Agenda and minutes

Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Mawrth, 16eg Gorffennaf, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y Cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Hunan-asesiad

Craffu'r hunanasesiad a nodi meysydd i'w harchwilio ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Jones a Hannah Carter yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Peter Davies a Will Mclean.. 

 

Pwyntiau allweddol gan Aelodau: 

 

  • Gofynnodd Aelodau am fwy o fanylion ar y strategaethau penodol a weithredir i fynd i’r afael â phwysau ariannol a sut y bydd y strategaeth ariannol tymor canolig yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol hirdymor heb or-ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn.
  • Gofynnodd Aelodau sut mae’r cyngor yn bwriadu cyflawni ei dargedau sero net, a pha gamau a gymerir i sicrhau y buddsoddiad cyhoeddus angenrheidiol i gefnogi’r cynlluniau amgylcheddol.
  • Gofynnwyd i swyddogion pa fesurau a gaiff eu rhoi ar waith i wella presenoldeb mewn ysgolion a chefnogi dysgwyr bregus a sut mae’r cyngor yn mynd i’r afael ag anghenion ymadawyr gofal i atal digartrefedd.
  • Yng nghyswllt newidiadau a wnaed, holodd Aelodau os oes gymaint o ymgynghori ag sydd modd gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid er mwyn mabwysiadu’r newidiadau a gweithredu syniadau newydd yn y ffordd orau.
  • Gofynnwyd am fanylion pellach am y gostyngiad mewn defnydd trenau.
  • Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ar y cynnydd yn nifer yr achosion o drais a gwaharddiadau ysgol. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad fod y cyngor yn gwneud popeth posibl i sicrhau fod ysgolion yn cofnodi digwyddiadau o ymosodiad rhywiol yn gywir ac yn datblygu strategaethau i’w trin.
  • Gofynnodd Aelodau am wybodaeth bellach am i’r cyngor fod â’r gwariant refeniw gros isaf y pen yng Nghymru yn 22/23.
  • Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol cael data cymharu pellach wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb heblaw incwm e.e. anghydraddoldeb oedran.
  • Cafodd staff ac aelodau eu hannog i gwblhau’r hyfforddiant Llythrennedd Carbon.
  • Gofynnwyd am eglurhad am rai o graffiau’r adroddiad a nodwyd y byddai data ar deithiau bws a theithio llesol eraill yn ddefnyddiol yn ogystal â cheir a rheilffyrdd.
  • Gofynnodd Aelodau os oes gan adroddiadau gan reoleiddwyr, tebyg i adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, ddylanwad ar y sgorau cyffredinol a roddwyd ac os yr ystyriwyd gweithio gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Nododd y Cadeirydd fod adnabod meysydd sydd angen eu gwella, a’r datrysiadau sydd eu hangen, yn hybu hygrededd hunanasesiad ac y gellid cynnwys hwn mewn adroddiadau gwasanaeth.
  • Holodd Aelodau pa mor aml ac i ba raddau y defnyddir gwybodaeth perfformiad yn ein gwasanaethau i hybu gwella perfformiad.
  • Yng nghyswllt trawsnewid gwasanaethau i ateb heriau’r gyllideb, dywedodd y pwyllgor ei bod yn anodd dod o hyd i dystiolaeth o adolygiad perfformiad neu asesiad o drawsnewidiadau a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf, a gofynnwyd pam, gan nodi pwysigrwydd cadw golwg agos ar unrhyw newidiadau sylweddol. 

 

Ymatebodd y Swyddogion oedd yn bresennol i’r holl gwestiynau a godwyd a roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda’r ymatebion a gafwyd.

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a diolchodd i’r swyddogion am y manylion ac am fod wedi cynnwys cymariaethau Cymru-gyfan, er y nododd y gellid gwneud mwy eto yn y cyswllt hwnnw er mwyn rhoi darlun llawnach o berfformiad. Roedd hefyd yn falch y cafodd mwy o adborth defnyddwyr gwasanaeth, fel y gofynnwyd amdano yn flaeorol. Cynigiwyd yr adroddiad. 

 

CAMAU GWEITHREDU: 

 

Awgrymodd Aelodau wneud  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

ADRODDIAD DIWEDDARIAD ARIANNOL 2023/24 a 2024/25 pdf icon PDF 373 KB

Craffu ar y sefyllfa gyllidebol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Ben Callard ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Peter Davies, Jonathan Davies a Will Mclean.

 

Pwyntiau allweddol gan Aelodau:

 

  • Gofynnodd aelodau pa fesurau penodol sy’n cael eu hystyried i fynd i’r afael â’r risgiau ariannol parhaus mewn gwahanol feysydd tebyg i Ofal Cymdeithasol Oedolion a pha gamau a gymerir i sicrhau y caiff gorwariant ei drin yn brydlon.
  • Gofynnwyd cwestiynau pa fesurau sy’n cael eu cymryd ar hyn o bryd i wella effeithiolrwydd a gostwg gorwariant mewn meysydd allweddol, ac os yw cynlluniau wrth gefn yn cael eu datblygu i drin costau annisgwyl.
  • Holodd aelodau os yr ymgysylltir â staff a defnyddwyr gwasanaeth i ddynodi arbedion posibl, ac os oes cynlluniau yn eu lle i ailddyrannu gwasanaethau o feysydd lle mae tanwariant i rai lle mae gorwariant.
  • Gofynnodd aelodau os yw swyddi gwag yn rhoi pwysau ar y staff presennol, ac os oes problemau o’r herwydd gyda llesiant neu gyda chadw staff. Ymhellach, gofynnwyd os cafodd swyddi gwag effaith ar ddarparu gwasanaethau i breswylwyr.
  • Gofynnwyd am fanylion pellach  am reoli tasgau mewn gwasanaethau a’r lle gorau i ffitio adnoddau.
  • Yng nghyswllt  prinder staff, gofynnwyd os oes unrhyw feysydd gwasanaeth yn cyrraedd pwynt critigol yn eu gallu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen.
  • Holodd Aelodau hefyd am y disgwyliad presennol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda 70% o’i dargedau arbedion wedi eu cyrraedd ac os oes angen mwy o ailddylunio gwasanaeth. Mynegodd aelodau bryder am i ba raddau y caiff y gorwariant mewn gofal cymdeithasol ei drin.
  • Gofynnodd y Pwyllgor os gallai gael diweddariad ar sefyllfa’r 13 ysgol sydd mewn diffyg, lleoedd gwag ac os yw cwmnïau sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw yn cael eu monitro i sicrhau gwerth am arian.
  • Gofynnwyd cwestiynau os yw partneriaid iechyd yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithlon yn nhermau gofal iechyd parhaus a beth fwy y gellid ei wneud i sicrhau fod uchelgais a gaiff ei rannu ar gyfer y gwasanaethau a ddarparant.
  • Gofynnwyd os yw costau gofal yn dal i fod yn uchel oherwydd oedi mewn talu neu achosion gwirioneddol o galedi, a pha fesurau gaiff eu rhoi ar waith i gynyddu y nifer sy’n defnyddio atyniadau tebyg i Theatr y Borough.
  • Gofynnodd aelodau os oedd diweddariad ar unedau a osodir ym Mharc Hamdden Casnewydd a Castle Gate.
  • Gofynnodd aelodau i ba raddau yr ydym yn ddibynnol ar grantiau tymor byr a lefel ansicrwydd sy’n gysylltiedig â nhw. 
  • Gofynnwyd am eglurder am lefel y newid sylweddol sydd ei angen, fel yr adroddwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a beth gaiff ei wneud i ddod â chostau dan reolaeth.
  • Gofynnodd aelodau sut mae’r tanwariant mewn cynlluniau strategol yn gwrthbwyso’r gorwariant o £4m.
  • Mynegwyd pryder y bydd y rhan fwyaf (£12.2m) o’r diffyg a ragwelir yng nghyfnod 24-29 yn digwydd y flwyddyn nesaf.
  • Gofynnwyd am fwy o fanylion am y rhesymau am lithro mewn prosiectau seilwaith allweddol.

 

Roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda’r ymatebion a roddwyd gan yr Aelod Cabinet a’r swyddogion oedd yn bresennol.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhaglen Waith i'r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg pdf icon PDF 486 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd Aelodau fod gwahoddiad iddynt fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Pobl ar 23 Gorffennaf lle byddir yn craffu ar adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru a’r polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol.

 

6.

Cynllunydd y Cabinet a’r Cyngor pdf icon PDF 481 KB

7.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18fed Mehefin 2024 pdf icon PDF 263 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion. 

 

8.

Cyfarfod Nesaf: 23ain Medi 2024 am 10.00am

Cofnodion:

23 Medi 2024 am 10.00am.