Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Apwyntiwyd y Cynghorydd Alistair Neill fel Cadeirydd.

 

2.

Croeso gan y Cadeirydd

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi croesawu Aelodau’r Pwyllgor. Yn ei sylwadau, roedd pwysleisio pwysigrwydd gwaith y Pwyllgor, gan nodi fod craffu effeithiol yn bwysig ar gyfer sicrhau Cyngor da. Roedd wedi atgoffa Aelodau o rôl y Pwyllgor i wneud argymhellion, nid penderfyniadau, a dylai y gwaith fod yn wrthrychol, er mwyn gwella gwasanaethau ac – yn ddelfrydol – osgoi problemau cyn eu bod yn digwydd. Mae’r craffu mwyaf effeithiol yn digwydd cyn gwneud penderfyniad, er mwyn helpu’r Gweithgor i lunio polisïau da. Mae’r Pwyllgor yn medru adlewyrchu llais y cyhoedd yn ei waith, a’u pryderon, ynghyd â’r rhai a ddaw o’n partneriaid a’n budd-ddeiliaid.  

 

Bydd y Pwyllgor yn dal Aelodau yn atebol am ddarparu gwasanaethau a rheoli risgiau. Mae monitro ariannol cadarn a’n sicrhau bod y Cyngor yn atebol am ei amcanion corfforaethol sydd yn y cynllun corfforaethol yn hanfodol. Bydd yn bwysig i’r Cadeirydd ac aelodau’r Pwyllgor eu bod yn gweithio’n effeithiol y tu allan i’r cyfarfodydd gyda swyddogion, Aelodau gweithredol, grwpiau cymunedol a phartneriaid. Bydd y Cadeirydd yn ceisio gweithio gyda’r Aelodau  Cabinet er mwyn goruchwylio gwaith y rhaglen. Bydd y Pwyllgor angen sicrhau bod yr argymhellion yn gytbwys a’n gywrain. Mae’r craffu angen bod yn fanwl a chyson - mae’n well ein bod yn craffu llai o feysydd ond yn gwneud hynny’n dda a dylid  ystyried hyn wrth lywio’r Blaenraglen Waith.  

 

 

3.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Derbyniwyd enwebiadau ar gyfer y Cynghorydd  Wright, y Cynghorydd  Kear a’r Cynghorydd  Chandler.

 

Apwyntiwyd y Cynghorydd  Kear fel Is-Gadeirydd yn dilyn pleidlais. 

 

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

5.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan y cyhoedd.

 

 

6.

Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2021-22 – Craffu ar berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg. pdf icon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Matthew Gatehouse wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau. 

 

Her:

 

A yw’r hyfforddiant staff yn agored i Gynghorwyr? A oes yn gynlluniau i fynd yn ôl i hyfforddi mewn person?

 

Ydy, mae ar agor i Aelodau – rydym am helpu cynifer o bobl ag sydd yn bosib, gyda phethau fel dosbarthiadau sgwrsio dros ginio. Ym mis Medi, byddwn yn debygol o gyflwyno cyfleoedd i hyfforddi mewn person ac yn hapus i ariannu cyrsiau mewn mannau eraill hefyd – y peth allweddol yw annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i siarad.

 

Beth fydd yn cael ei drefnu er mwyn delio gyda’r gorwariant nawr ac yn y blynyddoedd nesaf?

 

Mae yna ddyletswydd gyfreithiol gennym i gyfieithu pethau ac nid ydym yn medru ceisio osgoi hyn. Mae yna gyfrifoldeb i weithredu o fewn y Gyllideb sydd wedi ei gosod gan y Cyngor ar gyfer y maes hwn, ac rydym wedi ceisio  mynd i’r afael gyda gorwariant. Er enghraifft, roedd ein Swyddog Iaith Gymraeg wedi  ymddeol mewn blwyddyn etholiad, gan arwain at fwlch yn y cyflog a dalwyd am gyfnod. O ganlyniad, bydd yna danwariant yn y maes hwn fel sydd wedi ei ddangos yn yr eitem agenda nesaf.  

 

Sut y mae’r gwaith tendro ar gyfer comisiynu gwaith cyfieithu yn cael ei wneud? A yw’n amser i adolygu hyn? A yw Caerdydd yn ein helpu fel rhan o’r bartneriaeth? A ydym yn cyfieithu unrhyw beth yn fewnol? A yw Awdurdodau eraill yn rhannu gwasanaethau cyfieithu h.y. yn cydweithio gyda'r sawl sydd â mwy o ddarpariaeth?

 

Roeddwn wedi ystyried y sefyllfa hon rhyw 2.5-3 mlynedd yn ôl – rydym yn adolygu’r sefyllfa yn gyson er mwyn sicrhau bod ein trefniadau yn gost-effeithiol. Nid oes cyfieithwyr mewnol gennym ond rydym yn defnyddio criw sefydlog o 6-7 o gyfieithwyr o bob cwr o Gymru. Mae’r cyfraddau yr ydym yn talu yn gystadleuol iawn o’u cymharu gyda’r opsiynau amgen. Roeddem wedi ystyried gofyn i awdurdod lleol arall i ddarparu’r gwasanaeth ond byddai wedi costio tua £30-40k yn fwy bob blwyddyn. Roeddem hefyd wedi gofyn i gydweithwyr Caffael a oedd unrhyw werth mynd yn ôl i’r farchnad; wedi ystyried maint y farchnad a swm yr arbedion posib, nid oeddynt yn credu y byddai’r contractau yn cynnig digon o werth i fynd yn ôl i’r farchnad. Ond byddwn yn parhau i adolygu hyn.

 

Roeddem wedi ystyried dod â’r gwasanaeth yn rhan o’r Awdurdod, yn rhannol yn sgil y dechnoleg sydd ar gael ond mae llawer o’r busnesau unigol yn defnyddio meddalwedd/offerynnau dysgu sydd yn caniatáu hwy i gadw eu costau yn isel. Nid ydym yn gwneud rhyw lawer yn fewnol ac eithrio rhai pethau fel prawfddarllen. Gan amlaf, mae’r cyfieithwyr yn medru cyfieithu pethau o fewn yr awr pan fydd angen.  

 

Beth yw cyfanswm nifer y   staff ym mhob un maes gwasanaeth – a yw’n cynnwys y rhai sydd heb ddechrau dysgu?

 

Nid yw’r niferoedd hynny gennym ar hyn o bryd ond bydd modd darparu hyn maes o law, a’u cynnwys yn adroddiadau’r dyfodol er mwyn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Alldro Cyfalaf Refeniw 2021-22 Adroddiad Monitro’r Gyllideb – Craffu ar y drafft adroddiad a dynodi unrhyw feysydd ar gyfer craffu yn y dyfodol. pdf icon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Jonathan Davies wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau gyda Dave Loder, Peter Davies a Nicola Wellington.

 

Her:

 

Mae heriau’r dyfodol o ran darparu gwasanaethau wedi eu hamlygu. A oes set mwy manwl o asesiadau ar gyfer y risgiau tebygol? Beth am y pwysau chwyddiant a’r materion perthnasol eraill?  

 

Roedd llawer o’r risgiau yn wybyddus pan oeddwn yn gosod y cyllidebau, pan oeddwn wedi cynnal dadansoddiad llawn. Nid oedd rhai o’r pwysau chwyddiant mor amlwg ar y pryd hynny: rhaid oedd ymateb  iddynt yn gyflym wrth iddynt ddatblygu. Bydd adrodd ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol yn dilyn gydag adroddiad Mis 4 yn dod i’r Pwyllgor ym mis Medi a fydd yn mynd i’r afael gyda sut y mae rhai o’r risgiau yn cyflwyno eu hunain.  Mae’r prif risgiau wedi eu hamlygu ym 3.28 ac maent i’w disgwyl: mae dal diffygion o ran y gyllideb strwythurol sydd yn ymwneud gyda gofynion ar gapasiti Gofal Cymdeithasol,  Cartrefi Gofal yn agosáu at 100%, ac felly, rydym yn ariannu’r llefydd yma ac nid oedd rhaid i i wneud hyn yn ystod y pandemig.   Mae materion staffio ym maes Gofal yn y Cartref yn nodwedd allweddol o’r gwasanaeth, ac rydym yn chwilio am help allanol er mwyn cefnogi hyn. Mae digartrefedd yn faes allweddol – mae yna newid polisi wedi bod gan Lywodraeth Cymru ac mae dal llawer o fanylder angen ei gadarnhau yngl?n â sut ydym yn cefnogi’r gwasanaeth.

 

Mae tanwario yn gymaint o bryder ag y mae gorwariant gan ei fod yn awgrymu nad ydym yn darparu gwasanaethau fel ydym yn gobeithio. A yw ‘arbedion’ yn golygu ein bod yn ceisio arbed yr arian neu a yw hyn yn danwariant nad oeddem yn ceisio sicrhau e.e., arbedion costau staff yn y Gwasanaeth Seicoleg i Ysgolion?

 

Mae ‘arbedion’ neu ‘fesurau lliniaru’ yn golygu bod y rhain wedi eu dwyn gerbron cyn dechrau’r flwyddyn ariannol  a pha wasanaethau sydd wedi cynnig effeithlonrwydd neu’r mesurau lliniaru sydd yn bosib, i’w  gweld yn Nhabl 2. Mae’r arbedion penodol yn SPS i’w briodoli i swydd wag. Mae tanwariant yn cyfeirio at yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn i’r gyllideb a osodwyd, yn hytrach nag arbedion neu fesurau lliniaru a gytunwyd ar ddechrau’r flwyddyn, ond mae’r ddau weithiau yn cyfuno.

 

Beth yw’r esboniad ar gyfer y tanwariant  sylweddol ar gyfer Priffyrdd?

 

Mae’n cynnwys dwy ran. Mae’r arbedion cyntaf yn ymwneud gyda staffio,  gan fod yna nifer o swyddi gwag yn y maes hwn. Maent yn ceisio llenwi’r swyddi gwag yma nawr. Yr ail beth yw’r lefelau uchel o incwm y llynedd, sydd yn cynnwys dwy ran: roeddem yn medru ail-godi tâl ar gyfer costau staff ar y cyllidebau cyfalaf a grantiau,  ac roeddem wedi derbyn mwy o incwm yn sgil ffyrdd wedi eu cau, ac nid oedd hyn wedi ei rannu gyda Chyllid tan yn hwyrach yn y flwyddyn.  Roedd yr incwm wedi dyblu, gan greu hwb sylweddol yn ein hincwm. Mae’n debygol iawn y bydd yna danwariant sylweddol eleni.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Hunanasesiad 2021-2022 Cyngor Sir Fynwy – Craffu ar berfformiad y Cyngor yn ystod 2021-2022 o gymharu â’r nodau a amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol 2017-2022, gan gytuno ar unrhyw feysydd ar gyfer craffu pellach.. pdf icon PDF 536 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Richard Jones wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau gan yr Aelodau gyda  Matthew Gatehouse ac Emma Davies.

 

Her:

 

Fel rhan o’n gwaith i leihau ein hol-troed carbon a gwastraff, a oes yna sgôp tuag at weithio at ymddygiad newydd e.e.  sebon yn hytrach  na geliau, pwyslais ar ymatal rhag defnyddio yn hytrach nag ailgylchu, dealltwriaeth fod plastig yn dod o olew? A ydy hyn wedi ei ystyried?  

 

Rydym wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac wedi paratoi Cynllun Gweithredu, ond mae’r adroddiad yn cydnabod fod angen gwneud mwy: rydym yn ystyried sut i gyflawni mwy gydag ein hadnoddau.  Mae’r Aelod wedi rhoi awgrymiadau ardderchog i ni eu gweithredu.

 

Sut y mae’r Pwyllgorau Ardal yn perfformio a sut ydynt wedi eu trefnu? A oes yna adborth gan gymunedau am berfformiad CSF?

 

Y peth allweddol yw cydnabod nad ydynt wedi bod yn cwrdd yn ddiweddar. Mae yna nifer o werthusiadau wedi eu cynnal yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr Aelod  Cabinet Fookes yn dechrau cyfranogiad cyhoeddus cyn hir a fydd yn ymgorffori gweithio gyda’r Pwyllgorau Ardal.  

 

A oes yna wahaniaeth rhwng fersiwn 1.0 a  2.0 a rannwyd ar gyfer y Pwyllgor Awdit ac Archwilio'r wythnos nesaf?

 

Nid oes newidiadau mawr wedi eu gwneud rhwng 1.0 a 2.0, ond mae’n fwy bod yr adroddiad yn edrych nôl ar  21-22. Rydym wedi parhau i fireinio ychydig o’r data a thystiolaeth ac mae rhai o’r dangosyddion perfformiad wedi eu diweddaru. Un newid sylweddol yw ychwanegu’r amserlenni i’r cynlluniau gweithredu. Roedd y rhan fwyaf o gasgliadau a manylion heb eu newid. Rydym yn medru olrhain y newidiadau wedi hyn e.e. yn yr adroddiad sydd i’w gyflwyno i’r Cyngor yn mis Medi. Er eglurder, mae  ‘.0’ yn cael ei ddefnyddio pan fydd rhywbeth wedi ei gyhoeddi, hyd yn oed os oes newidiadau mân wedi eu gwneud rhwng Fersiwn 1.0 a 2.0.

 

A ydym yn casglu adborth gan staff er mwyn deall y gwahaniaethau bychain a ddaw o’r cydweithio rhwng yr Awdurdodau Lleol, o ran Gofal Cymdeithasol ac Iechyd?

 

Rydym yn falch iawn o’n hanes yn cydweithio rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd yn deillio nôl i  2005-6. Mae yna heriau sylweddol o ran y rhyngweithio. Mae’r adborth yn cael ei gofnodi yn yr oruchwyliaeth broffesiynol y mae gweithwyr cymdeithasol ac eraill yn cael gyda’u rheolwyr, ac yna’n llywio’r casgliadau y mae’r Prif Swyddog ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn paratoi ar gyfer yr adroddiad blynyddol. Mae yna bethau sensitif i’w cael weithiau,  ond dyma sut y byddem yn casglu’r wybodaeth. Efallai bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, a baratowyd ar ddiwedd  2021, o bosib yn ddefnyddiol: gwnaed llawer o waith gyda staff ac roedd llawer o adborth wedi ei gynnwys.

 

A ydym yn adolygu’r cwestiynau yn yr holiaduron ar gyfer defnyddwyr Gwasanaeth Cymdeithasol fel ein bod yn medru sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir?

Mae’r rhain yn gwestiynau cenedlaethol. Mae’r dyluniad wedi ei lywio drwy gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, ein tîm perfformiad a’n tîm gwasanaethau cwsmer. Mae’n arolwg sydd wedi ei gynnal ers tro o  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Blaenraglen Gwaith – Ystyried yr Adroddiad Blaenraglen Gwaith a dynodi meysydd i’w craffu ymhellach, ac wrth wneud hynny, gytuno ar ddrafft Flaenraglen Gwaith. pdf icon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Awgrymwyd y testunau canlynol gan Aelodau:

 

  • Dygnwch y Cyngor a Chymunedau, yn benodol os y bydd Covid yn digwydd eto neu’r pandemig nesaf.

 

  • Sut y mae’r weinyddiaeth newydd yn defnyddio arian wrth gefn y Cyngor  .

 

  • Caffael: yn ennyn dealltwriaeth o’r berthynas gyda Chyngor Caerdydd a’r buddion (bydd yna graffu o’r Strategaeth Gaffael cyn gwneud penderfyniad, a hynny yn y cyfarfod nesaf)

 

  • Recriwtio a chadw staff: effaith Covid, yr her a ddaw o gael swyddi gwag a’r gwahaniaethau cyflog.

 

  • Y Stratgaeth Rheoli Asedau ar ffyrdd o reoli hyn.  

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a chytunwyd ar amlinelliad o’r Blaenraglen Waith: bydd yn cael ei rannu ar ôl y cyfarfod er mwyn caniatáu’r holl Aelodau i ychwanegu mwy o awgrymiadau. Mae’r Pwyllgor yn cytuno ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 29ain Medi a bydd yn cynnwys  craffu o’r Strategaeth Gaffael cyn gwneud penderfyniad, Craffu Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, Monitro’r Gyllideb ar gyfer Mis 4 a’r Gofrestr o Risgiau Strategol. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod na fydd hyn o bosib yn medru cael ei gyflawni mewn un cyfarfod, ac felly yn cytuno y bydd yn Gofrestr o Risgiau Strategol  yn cael ei dderbyn yn y cyfarfod hwn ond yn cael ei drafod mewn gweithdy craffu yn y dyfodol er mwyn cytuno ar ba feysydd y dylid craffu arnynt yn y dyfodol.  

 

 

10.

Cyfarfod nesaf: Dydd Iau 29 Medi 2022 am 10.00am.

Cofnodion:

Dydd Iau 29ain Medi 2022 am 10.00am.