Agenda and minutes

Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Mawrth, 24ain Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd fforwm agored.

 

3.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio pdf icon PDF 705 KB

Craffu ar yr adroddiad perfformiad blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths a Craig O’Connor yr adroddiad, rhoddodd Philip Thomas gyflwyniad ac atebwyd nifer o gwestiynau gydag Amy Longford ac Andrew Jones.

 

Cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor:

·         Sut y cafodd yr ôl-groniad mewn gorfodaeth ei oresgyn?

·         At beth mae’r canran o dai fforddiadwy ar dudalen 6 yn cyfeirio? A ydym yn disgwyl mwy yn 23/24?

·         Ar gyfer beth y defnyddiwyd y ffioedd ymgynghori o £110k?

·         A yw’r cyngor yn defnyddio ‘egwyddorion darbodus’ i edrych ar brosesau a phenderfynu ar wastraff?

·         Caiff y Pwyllgor Cynllunio ei nodi fel ymgynghorai – a aeth yr adroddiad at y pwyllgor hwnnw?

·         A oes camgymeriad ar dudalen 28, gyda nifer y ceisiadau a gafwyd eleni yn llai na’r nifer a benderfynwyd?

·         A yw’r tabl ar dudalen 31 yn dangos cynnydd o £2.1m yn adlewyrchu gwerth y Cynllun Datblygu Lleol Newydd?

·         A yw’r gwasanaeth ar y cyd gyda threftadaeth yn rhoi gwerth am arian? A ydym yn derbyn cyllid digonol gan Flaenau Gwent i dalu’r costau? A yw’n lleihau’r gwaith gwerthfawr yn Sir Fynwy?

·         A allai aelodau gael rhestr o’r holl brosiectau A106 a fanteisiodd o gyllid yn y flwyddyn ddiwethaf? – Rhannu’r rhestr a gwybodaeth - GWEITHREDU

·         Sut y caiff y strategaeth Adeiladu mewn Risg ei hyrwyddo, a phryd fydd yn barod?

·         Sut mae’r swyddogion yn sicrhau eu bod yn cael y cydbwysedd yn iawn rhwng gweithredu’r gyfraith ond caniatáu datblygu adeiladau treftadaeth?

·         Pa mor gywir yw casglu data Cynllunio a beth yw ein sicrwydd ansawdd?

·         Sut ydyn ni’n sicrhau’r cynllun gorau posibl ar gyfer sicrhau deilliannau ac a allwn gael rhai manylion a chyd-destun? A ydym wedi cysylltu â sefydliadau academaidd i’w datblygu?

·         A gafodd y swyddogaeth Cynllunio ei hadolygu’n sylfaenol a pha warant y gellir ei roi pe byddai arolwg gan Archwilio Cymru neu debyg na fyddid yn ein canfod yn ddiffygiol iawn?

·         A yw Llywodraeth Cymru yn debyg o gyflwyno data cymharu ym mlynyddoedd y dyfodol?

·         A ydym yn sicr y bydd tynnu ffosffadau yn Nhrefynwy a Llan-ffwyst yn ddigonol ar gyfer galw yn y dyfodol?

·         A yw’r gyfran o geisiadau cynllunio a gymeradwywyd yn fesur dilys o berfformiad? Pa mor hyderus ydyn ni bod y cynlluniau a gymeradwywyd yn cyd-fynd â pholisi cynllunio?

·         Mae gorfodaeth perfformiad yn isel, gydag adroddiadau anecdotaidd am ein methiant i drin toriadau parhaus – a allai hyn annog eraill i dorri rheoliadau?

·         A yw digideiddio microfiche yn effeithiol o ran cost, o ystyried yr oriau staff sydd eu hangen i ddigideiddio o gymharu â pha mor aml y gofynnir amdano?

·         A ellir hyrwyddo’r £84m i’r economi lleol, yn arbennig gyda busnesau?

·         A yw’n bosibl cael hyperddolen yn uniongyrchol i’r cais?

·         A yw’r nifer cymharol fach o apeliadau oherwydd cysylltiad da gydag ymgeiswyr?

·         Collodd y cyngor 4 apêl – a oedd hynny yn erbyn datblygwyr mawr gyda thimau mawr? Beth am apeliadau gan breswylwyr lleol?

·         Pa gostau ydyn ni’n mynd iddynt mewn apeliadau?

·         Mae angen i ni sicrhau ein bod yn ailadeiladu’r hyder a gollwyd gyda rhai phreswylwyr oherwydd y perfformiad gwael o 290  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Prif Swyddog Addysg: Diweddariad Ar Lafar

Diweddariad ar lafar gan y Prif Swyddog ar amrywiol faterion addysg.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Martyn Grocutt a Will Mclean y diweddariad ac ateg cwestiynau aelodau.

 

Cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor:

·         Ai’r ateb i’r gostyngiad mawr mewn dysgwyr TGAU a Safon Uwch yw i ni helpu i hyrwyddo ieithoedd ar gyfer cyfleoedd swyddi a gyrfa?

·         Tybir fod yr Aelod Cabinet yn golygu y cafodd myfyrwyr Cil-y-coed a Magwyr eu hannog i astudio ieithoedd, yn hytrach na’u ‘rhoi dan bwysau’? (Cytunodd yr Aelod Cabinet)

·         Yn ogystal â newid mewn nodau ers y pandemig, a fu effaith o benderfyniadau strategaeth ehangach e.e. Brexit, y newid mewn prentisiaethau, dirywiad mewn a than-fuddsoddiad mewn diwydiant ac yn y blaen?

·         A yw’r argyfwng costau byw yn ffactor gyda phobl yn methu mynd ar wyliau a chael y profiadau sy’n deffro diddordeb mewn ieithoedd? (Nododd y Cadeirydd fod mwy o wyliau yn cael eu gwerthu nawr nag oedd cyn y pandemig).

·         Nodir fod tueddiad hirdymor mewn dirywiad ieithoedd fel pwnc, felly un mesur newydd o lwyddiant y cwricwlwm newydd fyddai os yw’n gwrthdroi’r tueddiad hwnnw – ond ni fyddwn yn gwybod hynny am ychydig flynyddoedd.

·         Gan fod y ffigurau sy’n dangos gostyngiad yn nifer y dysgwyr yn fras debyg ar gyfer TGAU a Safon Uwch, ai’r allwedd yw cynyddu rhifau TGAU?

·         A gafodd cyflwyno’r Gymraeg effaith ar y nifer sy’n astudio ieithoedd eraill?

·         Yn y gorffennol os mai dim ond ychydig o ddisgyblion oedd eisiau dysgu iaith, byddent yn ymuno gydag ysgol arall, gan nad yw’n realistig cael athro ar gyfer ychydig o ddisgyblion yn unig – felly ai cyllid yw’r broblem?

·         A oedd cyfnod pan oedd dysgwyr iaith ar ei anterth? e.e. roedd llawer iawn o efeillio yn yr 80au a llawer o gyfnewid bryd hynny – a oes gwersi i’w dysgu yno?

·         A oedd mwy o gyfnewid myfyrwyr a ffrindiau gohebu mewn degawdau blaenorol?

·         A oes gweithgareddau ar y gweill ar gyfer y Llysgenhadon Ifanc i fynd â nhw yn ôl i’w hysgolion, yn arbennig yng nghyswllt diwylliant, i wneud y disgyblion i fod eisiau dysgu ieithoedd?

·         A oes unrhyw arwyddion cynnar am newidiadau yn y cwricwlwm newydd o dair gwyddor gwahanol i un, a oes unrhyw wersi cynnar?

·         A oes llawer yn yr ysgolion nad ydynt yn credu mai’r ymagwedd at wyddoniaeth yn awr yw’r ffordd orau ymlaen ac a oes gwaith i gael ei wneud i sicrhau nad oes datgysylltiad rhwng beth mae ysgolion yn ei wneud a’r hyn mae prifysgolion yn ei ddisgwyl?

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i’r Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog. Bydd Will McLean yn dod ag adroddiad presenoldeb i’r pwyllgor - GWEITHREDU

 

 

5.

Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg Cynllun Gwaith i'r Dyfodol a Rhestr o Gamau Gweithredu pdf icon PDF 389 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd gwersi Covid a pharatoadau ar gyfer y pandemig ar gyfer 26 Mawrth. Atgoffir aelodau o’r cyd-bwyllgor craffu gyda Pobl ar 14 Tachwedd. Aiff adroddiad diweddaru perfformiad y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol i’r Cabinet ar 13 Rhagfyr, felly gallai fod angen i’r pwyllgor ychwanegu cyfarfod arbennig ym mis Ionawr i’w graffu. Mae rhestr o bynciau o’r cynllun Cymunedol a Chorfforaethol ac ar waelod y rhaglen waith i gael ei ystyried; caiff rhestr o bynciau sy’n dod ymlaen ar gyfer penderfyniad yn y dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf..

 

6.

Cynllun Gwaith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 369 KB

7.

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol: 20fed Medi 2023 pdf icon PDF 608 KB

Cofnodion:

Cytunwyd y cofnodion gyda’r diwygiad canlynol: bod enw’r Cynghorodd Buckler ar goll o’r rhestr presenoldeb ar gyfer y cyfarfod, felly mae angen ei ychwanegu – GWEITHREDU.

 

 

8.

Cyfarfod nesaf: 22ain Tachwedd 2023