Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
|
Cais am Drwydded Safle Newydd - Only Foods & Sauces. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd cais am drwydded safle newydd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Only Foods and Sauces Limited, Stad Ddiwydiannol Bulwark, Bulwark, Cas-gwent, NP16 5QZ.
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chydymaith, tri phreswylydd lleol a’r Cynghorydd Sir Sue Riley, aelod ward yr ardal. Cyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor, y swyddogion oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.
https://youtu.be/hQZEvYfuc8M?si=FjaQFJ0v6AwYRRUF
Dywedodd pawb oedd yn bresennol iddynt weld yr adroddiad a threfn y pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei bod yn hapus symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu. Cafodd materion a manylion allweddol y cais (isod) eu darllen yn uchel i’r Is-bwyllgor a chyfeiriwyd at yr amcanion trwyddedu. Cadarnhaodd yr ymgeisydd mewn ysgrifen i’r Awdurdod Trwyddedu eu bod yn derbyn sylwadau gan Heddlu Gwent ac Iechyd yr Amgylchedd.
Darpariaeth Ffilmiau: Dyddiau Gwener - Sul – 09:00 i 23:00 (awyr agored) Darpariaeth Cerddoriaeth Fyw: Dyddiau Gwener - Sul – 09:00 i 23:00 (awyr agored) Darpariaeth Cerddoriaeth wedi’i Recordio – Dyddiau Llun - Iau - 09:00-14:00 a dyddiau Gwener - Sul – 09:00-23:00 (awyr agored) Cyflenwi Alcohol: Dyddiau Gwener – Sul - 12:00-23:00 (ar y safle) Oriau Agor (amserau arferol): Dyddiau Llun – Iau – 09:00-14:00 a dyddiau Gwener - Sul – 09:00-23:00
Cyflwynwyd gwrthwynebiadau gan breswylydd lleol oedd yn bresennol ac a gefnogwyd gan ddau berthynas. Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Sue Riley ddau wrthwynebiad arall.
Prif bryder y gwrthwynebwyr oedd s?n a chyfeiriwyd at ddigwyddiad mewn g?yl banc lle dywedwyd y gellid cerddoriaeth o gryn bellter, gan darfu ar breswylwyr. Adleisiodd y Cynghorydd Sue Riley bryderon nifer o breswylwyr am ormod o gerddoriaeth awyr agored, yn arbennig o gymharu gyda safleoedd eraill sy’n cyfyngu cerddoriaeth i fod dan do ar ôl 9pm.
Roedd pryderon am niferoedd mawr o bobl yn tarfu, problemau traffig, sbwriel ac unigolion meddw er na nodwyd unrhyw ddigwyddiadau cyfredol. Mynegwyd pryderon hefyd am agosatrwydd at **glwb gymnasteg” gyda phlant yn bresennol.
Pwysleisiodd y pwyllgor fod yn rhaid i wrthwynebiadau ymwneud â **phedair amcan trwyddedu: 1. Atal troseddu ac anrhefn 2. Diogelwch y cyhoedd 3. Atal niwsans cyhoeddus 4. Amddiffyn plant rhag niwed
Yn dilyn cwestiynau gadawodd Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu a Gamblo a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried.
Ar ôl ailddechrau, dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried yr achos yn llawn ac wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r gwrthwynebiadau a wnaed wyneb yn wyneb ac mewn ysgrifen. Dywedodd y Cadeirydd y cyfeiriad at euogfarnau troseddol ei ddiystyru. Ar ôl ystyriaeth lawn, dyfarnwyd y drwydded gyda rhai amodau fel yr argymhellwyd gan:
Heddlu Gwent
• Cyflenwi alcohol i ddod i ben am 22:30 dyddiau Gwener – Sul i roi 30 munud o amser yfed lan • Hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff yn gweithio yn y safle • Gweithredu teledu cylch cyfyng mewn rhannau trwyddedig o’r safle • Llyfr cofnodi digwyddiadau/gwrthodiadau • Monitro’r safle ymhellach ac arddangos hysbysiadau yn y safle • Gweithredu Cynllun Her 25
Iechyd yr Amgylchedd
• Gweithredu cynllun rheoli s?n • Gosod dyfais cyfyngu s ... view the full Cofnodion text for item 2. |