Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
|
|
Gwersi Cobvid a pharatoi ar gyfer pandemig PDF 330 KB Trafod gwersi yn dilyn effaith y pandemig a sut ydym yn paratoi ar gyfer pandemig posibl yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi Cynllun Rheoli Brigiad Cymru wedi ei ddiwygio.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths a Dave Jones yr adroddiad ac ateb cwestiynau’r aelodau gyda Jane Rodgers, Louise Driscoll ac Alun Thomas.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan yr Aelodau:
· Nodwyd er budd trigolion mai LRF yw'r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, mae'n bwysig bod trigolion yn deall bod y fforwm hwn yn parhau mewn bodolaeth er mwyn sicrhau bod y sir yn cael ei chadw'n ddiogel, o ran unrhyw ddatblygiad penodol a allai achosi risg, nid yw’n ymwneud â’r pandemig yn unig. · Mae’r adroddiad hwn, yn ddealladwy, o safbwynt Iechyd yr Amgylchedd, ond gofynnodd y pwyllgor hefyd am adolygiad o’r hyn a ddigwyddodd i weddill y staff: pan aeth staff i ffwrdd i weithio gyda Profi ac Olrhain, sut y bu i bawb ymdopi; sut y gwnaeth pobl ymdopi â gweithio gartref hy effaith y pandemig ar y cyngor a beth a wnaed mewn mwy o fanylder? A fydd adroddiad arall yn ymdrin â hyn, a beth fyddai’n cael ei wneud yn wahanol? – CAM GWEITHREDU: trafod a ellir llunio adroddiad pellach sy'n ymgorffori'r hyn a ddysgwyd o bob cyfarwyddiaeth gyda'i gilydd · Anfonodd y Cynghorydd Bond adnodd yn flaenorol ar gyfer Adolygiad Cyn Gweithredu ac adolygiad Ar Ôl Gweithredu - a fydd hyn yn dilyn? – CAM GWEITHREDU: Cynghorydd Bond i ail-anfon · Mae'r Asesiad Integredig o Effaith yn bwysig iawn, gan fod angen ysgrifennu yr hyn a wnaethpwyd i lawr, sut yr ystyriwyd lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n fwy agored i niwed, ac ati – os nad yw wedi'i ysgrifennu, yna gellid ei anghofio. · Beth oedd rhan aelodau etholedig a’r Cabinet, ac a oes unrhyw beth wedi’i ddysgu o hynny o ran yr hyn y gellid ei wneud yn well? · Sut cafodd newidiadau eu rheoli a’r gallu i sicrhau bod aelodau’r Cabinet, yr Arweinydd a’r holl aelodau’n cael eu hysbysu’n briodol? Sut byddai hynny’n gweithio o ran cynllun adfer ôl-Covid? · Mae’n ymddangos bod materion nad ydynt yn ymwneud â’r pandemig yreffeithiwyd arnynt gan y pandemig, mewn ambell i sefyllfa, wedi dechrau rhoi straen ar rai o’r perthnasoedd a rhai o’r penderfyniadau a wnaed – a’i dyma oedd y sefyllfa? · Rhoddodd y Cynghorydd Murphy safbwynt y Cabinet o’r cyfnod: Roedd Peter Davies ac yntau yn cael sesiynau briffio wythnosol a chyswllt ar ryw ffurf 7 diwrnod yr wythnos. Cyfnewidiwyd cryn dipyn o wybodaeth, ac er bod swyddogion yn naturiol yn cymryd yr awenau o ran y gweithrediadau penodol, teimlai'r Cynghorydd Murphy ei fod bob amser yn gwybod beth oedd yn digwydd, ac yn teimlo bod swyddogion yn gofyn ei farn ar ar bethau. Gwnaeth y ffordd yr oedd yr asiantaethau amrywiol yn cysylltu â'i gilydd argraff fawr arno. · Sylwodd y Cynghorydd Murphy, mai ble methodd y system oedd, fod y cyhoedd i gyd yn dilyn y rheolau yn y lle cyntaf, yna bu iddynt ddechrau teimlo’n rhwystredig a daeth amharodrwydd i ddilyn y rheolau i’r amlwg. Effeithiwyd ar adrannau, gan fod Archwilio Mewnol a Monlife wedi diflannu, a rhan bwysig o'r strategaeth oedd rhoi cyn lleied o bobl â phosibl ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Blaenraglen Gwaith a Rhestr Camau Gweithredu y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg PDF 376 KB Cofnodion: Angen cynnwys darn ar gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ymgorffori adolygiadau gan dimau, i ddod yn ôl i'r pwyllgor, fel y trafodwyd heddiw. - GWEITHREDU
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024 PDF 594 KB Cofnodion: Cadarnhawyd y cofnodion.
|
|
Cyfarfod Nesaf: 14 Mai 2024 |