Agenda and minutes

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Mawrth, 3ydd Awst, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

2.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 243 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6ed Gorffennaf 2021 gan y Cadeirydd.

3.

Cais DM/2020/01801 - Defnyddio garej ddomestig fel annedd am gyfnod dros dro tra bod gwaith adeiladu yn cael ei wneud ar drawsnewid ysgubor sydd â chaniatâd. Melin Campston, Heol Barry-Cathlea, Llanfihangel Crucornau, Sir Fynwy, NP7 8EF. pdf icon PDF 33 KB

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried adroddiad y cais a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r ddau amod a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth nodi manylion yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Dylid ystyried diwygio amod 2, fel a ganlyn:

 

-       Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i'r defnydd o fodurdy.

 

·         O ran y dyddiad 14eg Tachwedd 2022 lle bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd yn dod i ben ar neu cyn y dyddiad hwn, nodwyd bod y diwydiant adeiladu yn cael amseroedd anodd gan ei gwneud yn anodd i gontractwyr gwblhau gwaith ar amser.  Felly, dylid ystyried rhywfaint o hyblygrwydd mewn perthynas â'r dyddiad hwn.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, dywedodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor fod gan yr adeilad lawr uchaf.  Byddai defnyddio'r adeilad yn cwmpasu'r llawr uchaf a'r llawr isaf gyda'r defnydd o'r adeilad yn llety byw hunangynhwysol.  Dim ond pan fydd yn dychwelyd i fod yn fodurdy y gellid defnyddio'r adeilad yn ategol. Felly, gellid diwygio Amod 2 fel a ganlyn:

 

-       Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd hunangynhwysol yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i ddefnydd preswyl ategol.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir D. Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir P. Clarke y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01801 yn ddarostyngedig i'r ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad ac y dylid newid Amod 2 fel a ganlyn:

 

Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd hunangynhwysol yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i ddefnydd preswyl ategol.

 

Ar ôl pleidleisio, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid y cais             -           11

Yn erbyn y cais                      -           0

Ymataliadau                            -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Gwnaethom benderfynu bod cais DM/2020/01801 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r ddau amod a amlinellir yn yr adroddiad ac y dylid newid Amod 2 fel a ganlyn:

 

Bydd y defnydd o'r adeilad fel annedd hunangynhwysol yn dod i ben ar neu cyn 14eg Tachwedd 2022 neu cyn gynted ag y bydd y bwthyn a gymeradwywyd o dan gais DM/2018/01956 yn cael ei ddefnyddio'n fuddiol, pa un bynnag yw'r cynharaf a'i ddychwelyd i ddefnydd preswyl ategol.

4.

Cais DM/2021/00771 - Caniatâd Cynllunio Llawn - Darparu deciau pren o dan yr ardal eistedd y tu allan bresennol. Bydd y deciau'n cynnwys pedwar stepen a rheiliau llaw. Bwyty Wye Knot, 18A The Back, Cas-gwent. pdf icon PDF 319 KB

Cofnodion:

Cafodd Cais DM/2020/00771 ei dynnu'n ôl o'r agenda er mwyn gallu cynnal trafodaethau pellach yn cynnwys swyddogion Cyngor Sir Fynwy a'r ymgeisydd.

 

Yn dilyn y trafodaethau hyn, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i'w ystyried.

5.

ER GWYBODAETH - Yr Arolygiaeth Gynllunio - Penderfyniadau o ran Apeliadau a Dderbyniwyd:

5a

Carchar Ei Mawrhydi, Brynbuga, Stryd Maryport, Brynbuga. pdf icon PDF 149 KB

Cofnodion:

Cawsom adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a oedd yn ymwneud â phenderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd yng Ngharchar Ei Mawrhydi Brynbuga, Stryd Maryport, Brynbuga, ar 14eg Mai 2021.

 

Gwnaethom nodi bod yr apêl wedi'i gwrthod.