Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiad buddiant.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

3.

Cyflwyniad ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - I’w trafod gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen yn dilyn yr Adolygiad Porth: Cyfeiriad strategol - amcanion a chynnydd hyd yma a'r manteision yn rhanbarthol ac yn lleol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Kellie Beirne y cyflwyniad ac ateb cwestiynau’r aelodau, gyda sylwadau ychwanegol gan Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter.

 

Her:

Mae 54% o breswylwyr economaidd weithredol Sir Fynwy yn gorfod mynd allan o’r sir i weithio, ac mae gennym ardaloedd lle mae amddifadedd. Gall y boblogaeth sy’n heneiddio fynd yn anghynaliadwy. Petai rhywun am ddod â buddsoddiad mawr i Sir Fynwy, sut all y Fargen Ddinesig helpu ein swyddogion? Nid oes gennym y seilwaith ar gyfer denu diwydiant, na choleg Sgiliau.

 

Rydym wedi gwneud llawer o fuddsoddiadau unigol ond er mwyn cynyddu’r effaith yn y dyfodol mae’n rhaid i ni gael ein harian i is-gronfeydd felly petai cwmni mawr yn dod i Sir Fynwy, byddai Cronfa Safle Strategol, cyllid  busnesau bach a chanolig i helpu effaith ar y gadwyn gyflenwi, cronfa fuddsoddi arloesedd - oherwydd rydym yn gwybod bod darparu cyfalaf risg yn anodd - ac ati. Mae gennym rôl yno, a thrwy’r Bartneriaeth Sgiliau, sut ydym ni’n buddsoddi mewn datblygu talent, ond rhaid i ni edrych yn ehangach na’r Fargen Ddinesig, sydd yn ddim ond pot £500m. Mae angen i ni gysylltu â’r sgwrs ehangach e.e. y Banc Seilwaith Cenedlaethol, sydd â £12-14 biliwn. Sut y gallwn ddod ger eu bron a chyflwyno cynigion? Sut allwn ni ddylanwadu ar y llun gyda’r Porth Gorllewinol? Ni fydd pob ardal yn gallu cael coleg addysg bellach ar ei throthwy. Sut allwn ni greu’r cysylltiadau, fel pan fydd rhywbeth yn cael ei ddatblygu mewn un ardal, ei fod yn ystyried y darlun rhanbarthol? Mae’r pwynt am heneiddio yn bwysig iawn. Mae’r dull o ran heriau yn allweddol oherwydd y gallai’r datrysiadau i heneiddio gael effaith economaidd anferth. Weithiau gall y materion cymdeithasol hyn arwain at fanteision economaidd. Felly nid oes atebion syml i’r cwestiynau yma - mae’n ddarlun cymhleth. Yr allwedd yw dwyn at ei gilydd lawer o wahanol edafedd a chael lefel uchel o uchelgais.

 

Rydym yn uchelgeisiol iawn, ac mae ein lleoliad daearyddol yn ddelfrydol, ond efallai bod angen rhywfaint o help o ran sut yr ydym yn ymdrin â phethau a marchnata pethau?

 

Gallaf rannu’r safbwynt buddsoddi. Fel Bargen Ddinesig rydym yn gyfyngedig, ond fel rhanbarth dinesig gallem gymryd buddsoddiad tuag i mewn, amlygu rhai o’r ardaloedd mwy a dechrau rhoi mwy o bwyslais ar lawer o’r materion hyn. Mae peth rhwystredigaeth gan ein bod ar hyn o bryd mewn sefyllfa dda ond bydd sut y byddwn yn cymryd y camau nesaf i ddatblygu’r gallu sefydliadol fel rhanbarth yn allweddol i gyflawni’r pethau hynny yr ydych newydd eu nodi.

 

O ran cydweithio gyda Bryste a’r Porth Gorllewinol, mae teimlad yn bodoli, gan ein bod ar y cyrion, efallai y gallwn syrthio rhwng Caerdydd a’r cymoedd a’r de orllewin. Sut yr ydym yn ymgysylltu â Bargen Ddinesig Bryste a sefydliadau academaidd yno, o ran datblygu sgiliau?

 

Rydym yn rhan o rwydwaith GW4 o brifysgolion - mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan amlwg yn hynny. Un o’r pethau yr ydym yn eu gweld yw, oherwydd bod gan brifysgolion rôl mor fawr i’w  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu. pdf icon PDF 514 KB

Cofnodion:

Mae gwaith ar economi’r dyfodol ac adfywio canol trefi wedi eu rhaglennu ar gyfer sesiynau yn y dyfodol. Mae’r gweithdy ar gyfer adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol wedi ei ohirio’r mis hwn oherwydd yr etholiad – bydd angen i ni ddod yn ôl ar y llwybr o ran y rhaglen gweithdai yn arwain at yr haf.

Sicrhaodd Hazel Ilett yr aelodau bod trafodaethau yn mynd ymlaen gyda swyddogion i sicrhau bod y rhaglen waith yn gyson: mae’r eitemau ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf wedi cael eu dewis yn fwriadol, i fynd o’r lefel ranbarthol i lawr i’r lefel leol, fel bod aelodau yn deall y berthynas rhwng y Fargen Ddinesig a’r hyn sy’n cael ei ddarparu yn lleol.

 

 

5.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a’r Cabinet. pdf icon PDF 164 KB

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 346 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u llofnodwyd fel cofnod cywir.

 

 

7.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Iau 10fed Mehefin 2021 am 10.00am.