Agenda and minutes

Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Mawrth, 30ain Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd fuddiant heb fod yn rhagfarnu fel cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

 


 

 

 

Cofnodion:

Dim. 

 

3.

Craffu ar Gynigion y Gyllideb pdf icon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Ben Callard, Aelod Cabinet, a chyflwynodd yr adroddiad ac ateb cwestiynau gan aelodau gyda Peter Davies, Aelod Cabinet, Ian Chandler, Jane Rodgers, Tyrone Stokes, Frances O’Brien, Will Mclean, Ian Saunders, Jonathan Davies a Matthew Gatehouse. 

 

·            Beth yw cysyniadau defnyddio £2.8m o dderbyniadadau cyfalaf i dalu am gostau refeniw?

·            Sut y cafodd setliad is na’r cyfartalog gan Lywodraeth Cymru a natur ansicr grantiau ei ystyried yn y cynigion?

·            Mae gostyngiad cymorth ardrethi busnes yn bwysig iawn i ganol trefi: a fydd gennym lai o ymwelwyr a llai o incwm os oes llai o fusnesau? Sut caiff hynny ei drin yn y gyllideb?

·            A yw defnyddio £2.8m o dderbyniadau cyfalaf yn golygu y bydd diffyg yn y gyllideb cyfalaf, ac mae gennyn lai o wariant y byddai’r cyfalaf hwnnw fel arall yn cael ei ddefnyddio neu a fydd yn cynyddu ein benthyca?

·            Yng nghyswllt y diffyg o setliad cyfartalog Cymru, a yw gwahaniaeth o 0.8% yn gyfwerth â tua £600k?

·            Er mwyn eglurdeb, a oes unrhyw beth yn dod allan o ddyfarniad i Loegr a fyddai’n llifo’n naturiol i raniad ar draws pob awdurdod lleol ac na fyddai angen lobio?

·            A yw’r cynllun i ostwng costau benthyca gan £1.8m yn gydnaws gyda thynnu derbyniadau cyfalaf?

·            Mae’r arbedion a ofynnir gan y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol yn fater o gonsyrn – sut y disgwylir iddynt wneud mwy gyda llai?

·            A fydd costau’n gysylltiedig gyda gwneud newidiadau pontio?

·            Mae pryderon am y dybiaeth y caiff y cap ar ofal dibreswyl yn y gymuned ei godi. Beth yw’r effaith bosibl pe na gwireddir arbedion o £570k?

·            Beth fydd effaith grant y gweithlu gwasanaethau cymdeithasol ac ailaiinio swyddi gwag ar y gweithlu rheng flaen?

·            Gofal Cymdeithasol: sut mae cyfarfod gofynion statudol yn cydfynd gyda 853 awr o angen nas caiff ei ddiwallu? Pa effaith gaiff yr arbedion hyn ar yr oriau hyn o angen heb ei ddiwallu?

·            Er mwyn eglurder llwyr, nid oes unrhyw angen a aseswyd heb fod yn cael ei gyflawni ar gyfer unrhyw unigolyn, weithiau mae’n oedi 853 awr, ac felly a ydym yn cyflawni ein goblygiadau statudol?

·            Pa sicrwydd fedrir ei roi am arbedion pan fod y dangosiad diweddaraf yn dangos cynnydd yn y rhagolwg o orwariant o’r mis blaenorol?

·            Dan 5.8, mae casgliadau gwastraff yn parhau’r un fath ond o gofio y caiff bagiau du eu casglu bob bythefnos, a edrychwyd ar yr achos am gasgliadau bob bythefnos ar gyfer y bagiau eraill?

·            Yn sleid 3 yn y cyflwyniad, a yw’r gwahaniaeth rhwng y ffigurau ar gyfer y pwysau cost yn gamgymeriad talgrynnu?

·            Ynghylch y gostyngiad yng nghyllid Cerddoriaeth Gwent, a gafodd y goblygiadau eu hystyried oherwydd y gydberthynas gref rhwng dysgu cerddoriaeth a dysgu mewn pynciau eraill?

·            A fedrid helpu Cerddoriaeth Gwent mewn ffyrdd eraill, tebyg i ostwng hurio ystafelloedd mewn ysgolion?

·            Cau amgueddfeydd a gorsaf Tyndyrn am un diwrnod – a fydd hynny’n arwain at ddryswch i ymwelwyr? A gaiff hyn ei fonitro mewn rhyw ffordd?

·            Agor ar wyliau banc – beth am wyliau ysgol e.e. gwyliau’r  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Diweddariad Chwarter 2 ar y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol pdf icon PDF 1 MB

Craffu ar berfformiad y Cyngor yn erbyn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mary Ann Brocklesby, yr Arweinydd, yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Will Mclean a Matthew Gatehouse.

 

Cwestiynau Allweddol gan Aelodau:

 

·            A oes mwy o ddisgyblion o deuluoedd amddifadus yn cael eu hannog i dderbyn prydau ysgol am ddim? A yw’r cyngor yn rhoi cymhorthdal i deuluoedd gydag incwm gwell?

·            Sut mae rhoi blaenoriaeth i anghenion y plant hynny nad ydynt yn yr ysgol? Pa gefnogaeth gaiff ei rhoi i blant sydd wedi gadael addysg ffurfiol oherwydd pryder ac afiechyd meddwl? A oes gennym gyfres gynhwysfawr o setiau data ar gyfer y disgyblion hynny cyn iddynt adael y lleoliad addysg ffurfiol?

·            Er eglurder, mae’r adroddiad yn dynodi sefyllfa ddiweddaraf disgyblion uwchradd yw 1 mewn 10 o ddisgyblion heb fod yn mynychu? Ar gyfer disgyblion prydau ysgol am ddim, mae’n 1 mewn 5?

·            Hoffai’r pwyllgor atgoffa disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid mai’r ysgol yw’r lle gorau i blant.

·            Heblaw cynlluniau bwyd ac oergelloedd cymunedol, beth arall sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ein cymunedau? A ydych yn disgwyl i gynigion y gyllideb i waethygu anghydraddoldeb?

·            A ydym yn cyfeirio preswylwyr at wasanaethau neu adnoddau i’e helpu yn ôl i waith?

·            Beth sy’n cael ei wneud i helpu pobl ddigartref i fyw’n annibynnol e.e. dychwelyd i addysg neu gyflogaeth?

·            A yw’n iawn fod plant rhwng 5-11 oed yn cael  dognau o’r un maint i ginio, heb fod yn cael mwy os ydynt yn dal i fod eisiau bwyd, ond ar ddiwedd y cinio bod y sbarion yn cael eu taflu?

·            Mae pryderon am effaith cynlluniau creu lle ar fusnesau bach yn Nhrefynwy, yn arbennig yng nghyswllt llwybrau teithio llesol, costau parcio a nifer is o ymwelwyr. sut mae’r cyngor yn bwriadu mynd i’r afael â’r materion hyn? GWEITHREDU (ymateb ysgrifenedig am gynlluniau i fynd i’r afael â phryderon yn Nhrefynwy)

·            Mae ynysigrwydd mewn ardaloedd gwledig a’r straen a’r tlodi sy’n wynebu pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig yng nghyswllt costau uwch yn bryder mawr. A fedrwn weld rhywbeth yn y Cynllun Cymunedol a  Chorfforaethol i helpu cyrraedd y bobl hyn?

·            Sut mae Cyngor Sir Fynwy yn cymharu gydag awdurdodau eraill ar draws Cymru yn nhermau adrodd am ganlyniadau ac effeithiau’r gyllideb?

·            Mae rhai disgyblion yn dewis peidio cael ciniawau ysgol – a yw hynny’n golygu nad ydynt yn cael dim byd? A ydym yn gwybod beth maent yn ei gael, a sut y dylem sicrhau goruchwylwyr?

·            A gaiff strategaeth VAWDASV wedi ei chwblhau ei rhannu gydag aelodau, a sut?

·            Gyda chyfeiriad at gronfeydd teithio llesol ar gyfer newidiadau cyflym ac effeithlon, pa mor rhwydd hi yw cael cwblhau prosiectau bach tebyg i drwsio palmentydd a gostwng cyrbiau?

·            I ba raddau ydyn ni’n medru dylanwadu ar Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar faterion partneriaeth?

·            A oes unrhyw waith yn cael ei wneud gydag ysgolion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, e.e. gosod paneli solar, gan eu darparu ar gyfer y dyfodol yng nghyswllt costau ynni?

·            Yng nghyswllt y caffes Benthyg, a oes risg y bydd gwirfoddolwyr yn blino?  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaen Raglen Waith Craffu a Rhestr Gweithrediadau Perfformiad a Throsolwg pdf icon PDF 427 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Strong am edrych am ddyddiad ar gyfer craffu ar recriwtio a chadw gweithwyr Gofal Cymdeithasol – GWEITHREDU

 

Anfonir e-bost at aelodau gyda dyddiadau a gynigir ym mis Mawrth a mis Mehefin.

 

6.

Cynllun Gwaith y Cabinet a’r Cyngor pdf icon PDF 434 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar: pdf icon PDF 662 KB

·        22ain o Dachwedd 2023

·        15fed o Ionawr 2024 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        22 Tachwedd 2023 

·        15 Ionawr 2024 (Arbennig) 

 

Cafodd y cofnodion eu cadarnhau, cynigiwyd gan y Cynghorydd Strong ac eiliwyd gan y Cynghorydd Howells. 

 

 

8.

Cyfarfod nesaf: 20fed o Chwefror 2024