y maent hwy yn gwneud a’r hyn yr ydym yn gwneud, ac eithrio’r ffaith bod pawb yn ceisio sicrhau’r defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael. 

 

Gyda gorsaf sy’n seiliedig ar hyb, y broblem yw’r cyfnod 8 munud – nid yw ambiwlans yn medru cyrraedd mannau yn Sir Fynwy o orsaf ganolog yn y cyfnod hwnnw. Efallai bod meddalwedd y model  yn arwain at amser ymateb gwell ar gyfartaledd ond ni fydd hyn yn berthnasol i’r ardaloedd mwy pellennig a fydd yn derbyn amser ymateb gwaeth?

Nid ydym yn cau gorsafoedd. Rydym yn buddsoddi ac yn bwriadu cynnal  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaenraglen Waith Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 376 KB

Cofnodion:

Noder yr amser dechrau cynt ar gyfer y cyfarfod cyfun ar 11eg Hydref.

 

 

6.

Cynllun Gwaith y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 50 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20fed Gorffennaf 2022. pdf icon PDF 493 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion a’u llofnodi fel cofnod cywrain.  

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf fel 15fed Tachwedd 2022.