Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
Datganiadau o Fuddiant |
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Caiff cyfarfodydd ein Pwyllgorau Craffu eu ffrydio’n fyw a bydd dolen i’r ffrwd fyw ar gael ar dudalen cyfarfodydd gwefan Cyngor Sir Fynwy.
Os hoffech siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd mewn cyfarfod bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o hysbysiad cyn y cyfarfod drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Y Cadeirydd fydd yn penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond er mwyn ein galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr gofynnwn nad yw cyfraniadau yn ddim hirach na 3 munud.
Yn lle hynny, os hoffech gyflwyno sylwadau ysgrifenedig, sain neu fideo, cysylltwch â’r tîm yn defnyddio’r un cyfeiriad e-bost i drefnu hyn os gwelwch yn dda. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Cyngor yw 5 pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os yw cyfanswm y sylwadau a geir yn fwy na 30 munud, caiff detholiad o’r rhain yn seiliedig ar thema ei rannu yn y cyfarfod. Bydd yr holl sylwadau geir ar gael i’r cynghorwyr cyn y cyfarfod.
Os hoffech awgrymu pynciau ar gyfer craffu arnynt yn y dyfodol gan un o’n Pwyllgorau Craffu, gwnewch hynny drwy anfon e-bost at Scrutiny@monmouthshire.gov.uk os gwelwch yn dda.
|
|
Cyfrifoldebau ac Ariannu Priffyrdd - Rhoi trosolwg o'r cyllid ar gyfer priffyrdd, cyfrifoldebau'r Cyngor, Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ac eraill. Trafodaeth ar faterion a godwyd gan Aelodau mewn perthynas â'r M48, yr A466 a'r ddwy Bont Hafren. |
|
Trwsio Tyllau ac Atgyweirio Ffyrdd - Rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o sut y bydd yr arian diweddar a ddyrannwyd i Gynghorau gan Lywodraeth y DU yn cael ei wario yn Sir Fynwy. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10fed Chwefror 2025 (i ddilyn). |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Cyfarfod Nesaf: 12fed Mai 2025 am 10.00am. |