Agenda and minutes

Pwyllgor Tacsis a Rheoleiddio - Dydd Mawrth, 16eg Medi, 2025 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

I gadarnhau'r cofnodion canlynol: pdf icon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion canlynol:

·       Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 20 Mai 2025

·       Pwyllgor Trwyddedu a Hawliau Tramwy Rheoleiddiol dyddiedig 1 Gorffennaf 2025

·       Pwyllgor Tacsis a Hawliau Tramwy Rheoleiddiol dyddiedig 23 Gorffennaf 2025.

 

3.

Polisi ac Amodau Tacsis a Hurio Preifat 2026. pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor Bolisi ac Amodau Cerbydau Hacni a Hurio Preifat Cyngor Sir Fynwy.

 

https://www.youtube.com/live/icTLNhiBvkQ?si=Q_gw30svdZAa6lxo&t=180

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Tonc Easson ac eiliodd y Cynghorydd Sir Jackie Strong bod Polisi ac Amodau Polisi Tacsis a Hurio Preifat yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses ymgynghori.

 

Cofnodwyd y pleidleisiau canlynol pan roddwyd y mater i bleidlais:

 

O blaid y cynnig                      -           8

Yn erbyn y cynnig                   -           4

Ymatal                         -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynodd y Pwyllgor y bydd Polisi ac Amodau Tacsis a Hur Preifat 2026 yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses ymgynghori.

 

4.

Cais am Ganiatâd Masnachu Stryd (Symudol) ar gyfer Deri Hasu Icecream. pdf icon PDF 941 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd cais am ganiatâd masnachu stryd masnachol ar gyfer Deri Haus Icecream.

 

Y dyddiadau ac amser a geisiwyd gan yr ymgeisydd yw:

·        Dyddiau Llun a Mawrth – 12:00 -19:00

·       Dyddiau Iau a Gwener – 16:00 - 19:00

·       Dyddiau Sadwrny – 14:00 - 19:00

·       Dyddiau Sul – 14:00 - 18:00

 

Mae’r strydoedd y gwnaed cais amdanynt ym Magwyr, Gwndy, Rogiet a Chil-y-coed, fel yr amlinellir yn adroddiad y cais.

 

https://www.youtube.com/live/icTLNhiBvkQ?si=qEkIEhaHf0Ri4mI_&t=3656

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor na fedrai’r ymgeisydd fynychu cyfarfod heddiw a’i bod wedi anfon ei hymddiheuriad. Roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau ei bod yn fodlon i’r cais gael ei glywed gan y Pwyllgor yn ei habsenoldeb.

 

Cafodd y materion a manylion allweddol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.

 

Nododd y Pwyllgor Adran 6 o bolisi Masnachu Stryd 2016 Cyngor Sir Fynwy sy’n dweud:

 

·       Ni fydd y defnydd yn cystadlu’n uniongyrchol, o ran y nwyddau a werthir yn bennaf, gyda’r hyn a ddarperir mewn siop fanwerthu, bwyty neu safle tecawê bwyd twym, y rhai sydd â chaniatâd masnachu stryd a marchnadle cyfagos (sy’n cynnwys caniatâd bloc). Ni fydd y defnydd o fewn 100 metr o siop, bwyty, safle tecawê bwyd twym, rhai gyda chaniatâd masnachu stryd a marchnad (a all gynnwys chaniatâd bloc) sydd yn bennaf yn gwerthu’r un nwyddau. – Gellir llacio’r gofyniad hwn ar gyfer ceisiadau unwaith yn unig neu dymor byr.

 

Yn dilyn cwestiynau, gadawodd Aelodau’r Pwyllgor a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Ar ôl ail-ddechrau, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y cais ac wedi penderfynu cymeradwyo’r cais am ganiatâd masnachu stryd symudol ar gyfer y strydoedd a amlinellir yn Atodiad D adroddiad y cais. Hefyd, bod Adran 7 Polisi Masnachu Stryd 2016 Cyngor Sir Fynwy yn cael ei adolygu.

 

5.

Cais am Ganiatâd Masnachu Stryd Bloc - Nol Foodz. pdf icon PDF 15 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd cais am ganiatâd masnachu stryd bloc gan Mrs Kelly Gettings am 3 llain yn Stad Ddiwydiannol Bulwark.

 

Y dyddiadau a’r amserau y gwnaeth yr ymgeisydd gais amdanynt yw:

 

  • Dyddiau Llun - Sadwrn – 09:00-23:00

·       Dyddiau Sul - 10:00 –23:00

 

https://www.youtube.com/live/icTLNhiBvkQ?si=2ppkFqKZXXxxzEIC&t=7662

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd iddi gael yr adroddiad a threfn y gwrandawiad a chydnabod y byddai’n symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithol.

 

Cafodd y materion a’r manylion allweddol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.

 

Cafwyd dau lythyr yn gwrthwynebu’r cais a chawsant eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor gan y Cadeirydd.

 

Rhoddwyd cyfle wedyn i’r ymgeisydd annerch y Pwyllgor i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Siaradodd Mr Kyle Gettings ar ran yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad. Yn dilyn hyn, gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd a chafwyd trafodaeth. Wedyn cafodd yr ymgeisydd gyfle i grynhoi.

 

Cafwyd ymateb ysgrifenedig gan yr ymgeisydd i’r llythyrau yn gwrthwynebu ac fe wnaeth y Cadeirydd ei ddarllen yn uchel i’r Pwyllgor.

 

Yn dilyn cwestiynau, gadawodd Aelodau’r Pwyllgor a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Ar ôl ailddechrau, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y cais ac wedi penderfynu cymeradwyo’r cais am ganiatâd masnachu stryd bloc ar gyfer tair llain yn Stad Ddiwydiannol Bulwark.

 

Y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor am eu penderfyniad i gymeradwyo’r cais:

 

-            Roedd hwn yn gais rhesymol a chymerwyd camau rhesymol ar hylendid bwyd a gofalu am bobl mewn ffordd gall.

-            Roedd hwn yn gais wedi ei gynnal yn dda ac mae’r ymgeisydd wedi cyfarch y gwrthwynebiadau a wnaed.

-            Mae gennym ddyletswydd i gefnogi busnesau bach a chanolig ac i gael ein gweld i gefnogi’r busnesau hyn a dymunwn yn dda i’r ymgeisydd.

-            Rydym yn annog y math hwn o fusnes a gall yr Awdurdod Lleol adolygu os yw pethau yn mynd o chwith.

 

Argymhelliad:

-            Os oes nifer fawr o blant yn mynychu’r safle, dylai fod nifer ddigonol o staff wrth y drws ac ar y safle i sicrhau diogelwch pob cwsmer sydd ar y safle.

 

Amodau:

-            Mrs Gettings i weithredu polisi ar gyfer diogelu plant a phobl agored i niwed.