Agenda and minutes

Pwyllgor Perfformiad a Throsolwg - Dydd Mawrth, 14eg Mai, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Cofnodion:

Dim aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Darpariaeth Dysgu Ychwanegol/Canolfannau Adnoddau Arbenigol – Craffu ar Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol/Canolfannau Adnoddau Arbenigol Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Martyn Groucutt a Dr Morwenna Wagstaff yr adroddiad ar ganlyniad adolygiad o’r Canolfannau Adnoddau Arbenigol (SRB) a rhoddasant ddiweddariad ar gynnydd argymhellion yr adolygiad cyn ateb cwestiynau’r Aelodau gyda Jacquelyn Elias a Hayley Page.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan yr Aelodau: 

 

  • Mae'r adroddiad yn cyfeirio at rai anghysondebau ar draws yr SRBs a amlygwyd drwy'r adolygiad, felly sut yr eir i'r afael â hyn i sicrhau bod dysgu'n cael ei gymhwyso ym mhob SRB, gan osgoi loteri cod post.  
  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y gwerthusiad a welwch o’ch blaen heddiw a gynhaliwyd gan y tîm a’r adolygiad a gynhaliwyd gan Estyn? 
  • Mae pryder ynghylch y niferoedd cynyddol o bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sydd angen darpariaeth ADY cymhleth. Byddai’n ddiddorol clywed eich barn ar pam mae niferoedd cynyddol a pha effaith y mae hynny’n ei gael ar ein hangen i ddarparu ar gyfer angen cynyddol. 
  • A allwch chi egluro sut mae'r cytundebau partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a'r ysgolion sy’n cynnal y ddarpariaeth yn gweithio a'r hyn y maent yn bwriadu ei gyflawni. 
  • A allwch chi ymhelaethu ar y problemau o ran capasiti yn Ysgol Gynradd Pembroke ac Ysgol Gyfun Trefynwy a'r effaith ar y disgyblion.  
  • Mewn perthynas â’r gwelliant sydd ei angen o ran y ddarpariaeth mewn ysgol benodol, gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod yr awdurdod lleol yn gweithio gyda’r SRBs lle disgwylir i welliannau gael eu gwneud. Dywedodd y Prif Swyddog fod cynnal hunanwerthusiad yn galluogi'r awdurdod lleol i ddeall unrhyw broblemau y gallai fod angen gweithio arnynt gydag ysgolion fel y gellir eu cefnogi. 
  • A allwch ymhelaethu ar y capasiti a’r galw a ragwelir ar gyfer y canolfannau adnoddau arbenigol ar draws y sir a’r goblygiadau ariannol i’r awdurdod lleol. 
  • Sut mae arweinwyr SRB yn cydweithio i gynhyrchu fersiwn graidd o ddogfennaeth? 
  • Roedd ymholiad ynghylch geiriad y trefniant arlwyo yn yr adroddiad. 
  • Beth yw effaith COVID-19 ar y ddarpariaeth SRB a’r cymorth i ddysgwyr a staff? 
  • Beth yw'r trefniadau pontio ar gyfer dysgwyr sy'n symud o SRB i ddarpariaeth prif ffrwd neu ôl-16? 
  • I ba raddau y mae rhieni a gofalwyr yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad a’r broses adborth? 
  • Eglurwch aliniad y ddarpariaeth SRB â'r diwygiadau i ADY a'r cod ymarfer newydd. 
  • Beth yw'r cynlluniau ar gyfer datblygu a gwella'r ddarpariaeth SRB yn y dyfodol? 
  • Beth a olygir gan yr amrywioldeb mewn cyllid ac atebolrwydd yn yr adroddiad.  

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad gan ganmol gwaith y tîm SRB a'r ysgolion. Diolchodd i'r swyddogion am eu cyflwyniad a'u hymatebion.  Daeth i’r casgliad y dylid symud yr adroddiad ar yr adolygiad o’r canolfannau adnoddau arbenigol gyda’r argymhellion, ac y byddai rhai cwestiynau a phwyntiau a godwyd gan aelodau’r pwyllgor yn cael sylw mewn adroddiad dilynol ymhen 12 mis. Gofynnir am ragor o wybodaeth am gapasiti a fforddiadwyedd y model SRB, cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth, ac mae’r Pwyllgor yn ceisio sicrwydd nad oes unrhyw ysgolion unigol yn methu yn eang ac yn gyson.   

 

CAM GWEITHREDU: 

 

Gofynnodd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cefnogi Dysgwyr Bregus – Craffu ar Gefnogaeth i Ddysgwyr Bregus (dulliau ystyriol o drawma, rhaglen Cynorthwyydd Llythrennedd Emosiynol, gwasanaeth addysgu arbenigol Cyngor Sir Fynwy). pdf icon PDF 252 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Martyn Groucutt a Dr Morwenna Wagstaff ddiweddariad i’r Pwyllgor ar effeithiolrwydd nifer o’n dulliau o gefnogi anghenion dysgwyr sy’n agored i niwed yn ein hysgolion a’n lleoliadau, cyn ateb cwestiynau’r Aelodau.  

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan yr Aelodau: 

 

Beth yw'r tir cyffredin a'r cysylltiad rhwng dysgwyr agored i niwed a darpariaeth dysgu ychwanegol ac a yw'r cyllid yn cael ei gysylltu hefyd?

 

Soniasoch am blant sydd wedi dioddef profiadau trawmatig yn ystod plentyndod a’r hyfforddiant a gynigir, a yw hyn yn cynnwys rhieni a gofalwyr a beth yw’r ddarpariaeth ymarferol sy’n galluogi plant i adeiladu gwytnwch?

 

O ystyried nad yw llythrennedd emosiynol yn rhywbeth hawdd i'w fesur, yr ydych wedi cyfeirio at hyn fel rhywbeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ond a ydym yn derbyn na allwch fesur effeithiolrwydd y cynlluniau hyn i raddau? Eglurwch pa feini prawf yr ydych yn eu defnyddio i fesur effeithiolrwydd.

 

Beth yw’r cysylltiadau rhwng gwahanol asiantaethau ar lefel strategol yn ogystal â lefel ymarfer er mwyn cefnogi plant a theuluoedd sydd wedi profi trawma? 

 

A oes perygl y byddwn yn colli cynorthwywyr addysgu hyfforddedig sy’n darparu cymorth o ran llythrennedd emosiynol i ddysgwyr sy’n agored i niwed, a sut y byddwn yn lliniaru’r risg honno.  Gydag 16 o ysgolion o bosibl yn symud i ddiffyg ariannol eleni yn ôl adroddiad monitro cyllideb mis 9, mae’n codi pryder ynghylch sut y bydd ysgolion yn lliniaru’r risg.

 

A allwch chi esbonio'r rhesymau dros y rhestr aros ar gyfer y gwasanaeth addysgu arbenigol? 

 

Un o'r risgiau a nodwyd yr ydych wedi sôn amdano yw'r ddibyniaeth ar arian grant. Sut y byddwch yn rheoli hynny ac a ydych wedi sicrhau cyllid ar gyfer y blynyddoedd sydd y ddod? A oes gennych ddigon o adnoddau o ran seicolegwyr addysg? 

 

Diddorol oedd gweld bod y ffigur o 500 o staff MCC wedi manteisio ar yr hyfforddiant staff cyfan ac mae hynny'n ymddangos yn nifer fawr. A yw ein holl staff addysgu wedi cael yr hyfforddiant hwnnw? 

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i Dr Wagstaff am fynychu a chyflwyno llawer iawn o wybodaeth yn y ddau adroddiad a gofynnodd iddi gyfleu diolchiadau'r Pwyllgor i'r tîm. 

 

CAM GWEITHREDU: 

 

Gofynnodd yr aelodau am ddiweddariad ar y rhestr aros ar gyfer y gwasanaeth addysgu arbenigol a sut mae'n cael ei reoli. 

 

5.

Diweddaru Cofrestr Risg – Diweddaru aelodau ar Gofrestr Risg y Cyngor a chytuno ar gyfer unrhyw feysydd craffu yn y dyfodol. pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Jones a Hannah Carter y gofrestr risg i'r Pwyllgor. Cafodd yr eitem hon ei chynnwys er mwyn galluogi'r Aelodau i nodi risgiau allweddol yr hoffent graffu ymhellach arnynt, a gwahodd yr Aelod Cabinet perthnasol i gyfarfod yn y dyfodol. Bu iddynt ymateb i bwyntiau allweddol a wnaed gan yr Aelodau.  

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan yr Aelodau: 

 

  • Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod rhai risgiau yn parhau i fod yn uchel yn y gofrestr, er gwaethaf y camau lliniaru a gymerwyd. Er enghraifft, mae risg 11 sy’n cyfeirio at ddatgarboneiddio fel pryder, oherwydd er gwaethaf y camau a gymerwyd, nid yw’n newid lefel y risg.  
  • Mae risg 7 yn cyfeirio at ansefydlogrwydd yn y farchnad o ran plant sy’n wynebu risg ac mae risg 8 yn cyfeirio at oedi wrth ddarparu gwasanaethau i oedolion h?n. Mae’r ddwy risg yn peri pryder mawr. Nid oes unrhyw gyfeiriad at yr hyn sy'n digwydd a sut mae hyn yn cael ei fonitro. 
  • Codwyd fod y modd y mae'r Cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â'r risg y bydd rhai gwasanaethau'n dod yn anghynaliadwy'n ariannol fel maes yn peri pryder mawr. 
  • Holodd y Pwyllgor ynghylch y prif ffactorau sy’n cyfrannu at y risg uchel o niwed sylweddol i blentyn neu oedolyn oherwydd methiant penodol yn y trefniadau diogelu.  
  • Mae'r camau y mae'r cyngor yn eu cymryd i leihau cyfraddau absenoldeb uchel plant sy’n  agored i niwed yn faes o ddiddordeb. 
  • Tynnwyd sylw hefyd at sut mae'r cyngor yn monitro cynnydd y cynllun datgarboneiddio ac effaith newid hinsawdd ar ei wasanaethau a'i asedau.  
  • Nodwyd yr heriau a’r cyfleoedd y mae’r cyngor yn eu hwynebu mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd i Gymru a’r bartneriaeth dysgu a sgiliau rhanbarthol fel maes risg allweddol y dylid canolbwyntio arno.  

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Mae’r Pwyllgor yn pryderu bod tua hanner cant y cant o’r risgiau yn y gofrestr yn parhau’n uchel ar ôl camau lliniaru ac nid yw’n glir pa gamau pellach a fydd yn cael eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â’r risgiau hyn. Bydd y Pwyllgor yn anfon y sylwadau at y Cabinet ac yn cysylltu'n anffurfiol i lunio rhestr fer o risgiau penodol i'w cynnwys yn y flaen raglen waith craffu.  

 

CAM GWEITHREDU: Diweddaru’r flaenraglen waith gyda risgiau penodol y bydd y pwyllgor yn craffu’n fanwl arnynt.  

 

 

6.

Blaenraglen Gwaith a Rhestr Weithredu y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg pdf icon PDF 468 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynnwys meysydd risg yn y flaenraglen waith a thrafod gyda Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Pobl er mwyn trefnu cyfarfod craffu ar y cyd ar 22ain  Gorffennaf 2024 i graffu ar Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru.  

 

7.

Cynllunydd Gwaith y Cabinet a’r Cyngor pdf icon PDF 455 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllunydd. 

 

8.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2024. pdf icon PDF 558 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.  

 

9.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 18 Mehefin 2024

Cofnodion:

18fed Mehefin 2024.