Agenda and minutes

Sub Committee, Pwyllgor Trwyddedu a Gamblo - Dydd Gwener, 10fed Hydref, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ganlynol o fusnes yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. pdf icon PDF 109 KB

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y wasg a’r cyhoedd.

 

3.

Cais am drwydded fangre newydd: 1 Stop, 7 Y Stryd Fawr, Cas-gwent, Sir Fynwy, NP16 5LH

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd a’i Asiant i’r cyfarfod. Cyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor, y Swyddogion oedd yn bresennol a dau Wrthwynebydd eu hunain. Esboniwyd y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd yr Ymgeisydd iddo gael yr adroddiad a chydnabod y byddai’n symud ymlaen gyda’i Asiant yn ei gynrychioli. Dywedodd y ddau Wrthwynebydd iddynt gael yr adroddiad a chydnabod y byddent yn symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Cafodd y materion a manylion allweddol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor gan y Swyddog Trwyddedu.

 

Esboniodd y Gwrthwynebwyr eu pryderon am y cais a chaniatawyd cwestiynau.

 

Rhoddwyd cyfle i Asiant yr ymgeisydd a’r Ymgeisydd i annerch y Pwyllgor. Yn dilyn hyn, gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd ac Asiant yr ymgeisydd.

 

Yn dilyn cwestiynau, gadawodd Aelodau’r Pwyllgor y cyfarfod i drafod.

 

Ar ôl ail-ddechrau, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y cais ac wedi penderfynu dyfarnu trwydded. Cafodd y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad eu hesbonio yn fanylach fel sy’n dilyn:

 

Penderfyniad

 

·        Gweithredu yr holl amodau y gofynnodd yr Heddlu amdanynt.

·        Gwerthiant alcohol i ddod i ben am 10pm dydd Llun i ddydd Sul.

 

Rhesymeg

 

·        Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i hanes masnachu yr Ymgeisydd.

·        O bwyso a mesur popeth, teimlai’r Pwyllgor y dylid dyfarnu’r drwydded i’r Ymgeisydd.

·        Mae’r Ymgeisydd yn derbyn iddo wneud camgymeriadau ac mae bellach wedi dilyn hyfforddiant a achredwyd gan y diwydiant.

·        Mae’r Ymgeisydd yn deall canlyniadau peidio cydymffurfio gyda deddfwriaeth trwyddedu,