Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Fforwm Agored i’r Cyhoedd
Canllawiau ~ Fforwm Agored i’r Cyhoedd y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Dim.
|
|
Monitro’r Gyllideb – Mis 6 PDF 318 KB Craffu’r sefyllfa gyllidebol (refeniw a chyfalaf) ar gyfer gwasanaethau sy’n dod o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor ym Mis 6. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet, Benn Callard, Peter Davies a Jonathan Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Tyrone Stokes, Will Mclean a Jane Rodgers..
Cwestiynau allweddol gan aelodau: · Sut mae’r gorwariant mewn Gwasanaethau Oedolion yn mynd erbyn hyn? Sut mae costau Gofal yn cael eu lliniaru? · Beth fedrir ei wneud am gostau cludiant uchel iawn ADY? · A fedrwch egluro pa effaith y caiff llithriad cyfalaf ar gostau uwch? · A fedrwch esbonio yn fwy manwl y sefyllfa gyda phrydau ysgol? · Os caiff cronfeydd wrth gefn eu defnyddio nes nad oes mwy o hyblygrwydd, sut fyddwn ni’n medru ailweithio gwasanaethau fel eu bod ar dir mwy cadarn? · Rydym wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn i ailweithio gwasanaethau i’w rhoi ar lwybr cynaliadwy ond roedd rhagolwg gwariant Mis 6 yn waeth na Mis 5. Felly, a yw’r dull felly yn anghynaliadwy? · Beth yw ystyr ‘mae risg difrifol yn parhau i gynaliadwyedd ariannol y cyngor yn y tymor agos’? · Yng nghyswllt Gofal Cymdeithasol, a fedrwn ddeall ymhellach y materion yn ymwneud â galw a chymhlethdod, a sut y caiff ei reoli, yn arbennig o gofio am y ddemograffeg h?n? · Pa negeseuon ydyn ni’n eu rhoi i bartneriaid cyflenwi, yn arbennig feddygon teulu, yn y cyfnod hwn o alw uchel ar y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac a fedrir gwneud mwy i reoli risg yn nes gartref a chadw oedolion eiddil h?n yn y gymuned, p’un ai mewn gofal preswyl neu eu cartrefi eu hunain? · Dengys yr adroddiad arbedion mewn Twf Busnes a Menter a Phriffyrdd a Llifogydd, ond gallai’r cyhoedd ofyn i’r ardaloedd hynny gael blaenoriaeth o gofio ei fod yn amser heriol iawn i fusnesau, a bod problemau gyda ffyrdd – beth fyddai’r ateb iddynt? · A fedrwn adfachu cost gofal iechyd parhaus o’r gorffennol?
Crynodeb y Cadeirydd: Cymeradwywyd yr argymhellion a chynigiwyd yr adroddiad.
|
|
Strategaeth Rheoli Asedau PDF 756 KB Craffu cyn penderfyniad gan y Cyngor llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick a Peter Davies yr adroddiad ateb cwestiynau aelodau gyda Nicholas Keyse.
Cwestiynau aelodau gan aelodau:
· Beth yw’r meysydd o gonsyrn neilltuol sydd angen i’r Cyngor ganolbwyntio arnynt? · Mae maes parcio gwag mawr iawn yng Nghyffordd Twnnel Hafren, wedi’i seilio ar welliannau a datblygiadau. Os caiff y rheiny eu hoedi’n ddifrifol neu ddim yn digwydd, beth fyddai’r risg ariannol i’r cyngor? –GWEITHREDU (ymateb ysgrifenedig gan swyddogion) · Sut ydyn ni’n cwmpasu ailddefnyddio ein hasedau adeiladu i’n cynorthwyo i ddatblygu mwy o ddarpariaeth gan yr awdurdod ar gyfer gofal cymdeithasol, yn arbennig Gwasanaethau Plant? · Pa mor dda yw adnoddau a galluedd yr adran i gaffael asedau os yw darparwyr annibynnol yn gadael y farchnad? · T21, dan amcan defnyddio asedau cymunedol i optimeiddio gwerth cymdeithasol, mae’r strategaeth yn dweud ‘Gweithio i sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i gydraddoldeb a hygyrchedd wrth ddatblygu cynllun asedau maes gwasanaeth’ – a yw’r gair ‘ystyried’ yn rhy wan? A ddylai’r ymddygiad neilltuol hwn fod ymhellach lan y rhestr? · A allwn weld darpariaeth Newid Lleoedd ym mhob tref? · A oes gennym unrhyw ffermydd garddwriaethol yn y 24 daliad fferm? A yw rhai ymgeiswyr yn cael sgôr uwch os ydynt yn gwthio syniadau ffermio mwy cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd? · Nid ydym yn cael enilliad o 2% ar Barc Hamdden Casnewydd – sut ydyn ni’n cynnig cyrraedd yno? · Mae pryderon am risg o’r gostyngiad mewn rhaglenni cynnal a chadw gofal ac anghysondeb posibl yn ein dull gweithredu. Gyda’r sefyllfa ddiweddar yn T? Arloesedd fel esiampl, ai dim ond edrych ar osod rhywbeth dros dro i atal y clwy ydym yn y dyfodol, oherwydd cyfyngiadau cyllideb? · Gyda eiddo gwag, a yw’r asiant yn llwyr ymwybodol o beth rydym ei eisiau ar gyfer y dyfodol? Mae angen i ni gael ymagwedd mae’n rhwydd i denantiaid newydd ddod atom. · A yw’n briodol cynnwys Ffigur 15 yn yr adroddiad hwn? · A oes rhestr o asedau cofrestredig sy’n hygyrch i breswylwyr? · Mae dau Ffigur 1 yn yr adroddiad – dylid ad-drefnu’r rhifau – ac angen esbonio’r llythrennau cyntaf a ddefnyddiwyd drwy’r holl adroddiad – GWEITHREDU (Cynghorydd Bond i anfon rhestr o awgrymiadau am gywiriadau i swyddogion). · Mae’n dweud fod Parc Hamdden Casnewydd ar y ffin – onid yw hyn i gyd yng Nghasnewydd, ac felly mae angen newid hyn? · A ydym yn destun rhewi ar recriwtio ar hyn o bryd ac a oes bylchau sgiliau yng nghyswllt recriwtio am feysydd y mae gennych bryderon amdanynt? · A yw’r Aelod Cabinet yn hapus gyda chapasiti’r adran ar hyn o bryd? · Mae’r adroddiad yn gryf ar yr hyn a wnaethom ond nid oes llawer o wybodaeth ar beth fydd y strategaeth ar gyfer yr asedau yn y dyfodol? · A fyddai’r Cyngor mewn sefyllfa well yn gwaredu i fenter ar y cyd gydag arbenigwr manwerthu a defnyddio cyfalaf hylif ar gyfer dibenion eraill? · A fyddai’n fwy defnyddiol i breswylwyr gael eu datblygiadau wedi grwpio o amgylch ein trefi marchnad unigol? · Mae’r strategaeth ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn dal yn ymddangos yn aneglur? ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Polisi Buddsoddi Asedau PDF 201 KB Diweddaru'r Aelodau ar newidiadau llywodraethu arfaethedig i'r Polisi Buddsoddi Asedau a diweddariad perfformiad ar bortffolio eiddo masnachol a buddsoddi'r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick a Peter Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Jonathan Davies Nicholas Keyse.
Cwestiynau allweddol gan aelodau:
· Gallai fod pryderon nad oes digon o arbenigedd perthnasol i drin buddsoddiadau masnachol a manwerthu – a allwn gael mwy o eglurdeb ar hynny, a’r broses gwneud penderfyniadau y mae’r adroddiad yn sôn amdani? · Cafodd £30.7m o’r £50m o’r gronfa fenthyg eu gwario ar y buddsoddiadau, beth yw’r sefyllfa gyda’r £19.3m sydd ar ôl? · A fedrwch esbonio’r gronfa ad-dalu? · Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r buddsoddiadau hyn a’r portffolio? A fedrwn gael mwy o wybodaeth ar sut y caiff hynny ei wneud? · A fedrwch gadarnhau ystyr yr ymadrodd ‘ymddangos i awgrymu’ ar dudalen 151? · T150-2, mae’r adenilliad ar Castle Gate yn llai na 2% mae’r meini prawf yn sôn am fudd cymunedol – a ellir gwneud lle ar gyfer Cymdeithas Theatr Gerdd Cil-y-coed? · Faint sydd yn y gronfa ad-dalu a faint o le sydd ynddi? · I egluro, a oedd y gyfradd defnydd ym mis Tachwedd yn 85.6%? · 2.2, i egluro cwmpas daearyddol y polisi, a fyddai hyn yn rho’r hyblygrwydd i edrych ar awdurdodau o fewn y Porth Gorllewinol? · A yw parciau manwerthu yn enghraifft o ardaloedd y gallem ystyried dadfuddsoddi ynddynt, yn rhannol er mwyn cael cyd-berchnogaeth gyda gr?p er mwyn rhyddhau cyfalaf y gellid ei roi i gymorth mwy penodol i’r gymuned neu fusnes?
Crynodeb y Cadeirydd: Diolch i’r swyddogion am eu gwaith parhaus rhagorol. Mae’n dda gweld yn 5.2 y gwelliant ym mherfformiad y portffolio buddsoddi ac y rhagwelir y bydd y ddau fuddsoddiad manwerthu mawr yn cynhyrchu gwarged net ar ôl costau benthyca yn 24/25. Cymeradwywyd yr argymhellion a derbyniwyd yr adroddiad.
|
|
Cyfarfod Nesaf: 30ain Ionawr 2024 |