Eitemau
| Rhif |
eitem |
1. |
Datganiadau o Fuddiant
Cofnodion:
|
2. |
Fforwm Agored i'r Cyhoedd
Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor
Dethol
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd
dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy
Os hoffech rannu eich
barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol,
gallwch gyflwyno eich sylwadau
drwy
ddefnyddio'r ffurflen hon
- Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain
(uchafswm o 4 munud); neu
- Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word,
uchafswm o 500 gair)
Bydd angen i chi
gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy
Sir Fynwy er mwyn
cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych
wedi cofrestru o'r blaen.
Y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y
cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd
detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng
nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a
dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.
Os
hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r
Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy
gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n
penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i
siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr,
gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.
Os
hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn
y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion:
|
3. |
Gwaharddiadau Ysgol PDF 194 KB
Craffu
ar y ffigurau diweddaraf a pherfformiad y Cyngor.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Martyn Groucott a Morwenna Wagstaff. Atebodd Dr Wagstaff
gwestiynau’r aelodau gyda Keeva McDermott:
- Gofynnodd y Cadeirydd am eglurdeb rhwng y
nifer o plant a waharddwyd yn 5.2 a 5.3 yr adroddiad. Eglurwyd fod
y tabl yn yr adroddiad at achosion o waharddiadau cyfnod penodol a
all amrywio o hanner diwrnod i gyfnod hirach. Mae’r rhif 520
yn cynrychioli’r dysgwyr unigryw a brofodd waharddiadau, tra
bod yr 1810 achos yn cynnwys gwahardd mwy nag unwaith ar gyfer rhai
dysgwyr. Felly, cafodd rhai plant eu gwahardd sawl tro, gan arwain
at y nifer uwch o achosion.
- Gofynnodd aelod am ba mor hir y medrir
priodoli problemau i’r pandemig ac os y bydd y problem yn
parhau am genhedlaeth. Pwysleisiodd Dr
Wagstaff y pryder a’r straen a achosodd y pandemig ac
esboniodd fod ei effaith ar blant yn amrywio yn dibynnu ar eu
hoedran a’r ffactorau diogelu yn eu bywydau. Fe wnaeth y
pandemig ymyrryd ar gamau datblygu allweddol, gan effeithio ar
sgiliau cymdeithasol, rheoleiddio emosiynol ac
ymddygiad. Er mai’r gobaith yw y
bydd ei effaith yn dirwyn i ben, gall rhai plant yn arbennig y rhai
mwyaf bregus brofi effeithiau hirdymor
- Gofynnwyd os y gallai’r nifer o blant
sy’n derbyn prydau ysgol am ddim sy’n absennol ar hyn o
bryd ar unrhyw ddiwrnod penodol (1 mewn 4) waethygu. Nododd Dr
Wagstaff fod llawer o blant a gafodd eu haddysgu gartref yn ystod y
pandemig yn awr yn ei chael yn heriol i ddychwelyd i amgylchedd
prysur a swnllyd ysgol a bod yn well gan rai plant, yn arbennig y
rhai gyda anghenion cymhleth neu rwystrau i ddysgu, arddull dysgu
ar-lein ac yn ei chael yn anodd cynefino ag ysgol draddodiadol. Bu
cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn addysg heblaw yn yr
ysgol oherwydd iechyd meddwl ac anghenion emosiynol, yn arbennig
bryder am ddychwelyd i’r ysgol. Y gobaith yw galluogi’r
plant hyn i symud ymlaen i opsiynau cadarnhaol ar
ôl ysgol a’u hatal rhag dod
yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na
hyfforddiant).
- Gofynnodd aelod os y byddai’n bosibl
cael dadansoddiad manwl o waharddiadau yn ôl ysgol, yn
cynnwys y straeon tu ôl iddynt, efallai mewn sesiwn gaeedig.
Er y caiff dadansoddiad manwl o waharddiadau yn ôl ysgol eu
craffu drwy wahanol wiriadau rhwystrau a gwrthbwysau, yn cynnwys
cyfarfodydd Pwyllgor Disgyblaeth Disgyblion ac apeliadau
annibynnol, esboniwyd y gallai rhannu gwybodaeth mor fanwl yn
gyhoeddus achosi perygl y gellid adnabod unigolion. Fodd bynnag,
efallai y gallai fod yn bosibl rhoi’r wybodaeth hon mewn
sesiwn gaeedig ar gyfer dibenion craffu. Awgrymodd y Cadeirydd fod
aelodau’n cysylltu’n uniongyrchol gyda’r
tîm am fater o gonsyrn neilltuol.
- Gofynnwyd am eglurder am y cysylltiad rhwng
penodiad y swyddog Data Plant a Phobl Ifanc a gwaharddiadau.
Eglurwyd fod penodi’r Swyddog Data wedi gwella casglu a
defnyddio data am waharddiadau, gan wneud y broses gofnodi yn fwy
cadarn ac yn symlach. Aeth llawer o waith i mewn i sut i reoli
ailintegreiddio yn ddiogel, gan ddefnyddio asesiadau risg ymddygiad
dysgwyr.
- Gofynnwyd am fwy ...
view the full Cofnodion text for item 3.
|
4. |
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio
I
graffu ar yr adroddiad perfformiad blynyddol cyn ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd cyflwyniad ei roi gan Phil Thomas,
gan gyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda
Craig O’Connor ac Andrew Jones:
- Gofynnodd aelodau am yr amserlen ar gyfer
digideiddio pob microfiche a chofnodion coed. Dywedwyd fod y broses
digideiddio yn bur gymhleth ac yn dibynnu llawer ar gyfyngiadau
cyllideb. Gall y broses gymryd rhai blynyddoedd i’w gorffen
ac nid oes amserlen benodol ar hyn o bryd. Gellid cyflymu’r
broses os gellid sicrhau cyllid drwy symud data’r Gofrestrfa
Tir, ond nid oes gwarant o hyn.
- Holodd aelod am
y ffigurau a’r canrannau’n gysylltiedig â’r
gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio, gan nodi ei botensial fel enillydd
refeniw a dywedwyd iddynt gau 264 cais yn gofyn am gyngor cyn
ymgeisio a derbyn 282 cais newydd yn ystod y cyfnod 2023-2024.
O’r rhai a gafodd gyngor cyn ymgeisio, arweiniodd 35 at
geisiadau cynllunio, gyda 34 yn cael eu cymeradwyo ac un yn cael ei
dynnu’n ôl, gan roi cyfradd llwyddiant o 100%. Roedd y
refeniw o’r gwasanaeth hwn tua £55,000.
- Mynegwyd pryder am y canran isel (4.5%) o
achosion gorfodaeth yn arwain at hysbysiadau a gyflwynwyd, allan o
286 achos. Esboniodd swyddogion mai dim ond am dorri difrifol ar
reolau cynllunio yn y budd cyhoeddus y cymerir gweithredu
gorfodaeth. Caiff llawer o achosion torri rheolau eu datrys drwy
negodi neu geisiadau cynllunio ôl weithredol ac nid yw rhai
achosion angen gweithredu gorfodaeth, oherwydd mân dorri
rheolau neu ddiffyg hwylustod. Yn aml mae negodi anffurfiol yn
datrys torri rhheolau heb yr angen am hysbysiadau ffurfiol, ac aiff
pob penderfyniad drwy broses panel dirprwyedig ar gyfer
craffu.
- Holodd aelod am y targed ar gyfer
penderfyniadau gan aelodau yn erbyn argymhellion swyddogion, gan
nodi fod y targed yn llai na 5% a gofyn sut olwg fyddai ar
“da” yn y cyd-destun hwn. Esboniodd swyddogion y caiff
y targed o lai na 5% ei osod gan Lywodraeth Cymru a bod rhychwant o
5-9% yn cael ei ystyried yn deg. Fe wnaethant bwysleisio y dylai
penderfyniadau swyddogion cynllunio ac aelodau’r pwyllgor fod
yn gydnaws yn gyffredinol, ond gan gydnabod fod y Pwyllgor
Cynllunio yn bodoli i wneud dyfarniadau cytbwys er budd y cyhoedd.
Nodwyd fod y ffigur presennol o 6% yn gysurus o fewn y rhychwant
teg ac yn adlewyrchu’r cydweithio rhwng swyddogion ac
aelodau’r pwyllgor.
- Awgrymodd aelod wella dealltwriaeth y
cyhoedd o sut mae cynllunio yn gweithio, efallai drwy ddatganiad ar
ddechrau pob cyfarfod cynllunio. Cydnabu swyddogion gymhlethdod y
broses cynllunio a’r angen am well cyfathrebu. Fe wnaethant
sôn fod rhagymadrodd yn yr agenda gyda’r egwyddorion a
pholisïau allweddol, ond cytunwyd mynd â’r awgrym
ymaith ac ystyried sut i wneud yr wybodaeth yn fwy cryno a
dealladwy i’r cyhoedd.
- Gofynnwyd cwestiwn am y £800,000 a
gesglir mewn ffioedd a pha mor aml y caiff hyn ei adolygu.
Hysbyswyd aelodau fod Llywodraeth Cymru yn adolygu strwythur
ffioedd a gwasanaethau cynllunio ar hyn o bryd, gyda’r
ymgynghoriad ar agor hyd at 17 Ionawr. Mae’r adolygiad yn
anelu i wneud gwasanaethau cynllunio yn fwy cydnerth ac y gellir
adfer y costau.
- Gwnaed ymholiad ...
view the full Cofnodion text for item 4.
|
5. |
Diweddariad cynnydd y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol PDF 1 MB
Rhoi
gwybod i'r aelodau am gynnydd y cynllun yn ystod y cyfnod o chwe
mis.
Cofnodion:
Cyflwynodd Mary-Ann Brocklesby, Arweinydd y
Cyngor, yr adroddiad ac ateb cwestiynau’r aelodau gyda
Richard Jones a Matthew Gatehouse:
- Gofynnodd y Cadeirydd os gellid gwneud mwy i
ddileu’r canfyddiad fod y Cyngor yn ‘marcio ei gerdyn
sgorio ei hun’, o gofio am y diffyg gwybodaeth meincnodi a
chymariaethau rhanbarthol neu genedlaethol yn yr adroddiad.
Gofynnodd ymhellach os y gallai awdurdodau cyfagos ffurfio
clystyrau gwaith. Roedd y Cynghorydd Brocklesby yn cydnabod yr
angen am feincnodi a chytunodd ei bod yn bwysig cynnwys
cymariaethau o’r fath lle mae data ar gael. Soniodd fod y
Cyngor yn ymroddedig i wella’r agwedd hon a soniodd am
asesiad cymheiriaid a gynhelir yn 2025, fydd yn rhoi gwerthusiad
allanol gwrthrychol. Nododd hefyd fod y Cyngor eisoes yn dysgu ar y
cyd gyda chynghorau cyfagos ac yn edrych ar ffyrdd i wella rheoli a
dadansoddi data.
- Gofynnwyd am esboniad oherwydd fod nifer y
busnesau a gafodd gymorth wedi gostwng gan 75%. Esboniwyd fod hyn
yn bennaf oherwydd y cyfnod adrodd; dim ond chwe mis yw’r
ffigur cyfredol o 42 busnes, tra bod ffigur y cyfnod blaenorol ar
gyfer cyfanswm blynyddol ar gyfer 12 mis llawn 23-24. Fodd bynnag,
hyd yn oed os caiff y ffigur chwe mis cyfredol ei ragamcanu ymlaen,
byddai’n dal i fod yn is na’r targed ond, beth bynnag,
disgwylir y bydd y nifer yn cynyddu erbyn diwedd y flwyddyn lawn,
gan wneud y gymhariaeth yn fwy ystyrlon. Mae’r diweddariad
cynnydd yn cydnabod y gwaith sy’n mynd rhagddo i gefnogi
busnesau a chynlluniau i barhau’r
ymdrechion hyn yn y chwe mis nesaf.
- Gofynnodd aelod pam na chaiff gwaith
Partneriaethau Sir Fynwy gyda’r tair fferm ar ffermio
adfywiol ei gynnwys yn yr adroddiad. Atebodd y swyddog, er fod y
gwaith ar ffermio adfywiol yn bwysig, bod ffocws yr adroddiad ar
feysydd sylweddol yn gysylltiedig â’r fframwaith mesur.
Sicrhaodd aelodau y caiff canlyniadau’r prosiect ffermio
adfywiol eu cynnwys yn adroddiadau’r dyfodol, yn arbennig yr
adroddiad hunanasesu ar ddiwedd y flwyddyn.
- Gofynnodd y Cadeirydd os oes unrhyw
ddealltwriaeth pam fod y gyfradd sy’n manteisio ar brydau
ysgol am ddim yn is mewn ardaloedd amddifadus. Cydnabu’r
swyddog y cwestiwn a dywedodd fod y tîm yn monitro ac olrhain
y gyfradd sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim. Awgrymodd
mai’r tîm perthnasol byddai yn y lle gorau i roi
dealltwriaeth lawnach o’r resymau am y gyfradd is sy’n
manteisio mewn ardaloedd o amddifaded –
GWEITHREDU
Crynodeb y Cadeirydd:
Tynnodd
y Cadeirydd sylw at yr angen am wybodaeth meincnodi, bydded yn
ranbarthol neu’n genedlaethol, er mwyn rhoi golwg fwy
wrthrychol o berfformiad y Cyngor, gan danlinellu pwysigrwydd
dileu’r canfyddiad fod y Cyngor yn marcio ei gerdyn sgorio ei
hun ac ategodd y syniad o ymchwilio adolygiadau cymheiriaid gydag
awdurdodau cyfagos. Roedd yn gwerthfawrogi cyfraniad yr Arweinydd y
mater hwn ac yn cydnabod y gwaith sy’n mynd rhagddo i
weithio’n agosach gyda chynghorau eraill a rhannu arfer
gorau. Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd y swyddogion, a
chynigiodd yr adroddiad.
|
6. |
Blaenraglen Waith 2024 y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg a'r Rhestr Weithredu PDF 490 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Nododd swyddogion y cafodd y pwynt cyntaf yn
y Rhestr Weithredu ei gyfarch, gyda swm o wariant ymgynghoriaeth
wedi ei egluro fel £1,277,584 ar gyfer 2023-24. Atgoffwyd
aelodau am wahoddiadau i sesiynau briffio ar Yswiriant
Corfforaethol ar 28 Tachwedd a Chynllunio Argyfwng ar 15
Ionawr.
|
7. |
Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet PDF 248 KB
|
8. |
I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol: PDF 293 KB
·
7fed Hydref 2024
(Arbennig)
·
8fed Hydref 2024
(Arbennig)
·
15fed Hydref,
2024
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
- 7 Hydref 2024 (Arbennig)
- 8 Hydref 2024 (Arbennig)
- 15 Hydref 2024
Cytunwyd ar y cofnodion.
|
9. |
Cyfarfod nesaf: 3ydd Rhagfyr 2024
Cofnodion:
|