Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Fe wnaethom ethol y Cynghorydd Sir Tudor Thomas yn Gadeirydd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Fe wnaethom benodi’r Cynghorydd Sir Jayne McKenna yn Is-gadeirydd.

 

3.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd datganiadau o fuddiant.

 

5.

Cais am Ganiatâd Masnachu Stryd Bloc ar gyfer Neuadd Bentref Tyndyrn. pdf icon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol gais am ganiatâd masnachu stryd crynswth ar gyfer Neuadd Bentref Tyndyrn, Quayside, Tyndyrn, NP16 6SZ gydag uchafswm o 12 llain. Byddai lleiniau yn seiliedig ym maes parcio, gardd ac ardal chwarae y safle.

 

Gwnaed y cais gan Drysorydd Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Tyndyrn, oedd yn bresennol yn y gwrandawiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a baratowyd gan y Swyddog Trwyddedu ac adolygodd gopi o’r cais a roddwyd gan yr ymgeisydd.

 

Daeth y cais i law’r Awdurdod Trwyddedu ar 13 Ebrill 2023.

 

Mae’r dyddiadau a’r amser a geisir gan yr ymgeisydd yn y cais fel sy’n dilyn:

 

  • Dydd Llun – 10:00–16:00
  • Dydd Sadwrn – 10:00–16:00
  • Dydd Sul  – 10:00–16:00

 

Yn y gwrandawiad eglurodd yr ymgeisydd mai’r bwriad yw cynnal Marchnad Ffermwyr / Cynnyrch Lleol fisol rhwng 10.00am a 2.00pm yn gwerthu bwyd, diod a/neu blodau (yn bennaf wedi eu tyfu/cynhyrchu yn lleol yn Sir Fynwy neu Ddyffryn Gwy) a chynnal Marchnadoedd Crefftau tua tair i bedair gwaith y flwyddyn lle bydd lleiniau yn gwerthu eitemau crefftau cartref, yn neilltuol adeg y Nadolig a’r Pasg. Eglurodd yr ymgeisydd na fwriedir gweithredu bob dydd Llun, Sadwrn a Sul drwy’r flwyddyn.

 

Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar am yr eglurhad hwn, gan nad oedd hyn yn glir o’r wybodaeth yn y cais. Nodwyd ymhellach nad oedd y ffurflen gais ei hun yn ei gwneud yn bosibl cynnwys yr wybodaeth hon. Bydd yr Adran Trwyddedu yn adolygu hyn.

 

Nododd y Pwyllgor y cafodd y cais ei anfon i ymgyngoreion statudol ar gyfer ymgynghoriad, yn cynnwys:

  • Trwyddedu yr Heddlu
  • Traffig yr Heddlu
  • Yr Aelod Ward lleol
  • Gwahanol adrannau o fewn Cyngor Sir Fynwy sef Stadau, Priffyrdd, Cynllunio ac Iechyd yr Amgylchedd. Ni chafwyd sylwadau gan unrhyw ymgynghorai statudol.

 

Nododd y Pwyllgor na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan unrhyw ymgynghorai statudol ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau pellach i’r cais.

 

Yn eu cais i’r Pwyllgor, dywedodd yr ymgeisydd mai ei dealltwriaeth oedd nad oedd unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan fusnesau lleol. Nododd y Pwyllgor hyn ond roedd yn rhaid iddo ystyried nad oedd unrhyw lythyrau cefnogi o fewn y papurau a ystyrir.

 

Nododd y Pwyllgor fod Adran 7 Polisi Masnachu Stryd Cyngor Sir Fynwy 2015 yn nodi:

 

Ni chaiff y defnydd ei leoli o fewn 100 metr o siop, bwyty, tecawê bwyd twym presennol y rhai sydd â chaniatâd masnachu stryd a marchnadle (sy’n cynnwys caniatâd crynswth).

 

Ystyriodd y Pwyllgor Atodiad C yr adroddiad sy’n dangos y pellter rhwng Neuadd Pentref Tyndyrn a safleoedd a all werthu nwyddau tebyg. Nodwyd y dilynol:

  • Old Filling Station – 27.41 metr
  • Anchor Inn – 162.25 metr
  • The Wild Hare – 82.84 metr
  • Abbey Mill – 69.40 metr
  • Leyton’s Field (safle G?yl Tyndyrn) – 75.03 metr – Cynhelir G?yl Tyndyrn yn flynyddol ar Leyyon’s Field sy’n agos at Neuadd Pentref Tyndyrn.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ofalus i p’un ai oedd yn debygol y byddai’r drwydded arfaethedig yn effeithio ar y busnesau lleol. Rhoddwyd ystyriaeth neilltuol i natur y busnesau lleol, y cynnyrch a gynigir gan y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 139 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

7.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2023 am 10.00am.

Cofnodion:

Dydd Mawrth 25 Gorffennaf am 10.00am