Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd fforwm agored.
|
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio PDF 705 KB Craffu ar yr adroddiad perfformiad blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths a Craig O’Connor yr adroddiad, rhoddodd Philip Thomas gyflwyniad ac atebwyd nifer o gwestiynau gydag Amy Longford ac Andrew Jones.
Cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor: · Sut y cafodd yr ôl-groniad mewn gorfodaeth ei oresgyn? · At beth mae’r canran o dai fforddiadwy ar dudalen 6 yn cyfeirio? A ydym yn disgwyl mwy yn 23/24? · Ar gyfer beth y defnyddiwyd y ffioedd ymgynghori o £110k? · A yw’r cyngor yn defnyddio ‘egwyddorion darbodus’ i edrych ar brosesau a phenderfynu ar wastraff? · Caiff y Pwyllgor Cynllunio ei nodi fel ymgynghorai – a aeth yr adroddiad at y pwyllgor hwnnw? · A oes camgymeriad ar dudalen 28, gyda nifer y ceisiadau a gafwyd eleni yn llai na’r nifer a benderfynwyd? · A yw’r tabl ar dudalen 31 yn dangos cynnydd o £2.1m yn adlewyrchu gwerth y Cynllun Datblygu Lleol Newydd? · A yw’r gwasanaeth ar y cyd gyda threftadaeth yn rhoi gwerth am arian? A ydym yn derbyn cyllid digonol gan Flaenau Gwent i dalu’r costau? A yw’n lleihau’r gwaith gwerthfawr yn Sir Fynwy? · A allai aelodau gael rhestr o’r holl brosiectau A106 a fanteisiodd o gyllid yn y flwyddyn ddiwethaf? – Rhannu’r rhestr a gwybodaeth - GWEITHREDU · Sut y caiff y strategaeth Adeiladu mewn Risg ei hyrwyddo, a phryd fydd yn barod? · Sut mae’r swyddogion yn sicrhau eu bod yn cael y cydbwysedd yn iawn rhwng gweithredu’r gyfraith ond caniatáu datblygu adeiladau treftadaeth? · Pa mor gywir yw casglu data Cynllunio a beth yw ein sicrwydd ansawdd? · Sut ydyn ni’n sicrhau’r cynllun gorau posibl ar gyfer sicrhau deilliannau ac a allwn gael rhai manylion a chyd-destun? A ydym wedi cysylltu â sefydliadau academaidd i’w datblygu? · A gafodd y swyddogaeth Cynllunio ei hadolygu’n sylfaenol a pha warant y gellir ei roi pe byddai arolwg gan Archwilio Cymru neu debyg na fyddid yn ein canfod yn ddiffygiol iawn? · A yw Llywodraeth Cymru yn debyg o gyflwyno data cymharu ym mlynyddoedd y dyfodol? · A ydym yn sicr y bydd tynnu ffosffadau yn Nhrefynwy a Llan-ffwyst yn ddigonol ar gyfer galw yn y dyfodol? · A yw’r gyfran o geisiadau cynllunio a gymeradwywyd yn fesur dilys o berfformiad? Pa mor hyderus ydyn ni bod y cynlluniau a gymeradwywyd yn cyd-fynd â pholisi cynllunio? · Mae gorfodaeth perfformiad yn isel, gydag adroddiadau anecdotaidd am ein methiant i drin toriadau parhaus – a allai hyn annog eraill i dorri rheoliadau? · A yw digideiddio microfiche yn effeithiol o ran cost, o ystyried yr oriau staff sydd eu hangen i ddigideiddio o gymharu â pha mor aml y gofynnir amdano? · A ellir hyrwyddo’r £84m i’r economi lleol, yn arbennig gyda busnesau? · A yw’n bosibl cael hyperddolen yn uniongyrchol i’r cais? · A yw’r nifer cymharol fach o apeliadau oherwydd cysylltiad da gydag ymgeiswyr? · Collodd y cyngor 4 apêl – a oedd hynny yn erbyn datblygwyr mawr gyda thimau mawr? Beth am apeliadau gan breswylwyr lleol? · Pa gostau ydyn ni’n mynd iddynt mewn apeliadau? · Mae angen i ni sicrhau ein bod yn ailadeiladu’r hyder a gollwyd gyda rhai phreswylwyr oherwydd y perfformiad gwael o 290 ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Prif Swyddog Addysg: Diweddariad Ar Lafar Diweddariad ar lafar gan y Prif Swyddog ar amrywiol faterion addysg. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Martyn Grocutt a Will Mclean y diweddariad ac ateg cwestiynau aelodau.
Cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor: · Ai’r ateb i’r gostyngiad mawr mewn dysgwyr TGAU a Safon Uwch yw i ni helpu i hyrwyddo ieithoedd ar gyfer cyfleoedd swyddi a gyrfa? · Tybir fod yr Aelod Cabinet yn golygu y cafodd myfyrwyr Cil-y-coed a Magwyr eu hannog i astudio ieithoedd, yn hytrach na’u ‘rhoi dan bwysau’? (Cytunodd yr Aelod Cabinet) · Yn ogystal â newid mewn nodau ers y pandemig, a fu effaith o benderfyniadau strategaeth ehangach e.e. Brexit, y newid mewn prentisiaethau, dirywiad mewn a than-fuddsoddiad mewn diwydiant ac yn y blaen? · A yw’r argyfwng costau byw yn ffactor gyda phobl yn methu mynd ar wyliau a chael y profiadau sy’n deffro diddordeb mewn ieithoedd? (Nododd y Cadeirydd fod mwy o wyliau yn cael eu gwerthu nawr nag oedd cyn y pandemig). · Nodir fod tueddiad hirdymor mewn dirywiad ieithoedd fel pwnc, felly un mesur newydd o lwyddiant y cwricwlwm newydd fyddai os yw’n gwrthdroi’r tueddiad hwnnw – ond ni fyddwn yn gwybod hynny am ychydig flynyddoedd. · Gan fod y ffigurau sy’n dangos gostyngiad yn nifer y dysgwyr yn fras debyg ar gyfer TGAU a Safon Uwch, ai’r allwedd yw cynyddu rhifau TGAU? · A gafodd cyflwyno’r Gymraeg effaith ar y nifer sy’n astudio ieithoedd eraill? · Yn y gorffennol os mai dim ond ychydig o ddisgyblion oedd eisiau dysgu iaith, byddent yn ymuno gydag ysgol arall, gan nad yw’n realistig cael athro ar gyfer ychydig o ddisgyblion yn unig – felly ai cyllid yw’r broblem? · A oedd cyfnod pan oedd dysgwyr iaith ar ei anterth? e.e. roedd llawer iawn o efeillio yn yr 80au a llawer o gyfnewid bryd hynny – a oes gwersi i’w dysgu yno? · A oedd mwy o gyfnewid myfyrwyr a ffrindiau gohebu mewn degawdau blaenorol? · A oes gweithgareddau ar y gweill ar gyfer y Llysgenhadon Ifanc i fynd â nhw yn ôl i’w hysgolion, yn arbennig yng nghyswllt diwylliant, i wneud y disgyblion i fod eisiau dysgu ieithoedd? · A oes unrhyw arwyddion cynnar am newidiadau yn y cwricwlwm newydd o dair gwyddor gwahanol i un, a oes unrhyw wersi cynnar? · A oes llawer yn yr ysgolion nad ydynt yn credu mai’r ymagwedd at wyddoniaeth yn awr yw’r ffordd orau ymlaen ac a oes gwaith i gael ei wneud i sicrhau nad oes datgysylltiad rhwng beth mae ysgolion yn ei wneud a’r hyn mae prifysgolion yn ei ddisgwyl? Crynodeb y Cadeirydd: Diolch i’r Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog. Bydd Will McLean yn dod ag adroddiad presenoldeb i’r pwyllgor - GWEITHREDU
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd gwersi Covid a pharatoadau ar gyfer y pandemig ar gyfer 26 Mawrth. Atgoffir aelodau o’r cyd-bwyllgor craffu gyda Pobl ar 14 Tachwedd. Aiff adroddiad diweddaru perfformiad y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol i’r Cabinet ar 13 Rhagfyr, felly gallai fod angen i’r pwyllgor ychwanegu cyfarfod arbennig ym mis Ionawr i’w graffu. Mae rhestr o bynciau o’r cynllun Cymunedol a Chorfforaethol ac ar waelod y rhaglen waith i gael ei ystyried; caiff rhestr o bynciau sy’n dod ymlaen ar gyfer penderfyniad yn y dyfodol ar gyfer y cyfarfod nesaf..
|
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol: 20fed Medi 2023 PDF 608 KB Cofnodion: Cytunwyd y cofnodion gyda’r diwygiad canlynol: bod enw’r Cynghorodd Buckler ar goll o’r rhestr presenoldeb ar gyfer y cyfarfod, felly mae angen ei ychwanegu – GWEITHREDU.
|
|
Cyfarfod nesaf: 22ain Tachwedd 2023 |