Agenda and decisions

Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol - Dydd Mercher, 18fed Rhagfyr, 2024 5.00 pm

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

RHEOLIADAU AWDURDODAU LLEOL (PRAESEPTAU) (CYMRU) 1995 DEDDF LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) 1994 - Cynnig Amserlen Taliadau pdf icon PDF 119 KB

CABINET MEMBER:             County Councillor B Callard

 

AUTHOR: Ruth Donovan

Assistant Head of Finance

email:ruthdonovan@monmouthshire.gov.uk

phone: (01633) 644592

 

Penderfyniad:

Y cynigiwyd yr amserlen taliadau ganlynol yn disgwyl ymgynghoriad:

 

Caiff praesept Awdurdod yr Heddlu ei dalu o Gronfa’r Cyngor drwy ddeuddeg rhandaliad misol cyfartal ar drydydd dydd Mawrth pob mis.

 

Caiff praeseptiau Cynghorau Cymuned eu talu drwy dri rhandaliad cyfartal ar y diwrnod gwaith olaf ym mis Ebrill, mis Awst a mis Rhagfyr bob blwyddyn.

 

Ymgynghorir â Chynghorau Cymuned cyn y penderfyniad a chaiff ymateb yr ymgynghoriad ei ystyried wrth wneud y penderfyniad terfynol.

 

Caiff adroddiad pellach ei baratoi ar ganlyniadau’r ymgynghoriad gan alluogi gwneud penderfyniad erbyn 31 Ionawr yn unol â statud.

2.

SYLFAEN TRETH GYNGOR 2025/26 A MATERION CYSYLLTIEDIG pdf icon PDF 249 KB

CABINET MEMBER:             County Councillor B Callard

 

AUTHOR:       Ruth Donovan Assistant Head of Finance: Revenues, Systems and Exchequer

 

CONTACT DETAILS

Email: ruthdonovan@monmouthsire.gov.uk

Tel: 01633 644592

 

Penderfyniad:

Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif y Sylfaen Drethu) Cymru) 1995, hysbysir mai’r swm a gyfrifwyd gan y Cyngor fel ei  Sylfaen Drethu ar gyfer 2025/26 fydd 48,566.96 a chaiff y gyfradd casglu ei gosod ar 98.2%.

 

Ni wneir unrhyw Benderfyniad Arbennig yn datgan Ardrethi Draeniad fel Treuliau Arbennig.

 

Ni chaiff unrhyw dreuliau a wneir gan y Cyngor wrth gyflawni mewn unrhyw ran o’i ardal swyddogaeth a gyflawnir mewn man arall yn ei ardal gan Gyngor Cymuned ei drin fel traul arbennig ar gyfer diben Adran 35 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.