Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Llun, 15fed Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim. 

 

2.

Fforwm Agored i’r Cyhoedd

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored i’r Cyhoedd y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

 

Cofnodion:

Dim. 

 

3.

Monitro’r Gyllideb – Mis 6 pdf icon PDF 318 KB

Craffu’r sefyllfa gyllidebol (refeniw a chyfalaf) ar gyfer gwasanaethau sy’n dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor ym Mis 6.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet, Benn Callard, Peter Davies a Jonathan Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Tyrone Stokes, Will Mclean a Jane Rodgers.. 

 

Cwestiynau allweddol gan aelodau: 

·                  Sut mae’r gorwariant mewn Gwasanaethau Oedolion yn mynd erbyn hyn? Sut mae costau Gofal yn cael eu lliniaru?

·                  Beth fedrir ei wneud am gostau cludiant uchel iawn ADY?

·                  A fedrwch egluro pa effaith y caiff llithriad cyfalaf ar gostau uwch?

·                  A fedrwch esbonio yn fwy manwl y sefyllfa gyda phrydau ysgol?

·                  Os caiff cronfeydd wrth gefn eu defnyddio nes nad oes mwy o hyblygrwydd, sut fyddwn ni’n medru ailweithio gwasanaethau fel eu bod ar dir mwy cadarn?

·                  Rydym wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn i ailweithio gwasanaethau i’w rhoi ar lwybr cynaliadwy ond roedd rhagolwg gwariant Mis 6 yn waeth na Mis 5. Felly, a yw’r dull felly yn anghynaliadwy?

·                  Beth yw ystyr ‘mae risg difrifol yn parhau i gynaliadwyedd ariannol y cyngor yn y tymor agos’?

·                  Yng nghyswllt Gofal Cymdeithasol, a fedrwn ddeall ymhellach y materion yn ymwneud â galw a chymhlethdod, a sut y caiff ei reoli, yn arbennig o gofio am y ddemograffeg h?n?

·                  Pa negeseuon ydyn ni’n eu rhoi i bartneriaid cyflenwi, yn arbennig feddygon teulu, yn y cyfnod hwn o alw uchel ar y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac a fedrir gwneud mwy i reoli risg yn nes gartref a chadw oedolion eiddil h?n yn y gymuned, p’un ai mewn gofal preswyl neu eu cartrefi eu hunain?

·                  Dengys yr adroddiad arbedion mewn Twf Busnes a Menter a Phriffyrdd a Llifogydd, ond gallai’r cyhoedd ofyn i’r ardaloedd hynny gael blaenoriaeth o gofio ei fod yn amser heriol iawn i fusnesau, a bod problemau gyda ffyrdd – beth fyddai’r ateb iddynt?

·                  A fedrwn adfachu cost gofal iechyd parhaus o’r gorffennol?

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

Cymeradwywyd yr argymhellion a chynigiwyd yr adroddiad.

 

4.

Strategaeth Rheoli Asedau pdf icon PDF 756 KB

Craffu cyn penderfyniad gan y Cyngor llawn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick a Peter Davies yr adroddiad ateb cwestiynau aelodau gyda Nicholas Keyse.

 

Cwestiynau aelodau gan aelodau:

 

·                  Beth yw’r meysydd o gonsyrn neilltuol sydd angen i’r Cyngor ganolbwyntio arnynt?

·                  Mae maes parcio gwag mawr iawn yng Nghyffordd Twnnel Hafren, wedi’i seilio ar welliannau a datblygiadau. Os caiff y rheiny eu hoedi’n ddifrifol neu ddim yn digwydd, beth fyddai’r risg ariannol i’r cyngor? –GWEITHREDU (ymateb ysgrifenedig gan swyddogion)

·                  Sut ydyn ni’n cwmpasu ailddefnyddio ein hasedau adeiladu i’n cynorthwyo i ddatblygu mwy o ddarpariaeth gan yr awdurdod ar gyfer gofal cymdeithasol, yn arbennig Gwasanaethau Plant?

·                  Pa mor dda yw adnoddau a galluedd yr adran i gaffael asedau os yw darparwyr annibynnol yn gadael y farchnad?

·                  T21, dan amcan defnyddio asedau cymunedol i optimeiddio gwerth cymdeithasol, mae’r strategaeth yn dweud ‘Gweithio i sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i gydraddoldeb a hygyrchedd wrth ddatblygu cynllun asedau maes gwasanaeth’ – a yw’r gair ‘ystyried’ yn rhy wan? A ddylai’r ymddygiad neilltuol hwn fod ymhellach lan y rhestr?

·                  A allwn weld darpariaeth Newid Lleoedd ym mhob tref?

·                  A oes gennym unrhyw ffermydd garddwriaethol yn y 24 daliad fferm? A yw rhai ymgeiswyr yn cael sgôr uwch os ydynt yn gwthio  syniadau ffermio mwy cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd?

·                  Nid ydym yn cael enilliad o 2% ar Barc Hamdden Casnewydd – sut ydyn ni’n cynnig cyrraedd yno?

·                  Mae pryderon am risg o’r gostyngiad mewn rhaglenni cynnal a chadw gofal ac anghysondeb posibl yn ein dull gweithredu. Gyda’r sefyllfa ddiweddar yn T? Arloesedd fel esiampl, ai dim ond edrych ar osod rhywbeth dros dro i atal y clwy ydym yn y dyfodol, oherwydd cyfyngiadau cyllideb?

·                  Gyda eiddo gwag, a yw’r asiant yn llwyr ymwybodol o beth rydym ei eisiau ar gyfer y dyfodol? Mae angen i ni gael ymagwedd mae’n rhwydd i denantiaid newydd ddod atom.

·                  A yw’n briodol cynnwys Ffigur 15 yn yr adroddiad hwn?

·                  A oes rhestr o asedau cofrestredig sy’n hygyrch i breswylwyr?

·                  Mae dau Ffigur 1 yn yr adroddiad – dylid ad-drefnu’r rhifau – ac angen esbonio’r llythrennau cyntaf a ddefnyddiwyd drwy’r holl adroddiad – GWEITHREDU (Cynghorydd Bond i anfon rhestr o awgrymiadau am gywiriadau i swyddogion).

·                  Mae’n dweud fod Parc Hamdden Casnewydd ar y ffin – onid yw hyn i gyd yng Nghasnewydd, ac felly mae angen newid hyn?

·                  A ydym yn destun rhewi ar recriwtio ar hyn o bryd ac a oes bylchau sgiliau yng nghyswllt recriwtio am feysydd y mae gennych bryderon amdanynt?

·                  A yw’r Aelod Cabinet yn hapus gyda chapasiti’r adran ar hyn o bryd?

·                  Mae’r adroddiad yn gryf ar yr hyn a wnaethom ond nid oes llawer o wybodaeth ar beth fydd y strategaeth ar gyfer yr asedau yn y dyfodol?

·                  A fyddai’r Cyngor mewn sefyllfa well yn gwaredu i fenter ar y cyd gydag arbenigwr manwerthu a defnyddio cyfalaf hylif ar gyfer dibenion eraill?

·                  A fyddai’n fwy defnyddiol i breswylwyr gael eu datblygiadau wedi grwpio o amgylch ein trefi marchnad unigol?

·                  Mae’r strategaeth ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn dal yn ymddangos yn aneglur?  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Polisi Buddsoddi Asedau pdf icon PDF 201 KB

Diweddaru'r Aelodau ar newidiadau llywodraethu arfaethedig i'r Polisi Buddsoddi Asedau a diweddariad perfformiad ar bortffolio eiddo masnachol a buddsoddi'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick a Peter Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Jonathan Davies  Nicholas Keyse.

 

Cwestiynau allweddol gan aelodau:

 

·                  Gallai fod pryderon nad oes digon o arbenigedd perthnasol i drin buddsoddiadau masnachol a manwerthu – a allwn gael mwy o eglurdeb ar hynny, a’r broses gwneud penderfyniadau y mae’r adroddiad yn sôn amdani?

·                  Cafodd £30.7m o’r £50m o’r gronfa fenthyg eu gwario ar y buddsoddiadau, beth yw’r sefyllfa gyda’r £19.3m sydd ar ôl?

·                  A fedrwch esbonio’r gronfa ad-dalu?

·                  Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r buddsoddiadau hyn a’r portffolio? A fedrwn gael mwy o wybodaeth ar sut y caiff hynny ei wneud?

·                   A fedrwch gadarnhau ystyr yr ymadrodd ‘ymddangos i awgrymu’ ar dudalen 151?

·                  T150-2, mae’r adenilliad ar Castle Gate yn llai na 2% mae’r meini prawf yn sôn am fudd cymunedol – a ellir gwneud lle ar gyfer Cymdeithas Theatr Gerdd Cil-y-coed?

·                  Faint sydd yn y gronfa ad-dalu a faint o le sydd ynddi?

·                  I egluro, a oedd y gyfradd defnydd ym mis Tachwedd yn 85.6%?

·                  2.2, i egluro cwmpas daearyddol y polisi, a fyddai hyn yn rho’r hyblygrwydd i edrych ar awdurdodau o fewn y Porth Gorllewinol?

·                  A yw parciau manwerthu yn enghraifft o ardaloedd y gallem ystyried dadfuddsoddi ynddynt, yn rhannol er mwyn cael cyd-berchnogaeth gyda gr?p er mwyn rhyddhau cyfalaf y gellid ei roi i gymorth mwy penodol i’r gymuned neu fusnes?

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

Diolch i’r swyddogion am eu gwaith parhaus rhagorol. Mae’n dda gweld yn 5.2 y gwelliant ym mherfformiad y portffolio buddsoddi ac y rhagwelir y bydd y ddau fuddsoddiad manwerthu mawr yn cynhyrchu gwarged net ar ôl costau benthyca yn 24/25. Cymeradwywyd yr argymhellion a derbyniwyd yr adroddiad.

 

 

6.

Cyfarfod Nesaf: 30ain Ionawr 2024