Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.
|
|
Strategaeth Gaffael sy'n Gymdeithasol Gyfrifol: PDF 1 MB I gynnal gwaith craffu cyn penderfynu ar y Strategaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Scott James a Steve Robinson yr adroddiad gan ateb cwestiynau'r aelodau ar y cyd â’r Aelod Cabinet Rachel Garrick. Her: Ar dudalen 1, mae Cas-gwent ar goll o'r rhestr o'r 6 prif anheddiad? Ymddiheuriadau, gwall teipio yw hyn: Dylid cynnwys Cas-gwent. O ran y 10 categori gwariant uchaf, oni fyddai dangos canrannau hefyd o fudd? Mae'r siart yma’n cael ei ddal ar hyn o bryd, felly byddwn yn ystyried y sylwadau yngl?n â’r canrannau. A oes modd i ni gael mwy o fanylion yngl?n â’r mesurau a’r targedau? Bydd gofyn cymryd nifer o gamau bach o ran cynnydd er mwyn cyflawni e.e. carbon, sy'n her sylweddol ym mhob awdurdod. Rydym yn edrych ar y camau ymarferol y gallwn eu cymryd i gefnogi'r gwaith o gyflawni. Mae'r cynllun cyflenwi yn aeddfedu nawr o ran ei brif gynnwys ond y peth allweddol y dylid cytuno arno yw'r gefnogaeth ychwanegol y gallwn ei derbyn o bob rhan o'r awdurdodau - mae rhywfaint o adnodd ar gael o hyd. Mae'r gweithgareddau allweddol y dylid eu cyflawni wedi’u diffinio i raddau helaeth, ond mae angen rhoi sylw i’r elfennau yma o hyd. Mae gwaith teg yn faes ffocws allweddol ar gyfer y bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus newydd. Mae gwaith yn mynd rhagddo; mae rhai o'n swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu'r cymalau cymdeithasol y bydd gofyn eu cynnwys mewn cytundebau. Y prif bwynt sy'n dod i’r amlwg yw pwysigrwydd gwaith dilynol o ran rheoli contract er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r cymalau dan sylw. Oes gwahaniaeth rhwng y ddeddfwriaeth arfaethedig yn y DU ac yng Nghymru? Oni fydd deddfwriaeth y DU yn cael effaith ar Gymru? Bydd deddfwriaeth llywodraeth y DU yn berthnasol i Gymru. Mewn ymgynghoriad â sector cyhoeddus Cymru, penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithio gyda Llywodraeth y DU yn hytrach na datblygu ei rheoliadau ei hun. Mae'r gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth sy’n cyd fynd â’r mesur Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wneud ochr yn ochr â’r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. A yw'r strategaeth hon yn cynnwys neu'n cwmpasu ysgolion a phrynu ysgolion? Nid yw prynu ysgolion yn cael ei eithrio o'r strategaeth. Ydy'r cynllun cyflenwi yn wahanol ar gyfer pob awdurdod lleol neu a fydd papur cyffredin yn cael ei ailfrandio ar gyfer pob un? Mae 3 strategaeth wedi cael eu datblygu ar y cyd. Mae drafft cychwynnol y strategaeth a'r cynllun cyflenwi wedi cael ei lywio gan Gaerdydd, ac fel arall - dyma’r fantais o gydweithio. Yn aml, rydym yn ceisio cyflawni'r un pethau ond rydym ar wahanol lefelau o ran aeddfedrwydd, h.y. os yw Caerdydd gam ar y blaen mewn maes penodol, gallwn ddefnyddio’r hyn y maent wedi ei ddysgu yn Sir Fynwy a Thorfaen ac elwa. Pa fecanweithiau sydd ar waith ar gyfer monitro a gorfodi cydymffurfiaeth contract? Mae'n ymddangos bod y 7 amcan mewn seilos ar wahân – sut maen nhw'n cael eu hintegreiddio, er mwyn eu rhoi ar waith? Un darn ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar Gynllunio: PDF 442 KB I graffu ar yr adroddiad perfformiad blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Phil Thomas y cyflwyniad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda Craig O'Connor a Mark Hand. Her: Yn hytrach na chyfeirio at y 5 cam gweithredu dro ar ôl tro, gellid cyfuno a chrynhoi er mwyn ei wneud yn haws i’w ddarllen ee ar un dudalen. Efallai y gellid gwneud targedau'n fwy realistig a chyraeddadwy o ran yr adnoddau sydd ar gael. Efallai y bydd ffyrdd mwy creadigol o gyflawni'r camau yma o ystyried yr adnoddau e.e. yng Ngham 1, yn hytrach na bod yn bryderus am yr adnodd sydd ei angen i gyflwyno’r data ar y gwaith ar y gorchymyn cadwedigaeth, gallai'r camau ymwneud â diweddaru nawr a llenwi'n ôl-weithredol pan fo hynny'n bosibl. Nodwn y pwyntiau yma ac rydym yn cytuno, yn benodol i wneud yr adroddiad yn fwy cryno yn y dyfodol. O ran 4.9.4, Heol Wonastow, fel enghraifft o ddatblygiadau mawr: does dim palmant o'r datblygiad hwnnw i ganol y dref a dyw llwybrau teithio llesol dal ddim yn eu lle - felly a yw'r datblygiad hwnnw wedi'i 'gwblhau'? Ydy, mae datblygiad yn cael ei ystyried ‘wedi’i gwblhau’ unwaith y bydd y gwaith o adeiladu tai wedi'i gorffen. Mae’r cytundeb cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r datblygiad yn cynnwys gwelliannau o ran darparu'r gwasanaeth hefyd, gwneir hyn ochr yn ochr. Mae cysylltiad i gerddwyr o Wonastow Road ac mae'r cyswllt Teithio Llesol wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Sut mae'r swyddogaeth ehangach wedyn yn cael ei gynnwys o fewn yr Adroddiad Perfformiad? Mae'r wybodaeth am Wonastow Road yn grynodeb sy’n ymwneud â’r gwaith y mae’r Cynllun Datblygu Lleol (LDP) yn ei wneud ar fonitro safleoedd h.y. faint o dai sydd wedi'u hadeiladu ar ddatblygiad penodol, yn hytrach na'r materion mwy cynnil yn ymwneud â darpariaeth seilwaith. Mae seilwaith cymdeithasol yn aml yn dod ar ôl i bobl yn ddechrau byw yno, gan y bydd angen i'r datblygwr werthu rhai o’r tai yn gyntaf er mwyn ariannu rhai elfennau cynllun. Nid yw'r elfen gynaliadwyedd yn rhan o 12 dangosydd safle Llywodraeth Cymru, at ddibenion adroddiad perfformiad. A yw'r pwynt gweithredu ar orfodi'n ddigon cadarn i fynd i'r afael â'i dan-berfformiad presennol? A oes mwy o fanylion o ran mynd i'r afael â pherfformiad gwael a’r syniad ymhlith trigolion fod tan-berfformiad? Mae dau 'goch' o ran gorfodaeth, sy’n nodi fod angen gwella. Rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Cafodd y pandemig, yn enwedig, effaith ar ein darpariaeth o wasanaethau y llynedd, yn enwedig gan fod nifer o gydweithwyr â phlant i ffwrdd am gyfnodau penodol, ac roedd hynny'n anodd. Rydym eisoes wedi gweld gwelliant o ran perfformiad gorfodi i 'deg', ac rydym bellach yn gweithredu gyda capasiti llawn, felly gobeithio y bydd hyn yn rhoi hyder ein bod yn gwella a bydd dangosiad llawer cryfach yn adroddiad y flwyddyn nesaf. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar Systems Thinking, ac yn tynnu sylw at y cwsmer fel yr ymgeisydd cynllunio - ond onid y gymuned ddylai ein prif gwsmer fod? Mae hwn yn bwynt da iawn. Pan fyddwn yn siarad am ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 6 Craffu ar safle cyllidebol y Cyngor (refeniw a chyfalaf).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick a Jonathan Davies yr adroddiad gan ateb cwestiynau'r aelodau gyda Tyrone Stokes a Will Mclean. Her: Wrth i ni ddod â'r flwyddyn ariannol hon i ben pa elfen o'r cronfeydd wrth gefn arfaethedig y gellir ei defnyddio? A yw'n £16.6m? Ai’r cronfeydd wrth gefn yw’r prif adnodd sy’n cael ei ddefnyddio i ddelio gyda’r gorwariant cost sy’n cael ei ragweld ar hyn o bryd? Yw hynny'n 'gadarn' mewn gwirionedd? Roedd ail-lenwi cronfeydd wrth gefn yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf yn digwydd yn bennaf oherwydd y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru: fe wnaethant nodi risgiau i'r gyllideb y byddai awdurdodau'n eu hwynebu wrth gamu i mewn i’r flwyddyn bresennol, yn arbennig mewn perthynas â cholledion incwm gofal cymdeithasol, ac effeithiau eraill y pandemig. Roedd gennym ddisgwyliad bob amser y byddai cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio i dalu am wariant eleni. Ni wnaethom gynnwys hyn wrth osod y gyllideb gan fod ansicrwydd yngl?n â sut y byddai’r risgiau dan sylw’n ymddangos o ran amseriad a chost. Er mwyn egluro'r adran ar y cronfeydd wrth gefn o fewn yr adroddiad, a'r lefel ar ddiwedd y flwyddyn hon: pe byddem yn defnyddio cronfeydd wrth gefn fel yr amlinellir yn y cynllun adfer cyllideb byddai'n gadael cronfeydd wrth gefn refeniw gyda £21.6m ynddynt. Yn y siart, rydym wedi ceisio dangos yr amcanestyniad a’r risg pe na byddai unrhyw gamau cywiro yn cael eu cymryd – mae'n rhesymol tybio y byddai angen cefnogaeth bellach arnom pe na byddem yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r sefyllfa honno. Bydd ychydig llai na £2.2m o arbedion yn deillio o leihau neu ailgynllunio gwasanaethau - ai swyddi gwag sydd heb eu llenwi yw’r rhain yn bennaf? Onid oes angen ailgynllunio mwy sylweddol felly? Er bod rhywfaint o waith yn parhau gyda swyddi gwag o fewn y gweithlu nid yw'n rhan sylweddol o'r cynllun adfer: byddai'r mwyafrif ble mae gwasanaethau wedi nodi ffyrdd amgen neu hyblyg o gynhyrchu incwm, boed hynny drwy grantiau neu gytundebau gyda phartneriaid ar y cyd. Rydym wedi dechrau cynnal sgyrsiau gyda gwasanaethau am ddarlun tymor canolig eu modelau gwasanaeth, o ystyried y diffyg yn y gyllideb wrth symud ymlaen, ond mae angen eu datblygu'n gyflym. Beth yw'r cynlluniau a ragwelir ar hyn o bryd o ran cynnydd yn nhreth y cyngor y flwyddyn nesaf? Nid yw’r cabinet wedi ystyried lefelau treth cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym yn mynd trwy'r broses gyllidebol ar hyn o bryd, gyda llawer o ansicrwydd am gyllid a phwysau costau ar gyfer y flwyddyn nesaf; yn benodol, bydd goblygiadau yn dilyn ddatganiad yr Hydref o ran cyllid y flwyddyn nesaf, ac fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr yn rhoi eglurder pellach. Felly, er y gallwn wneud rhagdybiaethau cynllunio am lefelau treth y cyngor, mae angen i'r pethau hynny ddod at ei gilydd er mwyn i ni allu meddwl beth allai'r gyfradd fod y flwyddyn nesaf. Rydym mewn sefyllfa lle mae ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg PDF 418 KB Cofnodion: Bydd cyfarfod arbennig yn cael ei drefnu i graffu ar gynigion y gyllideb. Bydd aelodau'n cael eu hanfon drwy e-bost gyda dyddiadau awgrymedig ar ôl y cyfarfod.
|
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol: PDF 389 KB · 7fed Gorffennaf 2022 11eg Hydref 2022 - Pwyllgor Craffu ar y Cyd (y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg a’r Pwyllgor Craffu Pobl) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion fel cofnod cywir.
|
|
Cyfarfod nesaf: 15 Rhagfyr 2022 Cofnodion: Ni fydd y Cynghorydd Bond ar gael.
|