Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA and remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.

 

3.

Adroddiad Perfformiad 2021-22 Diogelu’r Cyhoedd – Adolygu perfformiad y maes gwasanaeth. pdf icon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i’r tîm am eu gwaith anhygoel yn ystod y  pandemig, a hynny ar ran y Pwyllgor.  Roedd David Jones wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau gyda Huw Owen a Gareth Walters.

 

Her:

 

A oes modd esbonio ‘TTP’ (Track, Trace and Protect) yn yr adroddiad?  Beth yw’r tebygolrwydd bod y nifer o achosion Covid yn cyrraedd penllanw ym mis Mawrth?

 

Oes - mae modd i ni gynnwys ‘Track, Trace and Protect’ yn yr adroddiad. Roedd gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu  Sir Fynwy wedi ei ddiddymu haf diwethaf  - mae hyn yn cael ei gydlynu’n rhanbarthol yng Nghaerffili. Mae’r gwasanaeth wedi ei gwtogi; maent yn delio gyda chartrefi gofal. Mae dal diddordeb gennym, yn enwedig o ran ymholiadau sydd gan ysgolion. Mae penllanw posib nawr i’w rheoli gan Gaerffili ar ran Gwent ond mae  Dave Jones wedi ei gynnwys fel rhan o’r trefniadau  llywodraethiant ac rydym yn cefnogi Caerffili drwy ein cydweithwyr Iechyd Amgylcheddol.

 

A yw’r 2 aelod staff sydd ar secondiad yn dod 'nôl?

 

Rydym yn cefnogi secondiadau pan fydd y gwasanaeth yn elwa e.e. mae un o’n cydweithwyr trwyddedau yn gweithio i Lywodraeth Cymru, yn delio gyda Threth Polisi a Thrwyddedu a fydd yn elwa ni pan fydd yn dychwelyd.  

 

A yw tipio anghyfreithlon wedi cynyddu gan fod safleoedd ar gau? Beth sydd wedi ei ddysgu hyd yma a’r tueddiadau sydd i’w gweld?

 

Yn 21-22, roedd cyfanswm nifer yr achosion wedi cynyddu, a hynny’n rhannol i’w briodoli i gofnodion mwy cywrain yn cael eu cadw ond mae yna gynnydd sylweddol wedi ei brofi, a hynny’n gyson gyda mwy o bobl yn gweithio gartref a’n gwneud gwaith adeiladu yn eu cartrefi yn ystod Covid. Rydym yn cymryd hyn o ddifri’. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwerau i awdurdodau lleol i roi hysbysiadau cosb penodedig ar gyfer y sawl na sydd yn cael gwared ar wastraff yn y ffordd gywir – byddwn yn parhau i wneud hyn drwy gydol y flwyddyn h.y.  os yw aelwyd yn talu i rywun i gael gwared ar wastraff sydd wedyn yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, heb gadarnhau fod y person wedi cofrestru i gynnig y gwasanaeth, byddwn yn erlyn yr aelwyd.  

 

Pam fod y nifer o achosion o Reoli Plâu? Beth sydd wedi ei ddysgu yn sgil hyn?

 

Roedd yna ychydig  o gynnydd. Mae’r gwasanaeth sydd wedi ei ddarparu gan Iechyd Amgylcheddol ar Reoli Plâu yn un o orfodaeth. Roedd y gwasanaeth  Rheoli Plâu disgresiynol a ddarparwyd gan y Cyngor wedi dod i ben  yn 2013/14. Rydym yn cymryd camau gorfodi mewn achosion pan fydd rhywun yn rhoi gwybod i ni fod cymydog yn gwrthod clirio sbwriel o’r ardd, sydd wedyn yn denu llygod mawr – byddwn yn ymweld ac yn sicrhau bod mesurau yn cael eu cymryd er mwyn delio gyda’r llygod mawr. Un o’r rhesymau dros gadw’r ystadegau yw monitro’r effaith dros y blynyddoedd o’r penderfyniad i gael gwared ar y gwasanaeth Rheoli Plâu.

 

A oes modd i  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Blynyddol 21/22 Gwasanaethau Cofrestru – Adolygu perfformiad y maes gwasanaeth. pdf icon PDF 320 KB

Cofnodion:

Roedd Jennifer Walton wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau gyda David Jones.

 

Her:

 

Alistair: Roedd y gyfradd genedigaethau yn Sir Fynwy wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn – a yw hyn  yn eithriad neu’n rhan o duedd? A yw’n adlewyrchu’r hyn sydd yn digwydd yn fwy ehangach?

 

Nid oes yna ostyngiad dramatig wedi bod yn y gyfradd genedigaethau ond mae trigolion Sir Fynwy nawr yn mynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Nhorfaen.

 

Os yw’r gyfradd genedigaethau nawr wedi ei rhannu gydag Ysbyty Athrofaol y Faenor, sut ydym yn gwybod beth yw’r niferoedd a’r tueddiadau?

 

Mae’r gwasanaethau mamolaeth yn Neuadd Nevill wedi eu hisraddio ar ôl i Ysbyty Athrofaol y Faenor agor, ac felly, mae’n cael ei arwain gan fydwraig yn unig. Mae’r rhan fwyaf o enedigaethau yn Aneurin Bevan nawr yn digwydd yn Nhorfaen. Mae’r ffigyrau yma yn cael eu bwydo i mewn i’r Swyddfa Ystadau Gwladol, ac mae modd dod o hyd i niferoedd Sir Fynwy ar unrhyw adeg, ond rydym ond yn medru cael mynediad at y genedigaethau yn y sir. Hefyd yn dilyn Covid, roedd yna gyfnodau pan fu’n rhaid cau adrannau mamolaeth yn Neuadd Nevill yn sgil pwysau staff.

 

5.1, A oes yna wybodaeth ar y partneriaethau sydd wedi eu datblygu? I ba raddau y mae hyn wedi ei ystyried fel rhan o’r gyllideb?

 

Rydym yn bwriadu ehangu’r gwaith o weithio mewn partneriaeth i gynnwys cofrestru marwolaeth. Ar hyn o bryd, mae modd cofrestru genedigaeth mewn unrhyw swyddfa yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi ein helpu ni i reoli’r ôl-groniad wrth i ni ddod allan o Covid. Roedd cynifer o seremonïau dros yr haf y llynedd fel nad oedd modd i ni ddatblygu’r gwasanaeth ar gyfer cofrestru marwolaethau ond rydym yn bwriadu cynnal cyfarfodydd cyn hir ac mae yna drefniadau eisoes ar waith.  

 

Sut mae trigolion yn medru cael mynediad at gofrestriadau a chofnodion?  

 

Mae unrhyw drigolyn yn medru gwneud cais am dystysgrif hanesyddol, ac mae modd iddynt gyflwyno unrhyw fanylion sydd ganddynt a byddwn yn chwilio am gofnodion. Mae’r cofnodion yn cael eu cadw mewn ystafell lle y mae’r tymheredd yn cael ei reoli, ac nid ydynt fel arfer yn caniatáu’r cyhoedd i edrych arnynt eu hunain ond mae rhywun yn medru gwneud cais a byddwn wedyn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i’r wybodaeth.  

 

Mae adborth gan gwsmeriaid yn dda ond yn anecdotaidd - a fydd adborth digidol yn caniatáu gwybodaeth fwy ansoddol am farn trigolion am y gwasanaethau yma ac a ydym yn medru gwella rhai elfennau?

 

Mae’r adborth gan gwsmeriaid yn ffantastig, yn enwedig gan ein bod fel arfer yn delio gyda phobl sydd wedi profi profedigaeth er enghraifft. Ond mae modd i ni gasglu’r wybodaeth mewn ffordd well. Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth digidol yn gwneud gwahaniaeth a bydd hyn yn dechrau cyn hir.  

 

A oes unrhyw ffordd o osod gwaelodlin neu’n defnyddio’r adborth ar gyfer meysydd eraill ac a oes unrhyw wersi i’w  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Adolygiad Perfformiad Caffael – Adolygu’r trefniadau cydweithio a’r buddion a sicrhawyd hyd yma. pdf icon PDF 276 KB

Cofnodion:

Roedd Steve Robinson wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau’r Aelodau gyda Cath Fallon.

 

Her:

 

C7+8, o ran disgwyliadau ar gyfer y bobl a bod dealltwriaeth ymddygiadol wedi ei nodi fel bwlch - a yw’r camau yma yn mynd yn ddigon pell? A ydym angen mwy o ‘sut’ yn hytrach na ‘beth’?

 

Mae diwylliant yn un o’r elfennau caniatáu. Ni fydd un peth yn cyflawni hyn. Mae’r strategaeth  bwysig; yn ogystal â gosod y cyfeiriad, mae’n cyfathrebu’r blaenoriaethau ar gyfer yr awdurdod a sut ydym yn medru cyflawni’r amcanion. Y ffocws allweddol yw’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol Cyngor Sir Fynwy; byddwn yn cadarnhau ein bod yn alinio gyda hyn ar ôl i’r adroddiad fynd i’r Cabinet yfory. Roeddem wedi siarad gyda’r Tîm Cyfathrebu  yngl?n â sut i gyfathrebu’r negeseuon ehangach, os yw’r Cyngor yn cymeradwyo hyn ym Mawrth. Rydym yn cydnabod fod y ffordd yr ydym yn hysbysu a’n addysgu swyddogion yn medru bod yn well. Rydym yn datblygu rhaglen sydd wedi ei chefnogi gan ddeunydd ar-lein er  medru cyfathrebu negeseuon cymhleth mor syml ag sydd yn bosib - mae’r Tîm Cyfathrebu  yn cefnogi yn y broses honno fel ffrind cyfeillgar. Rhaid i ni ddefnyddio technoleg fel SharePoint yn well. Ar gyfer Prynu’n Gyfrifol, rydym yn profi hyn yng Nghaerdydd cyn bod unrhyw beth yn cael ei gyflwyno ar draws yr awdurdodau eraill. 

 

Byddai mwy o wybodaeth am y bartneriaeth ag Atebion wedi bod yn dda. Byddai’n dda i wybod mwy am yr arbedion caffael a’n edrych ar werth cymdeithasol gwariant caffael - faint o’r gwariant caffael  sydd yn aros yn Sir Fynwy? Heb fethodoleg yr arolwg, mae’r niferoedd yn ddibwrpas. Byddai’n dda gweld mwy o rifau a manylion. A ydym yn  cadarnhau sut y byddai gweithio ag eraill yn helpu creu mwy o werth? 

 

Rydym wedi bod yn ceisio adeiladu hyn o’r gwaelod i fyny - y ffocws yw sicrhau bod y seiliau cywir yn eu lle. Rydym wedi ceisio cadarnhau gwaelodlin ein sefyllfa gyfredol o ran y gwariant sydd yn cael ei gadw yn Sir Fynwy. Yn ein strategaeth, mae camau ymarferol  i’w cymryd er mwyn gwella hynny, gan ystyried y newidiadau sydd eu hangen ar ein harferion gwaith, gweithio gyda phartneriaid ayyb. Mae wedi cymryd tipyn o waith i gyrraedd y sefyllfa yma, ble ydynt yn  dechrau gweld y gwerth yn dod i’r amlwg. Mae amodau’r farchnad yn heriol wrth i ni geisio sicrhau arbedion; mewn llawer o achosion, efallai ein bod yn ceisio osgoi cost yn hytrach na’n lleihau costau. O ran gwerth, mae hyn yn agenda ehangach i ni. 

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Roedd y Pwyllgor wedi derbyn yr adroddiad. Ar gyfer yr adroddiad Caffael nesaf, gwnaed cais bod Swyddogion yn nodi mewn mwy o fanylder y buddion a ddaw i Gyngor Sir Fynwy o weithio ag eraill – CAM GWEITHREDU

 

 

6.

Blaenraglen Gwaith a Rhestr Camau Gweithredu'r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg. pdf icon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae angen symud y cyfarfod ar 23in Chwefror i’r 27ain neu’r 28ain Chwefror  – bydd Swyddogion yn cadarnhau hyn gydag Aelodau.  

 

 

7.

Cynllunydd Gwaith y Cabinet a’r Cyngor. pdf icon PDF 252 KB

Cofnodion:

Noder y Cyfarfod Eithriadol o’r Cyngor sydd i’w gynnal ar 2ail Mawrth. 

 

 

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 349 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion fel cofnod cywrain, a chynigiwyd hyn gan y Cynghorydd  Neill a’i eilio gan y Cynghorydd Strong.

 

 

9.

Cyfarfodydd Nesaf:

25 Ionawr 2023 am 10.00am – Cyfarfod Arbennig (Cyllideb)

23 Chwefror 2023 am 10.00am – Cyfarfod Cyffredin.

 

Cofnodion:

25ain Ionawr 2023 am 10.00am – Cyfarfod Arbennig (Cyllideb).

23ain Chwefror 2023 am 10.00am – Cyfarfod Arferol