Agenda and minutes

Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Mawrth, 10fed Mehefin, 2025 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr USK

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb.

Cofnodion:

Steven Garratt, Tudor Thomas fel dirprwy.

 

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Howells fuddiant ariannol yn eitem 5 gan fod busnes ei wraig wedi gwneud cais nodwyddo sych Osteopathig dan weithdrefnau arbennig.

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Adroddiad Blynyddol 2024-25 yr Iaith Gymraeg – Craffu ar berfformiad y Cyngor pdf icon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Angela Sandles a Pennie Walker yr adroddiad. Atebodd Nia Roberts gwestiynau aelodau gyda Pennie Walker:

 

  • Beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf parthed y 3 opsiwn am fodelau cyflenwi mwy effeithlon o ran cost?

 

Yr opsiwn mwyaf dymunol ar hyn o bryd yw ymuno gyda Torfaen ar gyfer gwasanaethau cyfieithu. Mae hyn oherwydd tebygrwydd y mathau o ddogfennau a gaiff eu cyfieithu, a fyddai’n gwneud y broses yn fwy effeithiol a chyson. Mae manylion y cydweithio gyda Torfaen yn dal i gael eu cwblhau er mwyn sicrhau gweithredu llyfn.

 

  • Beth yw ‘adolygiad dim barn’ dan archwilio mewnol?

 

 

Mae adolygiad dim-barn yn archwiliad mewnol sy’n helpu i ddynodi meysydd o gydymffurfiaeth a diffyg cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg. Nid yw’n archwiliad swyddogol ond mae’n rhoi gwybodaeth werthfawr ar gyfer datblygu cynllun gweithredu i drin meysydd sydd angen eu gwella.

 

  • A oes targed ar gyfer cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg?

 

Y nod bob amser yw cydymffurfiaeth 100%, er efallai na fedrir cyflawni hynny bob amser. Mae’r adolygiad dim-barn yn helpu i ddynodi meysydd ar gyfer gwella a chynhelir monitro rheolaidd i ddatrys problemau wrth iddynt godi.

 

  • Yn y rhestr Safonau, mae rhai ar goll e.e. 23, 69, 85, 94-8 – onid ydynt yn berthnasol?

 

Caiff yr adroddiad ei lywio gan ganllawiau Comisiynydd y Gymraeg, sy’n penderfynu pa Safonau a gynhwysir. Gall swyddogion roi diweddariad ar unrhyw Safonau nad ydynt yn cael sylw yn yr adroddiad.

 

  • O’r 53 o staff a gwblhaodd gyrsiau yn 24/25, ar ba lefel oedd y cyrsiau hyn?

 

Fe wnaeth 36 aelod o staff gwblhau’r lefel dechreuwr (Mynediad) a 12 wedi cwblhau’r lefel Sylfaen.

 

  • Sut fyddwch chi yn sicrhau fod fersiynau Cymraeg a Saesneg y wefan ac apiau yn parhau’r un fath o ran cynnwys a gweithrediad?

 

Mae heriau wrth gynnal cysondeb rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg llwyfannau digidol. Mae monitro rheolaidd, hyfforddiant a chyfathrebu gyda’r swyddog gwefan yn help i sicrhau cysondeb a sicrhau aliniad.

 

  • Pe byddai rhywun eisiau siarad Cymraeg gyda rhywun ar lefel uwch, gyda phwy y gallent siarad?

 

Byddai’n anodd canfod person ar lefel uwch sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn ymrwymiad sylweddol ac mae swyddogion yn gweithio ar wella adnoddau i helpu uwch arweinwyr i gynnwys mwy o Gymraeg yn eu gwaith.

 

  • Nododd yr aelod ddigwyddiad tân diweddar yn y Fenni pan na fedrai’r cyngor gynnig siaradwr Cymraeg i siarad gyda S4C. Tanlinellodd bwysigrwydd cael rhywun a all siarad Cymraeg gyda’r cyfryngau.

 

  • Pa mor llwyddiannus fu cynlluniau tebyg i laniardau i adnabod dysgwyr, y sianel Teams Cymraeg ac yn y blaen? A oes mwy o gynlluniau i’w hyrwyddo?

 

Bu laniardau yn effeithlon wrth ddynodi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, gan ei gwneud yn haws i’w hadnabod a chysylltu gyda nhw. Mae’r nifer sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau Cymraeg yn tyfu bob blwyddyn, gan ddangos cynnydd mewn diddordeb ac effaith. Mae ymateb cadarnhaol i awgrymiadau Cymraeg yn y cylchlythyr staff, yn aml yn ysgogi cwestiynau dilynol gan staff. Dengys adborth gan y rhai sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau eu bod yn mwynhau’r sesiynau ond  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Perfformiad Diogelu’r Cyhoedd 2024/25 – Adolygu perfformiad y maes gwasanaeth. pdf icon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan Jane Rodgers, Alun Thomas, Kristian Williams, Huw Owen a Gareth Walters a atebodd gwestiynau aelodau:

 

  • A fedrwch roi mwy o wybodaeth ar archwilio safleoedd risg uchel? A yw rhai safleoedd bwyd yn risg uwch nag eraill?

 

Caiff safleoedd bwyd risg uchel eu categoreiddio yn seiliedig ar natur y bwyd a gynhyrchiant, risg traws-halogi a lefel cydymffurfiaeth. Mae categorïau risg uchel yn cynnwys cynhyrchwyr, siopau cigydd a safleoedd tecawe, gydag amlder archwilio yn amrywio o bob chwe mis i 18 mis yn dibynnu ar lefel y risg.

 

  • Pam fod gostyngiad yn nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth eleni?

 

Mae’r gostyngiad yn nifer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn rhannol oherwydd achos neilltuol o anodd y flwyddyn flaenorol a ysgogodd lawer o sylw yn y cyfryngau cymdeithasol. Er fod nifer y ceisiadau wedi gostwng, mae’n parhau’n uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol.

 

  • Beth yw’r trothwy ar gyfer atgyfeirio digwyddiad i’r Gr?p Ymgynghori Diogelwch Digwyddiadau (ESAG)?

 

Nid oes trothwy penodol ar gyfer cyfeirio digwyddiad at ESAG. Mae’r broses yn wirfoddol a chaiff digwyddiadau mwy o ran maint neu risg uwch eu hannog i hysbysu ESAG. Mae’r gr?p yn ymateb yn seiliedig ar y risg ac yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau tân a heddlu i sicrhau diogelwch.

 

  • A fedrwch drafod yr effaith a gaiff swydd wag diogelu’r cyhoedd ar drosolwg strategol?

 

Caiff swydd wag y pennaeth diogelu’r cyhoedd ei gydnabod, ac mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn ei adolygu, gydag opsiynau posibl yn cael eu hystyried i lenwi’r bwlch.

 

  • Ymddengys fod gostyngiad mewn perfformiad rhai meysydd fel tipio anghyfreithlon a chwynion am s?n. Pa gamau sy’n cael eu cymryd i wella amserau ymateb a datrys?

 

Mae’r gostyngiad mewn perfformiad oherwydd cynnydd mewn llwyth gwaith a’r angen i roi blaenoriaeth i dasgau neilltuol. Mae ffocws y tîm ar ganlyniadau ac asesu risg i reoli’r llwyth gwaith yn effeithlon.

 

  • A ydych yn rhagweithiol wrth drin pryderon am lety uwchben safleoedd tecawe, yn arbennig yng nghyswllt gorlenwi a diogelwch tân?

 

Er na wnaeth swyddogion gyflawni’n llawn ar lety mewn archwiliadau tecawe y llynedd, mae’n flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

 

  • Ydych chi wedi gweld cynnydd mewn pryderon am les anifeiliaid?

 

Bu cynnydd mewn problemau lles anifeiliaid, yn arbennig anifeiliaid fferm, oherwydd yr argyfwng costau byw. Mae heriau wrth ddelio gyda’r achosion hyn, yn cynnwys yr angen am adnoddau a phwysigrwydd gweithio gyda’r llywodraeth i drin y problemau.

 

  • Caiff 344 o glefydau hysbysadwy eu rhestru – a oes gennym ffigurau unigol ar gyfer E.Coli yn arbennig? Pa lefel o ymchwiliad sy’n mynd i ddynodi ffynonellau y digwyddiadau hyn?

 

Oes, gellir dadansoddi ffigurau yn ôl afiechydon unigol fel E.Coli, Salmonela a Campylobacter. Caiff pob achos ei ymchwilio’n drwyadl gan gadw hanes yn seiliedig ar gyfnod deor pathogen penodol. Er enghraifft, gall ymchwiliadau Campylobacter edrych yn ôl dros 11 diwrnod i asesu hanes bwyd, cyswllt ag anifeiliaid, nofio mewn afonydd a chyswllt arall. Caiff ymchwiliadau eu cofnodi yng nghronfa ddata Taran, a gaiff ei rhannu ac sy’n caniatáu tagio ffynonellau posibl. Mae hyn yn helpu i  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol 2024/25 – Adolygu perfformiad y maes gwasanaeth. pdf icon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Rodgers a Jennifer Walton, a atebodd gwestiynau aelodau:

 

  • Parthed y canran o gofrestriadau o fewn cyfnod statudol ar gyfer genedigaethau a hefyd farwolaethau, a oes problemau sy’n effeithio ar ddarpariaeth ar gyfer pobl sy’n dioddef ar ôl marwolaeth rhywun?

 

Mae’r canran is ar gyfer genedigaethau oherwydd nifer lai o enedigaethau yn Sir Fynwy, lle mae pob genedigaeth yn cael effaith sylweddol ar y canran. Ar gyfer marwolaethau, mae’r broses statudol newydd sy’n ymwneud â rôl yr archwilydd meddygol wedi effeithio ar y rhifau. Mae swyddogion yn hyderus y caiff targedau’r flwyddyn nesaf eu cyflawni wrth i’r broses newydd ymwreiddio mwy.

.

  • A oes rheswm dros yr ystadegyn hynod mai yn Sir Fynwy y bu’r cynnydd canran uchaf mewn seremonïau priodas rhwng 2019 a 2022?

 

Roedd y cynnydd dechreuol mewn seremonïau priodas oherwydd ôl-groniad o gyfyngiadau COVID. Daeth Sir Fynwy yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer priodasau, gan ddenu pobl o bob rhan o’r wlad i’w lleoliadau hardd.

 

  • Mae datblygiadau cyson mewn deddfwriaeth a newidiadau yn yr amgylchedd lleol – beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu ac a oes unrhyw ddeddfwriaeth benodol yn yr arfaeth?

 

Mae’r newidiadau ar y gweill yn rhai technegol gan fwyaf, gan anelu i ddigideiddio y broses gofrestru, sy’n seiliedig ar bapur i raddau helaeth iawn ar hyn o bryd. Disgwylir y daw’r newidiadau hyn i rym yn y dyfodol ond mae’r union amserlen yn ansicr.

 

  • A oes pwysau ar y system yn ystod y tymor brig, gyda staff seremonïau yn rhan-amser, a beth yw’r effaith ar wasanaeth?

 

Mae’n her ymdopi â galw yn ystod yr haf ond mae aelodau’r tîm yn haeddu canmoliaeth am eu cefnogaeth a’u hyblygrwydd – er y pwysau, nid ydynt erioed wedi methu cynnal seremoni. Mae’r tîm yn mwynhau eu gwaith ac yn cefnogi ei gilydd, gan sicrhau y caiff apwyntiadau eu cynnig o fewn amserlenni statudol.

 

  • Beth yw eich barn ar ymateb y Llywodraeth i adolygiad Comisiwn y Gyfraith ar ddiwygio cyfraith priodasau, ac ydych chi’n bryderus am y ddiffyg cynnydd?

 

Ni fu unrhyw ymateb gan y Llywodraeth hyd yma, ac mae’r argymhellion yn dal i gael eu hadolygu. Bydd cofrestryddion yn dal i fod â rôl wrth adnabod priodasau rheibus, ffug a dan orfodaeth. Mae’r union newidiadau a’u gweithredu yn ansicr ond bydd y tîm yn eu trin wrth iddynt gyrraedd.

 

  • A allwch egluro nifer y genedigaethau a marwolaethau yn Sir Fynwy h.y. 633 genedigaeth a 1019 marwolaeth? A ddigwyddodd y niferoedd hyn yn y sir?

 

Union nifer y genedigaethau o fewn Sir Fynwy oedd 21 ac mae’r ffigur o 633 yn cynnwys genedigaethau a gofrestrwyd ar ran Torfaen. Mae’r ffigur o 1019 marwolaeth yn cynrychioli marwolawethau a ddigwyddodd o fewn Sir Fynwy ei hun.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i’r swyddogion am yr adroddiad a’u hymatebion, a diolchiadau hefyd i’r tîm ehangach. Cafodd yr adroddiad ei gynnig.

 

 

7.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a’r Cabinet. pdf icon PDF 155 KB

8.

Blaenraglen Gwaith a Rhestr Gweithredu y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg pdf icon PDF 640 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd y Cynghorydd Bond y swyddogion am y cais i graffu grantiau, yn arbennig o gofio am SPF ac SRN. Nododd y swyddogion nifer agendâu cyfarfodydd llawn hyd at y flwyddyn nesaf a’r tebygrwydd y bydd angen galw mwy o gyfarfodydd arbennig i ddarparu ar gyfer eitemau ychwanegol.

 

9.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 578 KB

Cofnodion:

Cafodd y cofnodion eu cytuno.

 

10.

Cyfarfod nesaf: 9 Gorffennaf 2025 am 10.00am (cyfarfod arbennig).

Cofnodion:

9 Gorffennaf 2025 am 10.00am (Cyfarfod Arbennig).