Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb.

Cofnodion:

Tony Kear, Phil Murphy fel eilydd. Etholwyd y Cynghorydd Murphy fel Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod ac fe’i henwebwyd gan y Cynghorydd Chandler a’i eilio gan y Cynghorydd Bond.

 

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Strong wedi datgan buddiant nad oedd yn rhagfarnu fel Cadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed ac Ysgrifennydd Cymdeithas Hanesyddol Sir Gwent.

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw sylwadau wedi eu derbyn.

 

 

4.

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y Gyllideb ar gyfer 2023/24. Bydd cyflwyniad yn dilyn wedi ei deilwra ar gyfer craffu ar y meysydd a ddaw o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg. pdf icon PDF 7 MB

Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i’r papurau ar gyfer yr eitem hon – bydd ar gael fel rhan o agenda Cabinet 18 Ionawr.

20230118 Cabinet - Draft 2023-24 Revenue Capital Budget for consultation - Covering report Final v2.pdf (monmouthshire.gov.uk)

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick wedi rhoi’r cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau gan Aelodau gyda Peter Davies, Jonathan Davies, Jane Rodgers, Nikki Wellington, Matt Phillips, yr Aelod Cabinet Sara Burch a’r Aelod Cabinet Paul Griffiths.

 

Her:

 

Mae yna bryderon am lefelau’r hyder er mwyn medru sicrhau’r arbedion arfaethedig, y risgiau ynghlwm gyda hyn a’r effeithiau trawselfennol e.e. o ran SCH5, cwtogi staff ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion, pa effaith y bydd hyn yn ei gael ar SCH6, gyda chynnydd o ran staff? Nid ydym yn deall sut y mae’r ddau yn plethu ynghyd? Beth yw’r gallu i sicrhau’r ail-ddylunio yn SCH5, pan nad yw’r swydd fel Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Oedolion?

 

Nid oes modd gwadu’r ffaith fod yna heriau sylweddol yn y mandad sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer Gofal Cymdeithasol i oedolion. Rydym wedi treulio llawer o amser yn ystyried y ffordd orau i sicrhau’r arbedion  heb greu risg ar gyfer yr unigolion. Yn dilyn ymateb y pandemig, rydym nawr wrthi yn ffocysu nôl eto ar y blaenoriaethau strategol, yn enwedig o ran help cynnar ac ymyrraeth, galluogi ac ail-alluogi a gweithio mewn partneriaeth. Rhaid i ni ddychwelyd i bractis cefnogol er mwyn caniatáu pobl i fyw mor annibynnol ag sydd yn  bosib gyda chyn lleied o ddibyniaeth ag sydd yn bosib ar becynnau gofal drud, a’n sicrhau bod  pob un geiniog yn cael ei gwario yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol drwy ehangu’r fath o ofal sydd yn cael ei ddarparu. Rydym angen adolygu ac asesu pobl sydd eisoes yn derbyn gofal a’r sawl sydd yn dod i mewn. Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar  ddiogelwch ond byddwn yn herio ein hunain yngl?n ag a ydym yn helpu i ganiatáu’r person i fyw yn y ffordd orau, fel ein bod yn medru lleihau rhai o’r costau gofal. Bydd yn bwysig ein bod yn cydweithio gyda’n partneriaid iechyd a’n defnyddio ein holl adnoddau. Byddwn yn disgwyl ymlaen at gefnogi pobl er mwyn eu hosgoi rhag gorfod mynd i’r ysbyty neu’u bod yn medru gadael yn gyflym a pharhau gydag arloesi - mae llawer o syniadau gennym.  

 

O ran y cynnydd o £1.4m mewn ffioedd sydd yn y papur crynodeb, nid oes yna fanylder o ble y bydd yr arian hwn yn dod?

 

O fewn papurau’r gyllideb, mae yna fwy o fanylder am y ffioedd, a hynny yn ôl Cyfarwyddiaeth yn gyntaf ac yna’r gwasanaethau y mae’n rhaid talu amdanynt.  O fewn y mandadau Gofal Cymdeithasol, mae yna fandad ar wahân ar gyfer ffioedd Gofal Cymdeithasol sydd yn cynnig mwy o fanylder, gyda gwybodaeth yn Atodiad 1, gyda dolenni i’r atodiad llawn o ffioedd sydd yn dangos y cynnydd o £1.4m.

 

Nid yw’r cynnydd o £1.4m ym maes Gofal Cymdeithasol wedi ei fanylu yn y papur cyffredinol.

 

Roeddem wedi ceisio sicrhau bod y papur yn fwy cryno ond rydym yn hapus i dderbyn yr adborth.

 

Mae trigolion eisoes yn mynegi pryderon am yr arbedion a ddaw o’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu.  Beth yw’r esboniad a’r cyfiawnhad  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyfarfod nesaf: Dydd Iau 23 Chwefror 2023 am 10.00am.

Cofnodion:

Mae’r cyfarfod wedi ei newid i ddydd Llun, 27ain Chwefror 2023 am 10:00am.