Agenda and minutes

Rights of Way, Pwyllgor Tacsis a Rheoleiddio - Dydd Llun, 23ain Chwefror, 2026 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Gwnaeth Julian Sanders, Cyfreithiwr, ddatganiad o fuddiant fel chwaraewr/aelod o Glwb Criced Brynbuga a ni chymerodd unrhyw ran yn y cyfarfod.

Ni fedrodd y Cynghorydd Sir Jane Lucas fynychu’r ymweliad safle, mynychodd ran o’r cyfarfod ond ni fedrodd bleidleisio.

 

Mynychodd y Cynghorydd Sir Tony Easson ran o’r ymweliad safle yna ni chymerodd unrhyw ran yn y cyfarfod gan na fedrai bleidleisio.

 

2.

DEDDF PRIFFYRDD 1980 - ADRAN 119 GORCHYMYN DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS, LLWYBR TROED 1 BRYNBUGA (Clwb Athletau Brynbuga) pdf icon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniwyd y sefyllfa gyfreithiol, yna cafodd yr adroddiad a sleidiau PowerPoint eu cyflwyno gan y Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad a’r Swyddog Cynorthwyol Hawliau Tramwy i nodi manylion yr achos.

 

Esboniwyd y cafodd yr adroddiad ei baratoi i weithredu o fewn yr ymagwedd o fod yn deg, diduedd a gweithredu egwyddorion cyfiawnder naturiol. Mae’n nodi’r cefndir llawn, deddfwriaeth, polisi, amcanion a thystiolaeth arall yng nghyswllt cais i wneud orchymyn dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980 ar gyfer Llwybr Troed Cyhoeddus 1 Brynbuga. Ei ddiben yw cynorthwyo Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghori Tacsis a Hawliau Tramwy Rheoleiddiol i benderfynu os dylid gwneud gorchymyn i ddargyfeirio rhan o Lwybr Troed 1 Brynbuga a hysbysu pawb arall sydd â diddordeb.

 

Gweithredu p?er nid dyletswydd mae’r Awdurdod wrth benderfynu p’un ai i wneud gorchymyn. Os oes gwrthwynebiad i benderfyniadau, gellir profi hynny mewn ymchwiliad, gwrandawiad neu drwy sylwadau ysgrifenedig gan Arolygydd a benodir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i benderfyniadau fod â chyfiawnhad rhwydd dan feini prawf y Deddfau Perthnasol.

 

Roedd angen i’r Pwyllgor ystyried y profion cyfreithiol a phenderfynu p’un a ddylai’r awdurdod wneud gorchymyn i ddargyfeirio Llwybr Troed 1 Brynbuga; mae gwneud y gorchymyn yn galluogi’r ymgynghoriad cyhoeddus i ddechrau.

 

Dim ond os yw’n ddiwrthwynebiad y gall y Cyngor gadarnhau’r gorchymyn. Mae’r pwyllgor yn gweithredu mewn swyddogaeth lled-farnwrol wrth wneud y penderfyniad. Dim ond yr amcanion a’r profion statudol y dylai penderfyniadau eu hystyried a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd. Dylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac atgoffwyd y Pwyllgor y dylai fod yn fodlon fod y cais yn ateb ei brawf statudol.

 

Mae gwneud gorchymyn yn broses dau gam ar gyfer gorchymyn dargyfeirio dan y Ddeddf Priffyrdd. Mae profion cyfreithiol ar wahân i’w bodloni ar gyfer gwneud gorchymyn ac wedyn ar gyfer ei gadarnhau. Unwaith y gwnaed gorchymyn, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus arno a chaiff ei hysbysebu, a gall y cyhoedd wneud gwrthwynebiadau a rhoi sylwadau. Os caiff unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau eu gwneud i orchymyn ac os na chânt eu tynnu yn ôl, ni all y Cyngor ei hun gadarnhau’r gorchymyn. Os yw’n dal i ddymuno iddo gael ei gadarnhau, gall ei atgyfeirio i’r Arolygiaeth Cynllunio neu Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w gadarnhau. Dim ond os yw’n fodlon y cafodd y prawf ar gyfer cadarnhau ei gyflawni y gall yr arolygydd gadarnhau’r gorchymyn.

 

Dan y Deddf Priffyrdd dylid cynnal prawf dau ran i alluogi’r awdurdod i wneud gorchymyn. Mae’n rhaid i’r llwybr newydd ymuno priffordd gyda phriffordd ac mae’n rhaid iddo fod yn sylweddol yr un mor gyfleus i’r cyhoedd. Mae gan orchymyn dargyfeirio yr effaith o ddiddymu hen lwybr a chreu llwybr newydd yr un pryd. Gall yr Awdurdod Priffyrdd wedyn greu llwybr a ddiddymwyd dan adran 119 os yw er budd naill ai berchennog y tir neu er budd y cyhoedd.

 

Mae’n rhaid cyflawni gwahanol brofion dan y Ddeddf i ganiatáu cadarnhau gorchymyn. Yn bennaf, y rhain yw fod yn rhaid i’r llwybr newydd beidio bod yn sylweddol llai cyfleus. Mae hyn ychydig yn wahanol i’r prawf gwneuthur,  ...  view the full Cofnodion text for item 2.