Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Llun, 7fed Hydref, 2024 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Diweddariad ariannol pdf icon PDF 305 KB

Rhoi’r diweddariad monitro ariannol diweddaraf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Callard a Jonathon Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.

 

Pwyntiau allweddol gan Aelodau:

 

·        Gofynnwyd os yw dibyniaeth y Cyngor ar grantiau yn nodweddiadol, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, ac os gallai’r pwyllgor wybod y nifer o staff a gaiff eu cyllido gan grant (Gweithredu).

 

·        Mynegwyd pryder am effaith toriadau yn y gyllideb a swyddi gwag ar y staff presennol, yn arbennig mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Holodd aelodau os caiff y pwysau ychwanegol ar staff yn deillio o gynnydd mewn llwyth gwaith ei fonitro ac os yw’r Cyngor yn rhoi cefnogaeth ddigonol i staff.

 

·        Gofynnodd aelodau sut ydym yn sicrhau, wrth i swyddi gwag ddigwydd, bod y bobl gywir yn y lle cywir, a sut ydym yn sicrhau fod prosesau yn ddarbodus ac effeithiol.

 

·        Ymchwiliwyd i ba lefel yr ymgysylltir gyda staff ysgol a’u cefnogi gyda’u cyllidebau diffyg, a gofynnodd aelodau os caiff canlyniadau arolygon staff eu rhannu gyda chydweithwyr yn y cyngor fel y gellid hysbysu’r Pwyllgor yn y dyfodol. Gofynnwyd ymhellach pa negeseuon cefnogaeth a gaiff eu rhoi i benaethiaid ysgol am drywydd gwariant ysgol yn y dyfodol.

 

·        Nododd y Cadeirydd o ymateb y Prif Swyddog fod Covid yn parhau yn broblem sylweddol yn ein hysgolion ac ymysg absenoldeb athrawon a staff ehangach.

 

·        Holodd aelodau am effaith ar staff y gostyngiad o £1.5m mewn iechyd a gofal cymdeithasoli, gyda pha effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth, a sut y caiff hyn ei reoli.

 

·        Gofynnwyd am eglurdeb os yw’r diffyg o £2m yn y targed arbedion cyllideb yn ychwanegol at y gorwariant o £4m mewn gwasanaethau craidd o ddiwedd y llynedd. Nodwyd fod y £2m yn rhan o’r £4m.

 

·        Gofynnwyd os yw gwasanaethau craidd yn parhau i orwario ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon fel yn y rhagolwg, p’un ai a fydd hynny’n ychwanegu at y diffyg o £35m a ragwelwyd ym mis Gorffennaf, a sut y bydd rhagolwg gwariant yn cael ei drin gan mai’r cyfarwyddyd clir yn yr adroddiad hwn ac adroddiadau cynharach yw fod yn rhaid i’r Cyngor beidio defnyddio cronfeydd wrth gefn, ac na all y Cyngor fenthyca i dalu am unrhyw ddiffyg refeniw. Pe byddai’r sefyllfa honno yn codi, cadarnhawyd y byddai’n rhaid i’r Cyngor ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn, er bod y ffocws ar reoli’r diffyg cyfredol yn y fllwyddyn drwy weithredu wedi’i dargedu i adfer y gyllideb.

 

·        Yng nghyswllt arloesedd, gofynnwyd am eglurdeb am i ba raddau y mae’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau yn cael mewnbwn ar ble gellir gwneud arbedion.

 

·        Gofynnodd aelodau am eglurdeb am effaith swyddi gwag, a rhoddwyd y 3 swydd wag yn y tîm Datgarboneiddio fel enghraifft.

 

·        Ar fater y Dreth Gyngor, gofynnodd aelodau am fwy o fanylion am y dystiolaeth fod premiwm yn dechrau dod ag anheddau yn ôl i ddefnydd (Gweithredu).

 

·        Nododd y Cadeirydd y gostyngiad rhagorol o £820k mewn costau ynni.

 

·        Gofynnwyd pa mor realistig yw’r disgwyliad o wrthdroi’r tueddiad cyfredol am orwariant mewn gofal cymdeithasol.

 

·        Gofynnodd aelodau os caiff digon o adnoddau eu buddsoddi i adeiladu cydnerthedd ac  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Diweddariad Cynllun Ariannol Tymor Canol

Adolygusefyllfa’r gyllideb,

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Callard a Jonathon Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.

 

Pwyntiau allweddol gan Aelodau::

 

  • Gofynnodd aelodau os yw’n gywir dweud fod Sir Fynwy yn fwy galluog i godi aran drwy drethiant.

 

  • Yng nghyswllt ymgynghorwyr ac arbenigwyr, gofynnwyd os ydym yn edrych ar fapio ffrwd gwerth ein prosesau i ostwng aneffeithiolrwydd.

 

  • Cwestiynwyd defnyddio proffiliau preswylwyr ‘nodweddiadol’ Sir Fynwy a gofynnwyd sut y byddai croestoriadedd a phreswylwyr heb fod yn nodweddiadol yn cael eu cynnwys.

 

  • Gofynnwyd am eglurdeb am Werthusiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

  • Gofynnodd aelod am esboniad am sut y caiff mesurau lliniaru asesiad effaith eu hadolygu a chytunodd y swyddog fod angen gwneud mwy o waith i roi adroddiad mwy eglur ar sut y caiff mesurau lliniaru c effeithiau eu monitro.

 

  • Gofynnwyd am fanylion pellach am y modelu ar gyfer y Dreth Gyngor, ac awgrymwyd gyda llai na 6 mis tan ddechrau’r flwyddyn ariannol nesaf, y dylem gofio mai cynllun ariannol yw hyn ac nid ‘tybiaethau modelu’.

 

  • Gofynnodd aelodau faint o ostyngiad fu yn nifer yr ail gartrefi ers gweithredu’r polisi Ail Gartrefi, ac os mai’r bwriad yw cael gwared yn llwyr â nhw.

 

  • Gofynnwyd os y cynhaliwyd asesiad o effaith cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor ar aelwydydd ac os y dylai’r Cyngor ystyried adolygiad o’r stad ysgolion fel opsiwn angenrheidiol ar gyfer ailddylunio’r gwasanaeth Addysg.

 

  • Yng nghyswllt data, gofynnodd aelodau pa mor hyderus y gallwn fod y cafodd y matricsau cywir eu dynodi ac y casglwyd y data cywir i wneud penderfyniadau.

 

  • Gofynnwyd am eglurdeb am yr angen sylfaenol am ‘newid radical i fodel gweithredu y Cyngor’ fel y disgrifiwyd hyn yn niweddariad ariannol mis Gorffennaf.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet, swyddogion a’r pwyllgor am y craffu trwyadl a chynigiodd yr adroddiad.

 

 

4.

Cyfarfodydd nesaf: 8 Hydref 2014 am 10am a 15 Hydref am 2pm

5.

Diweddariad Perfformiad Portffolio Buddsoddi a Masnachol

Adolygu’r diweddariad ar Fuddsoddi Masnachol a pharhau diweddariadau chwe misol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cynghorydd Callard a Nick Keyse yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.

 

Pwyntiau allweddol gan Aelodau:

 

  • Gofynnodd aelodau os yw’r rhagolwg ar gyfer Parc Hamdden Casnewydd yn realistig ac os y dylid ystyried pethau eraill rhag ofn.

 

  • Gofynnwyd os yw’n gywir fod preswylwyr Sir Fynwy yn rhoi cymhorthdal i gwmni preifat, ac os y dylai risgiau a mesurau rhag ofn gael eu hystyried yn awr yn hytrach nag yn ddiweddarach.

 

  • Gofynnodd aelodau beth fedrir ei wneud i ddenu cwmnïau cynhyrchu ffilmiau i Sir Fynwy ac am fwy o fanylion ar dystiolaeth cysyniad ar gyfer MonSpace yn Nh? Arloesedd.

 

  • Gofynnir sut y caiff tenantiaid newydd eu hannog a faint o rent y mae’r Cyngor yn ei dderbyn o Farchnad Da Byw Rhaglan.

 

  • Gofynnodd aelodau os oes unrhyw ddarnau stad yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer defnyddiau eraill neu eu gwaredu.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad defnyddiol. Cynigiwyd yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet am y tri adroddiad a’u hymatebion i gwestiynau’r pwyllgor a dywedodd fod y pwyllgor yn dymuno cydnabod a diolch i staff am eu holl waith caled ar draws y sefydliad wrth gyflenwi gwasanaethau mewn sefyllfa ariannol heriol.