Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd fuddiant heb fod yn rhagfarnu fel cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd
Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Dim.
|
|
Craffu ar Gynigion y Gyllideb PDF 127 KB Craffu ar fandadau’r gyllideb sydd o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan Ben Callard, Aelod Cabinet, a chyflwynodd yr adroddiad ac ateb cwestiynau gan aelodau gyda Peter Davies, Aelod Cabinet, Ian Chandler, Jane Rodgers, Tyrone Stokes, Frances O’Brien, Will Mclean, Ian Saunders, Jonathan Davies a Matthew Gatehouse.
· Beth yw cysyniadau defnyddio £2.8m o dderbyniadadau cyfalaf i dalu am gostau refeniw? · Sut y cafodd setliad is na’r cyfartalog gan Lywodraeth Cymru a natur ansicr grantiau ei ystyried yn y cynigion? · Mae gostyngiad cymorth ardrethi busnes yn bwysig iawn i ganol trefi: a fydd gennym lai o ymwelwyr a llai o incwm os oes llai o fusnesau? Sut caiff hynny ei drin yn y gyllideb? · A yw defnyddio £2.8m o dderbyniadau cyfalaf yn golygu y bydd diffyg yn y gyllideb cyfalaf, ac mae gennyn lai o wariant y byddai’r cyfalaf hwnnw fel arall yn cael ei ddefnyddio neu a fydd yn cynyddu ein benthyca? · Yng nghyswllt y diffyg o setliad cyfartalog Cymru, a yw gwahaniaeth o 0.8% yn gyfwerth â tua £600k? · Er mwyn eglurdeb, a oes unrhyw beth yn dod allan o ddyfarniad i Loegr a fyddai’n llifo’n naturiol i raniad ar draws pob awdurdod lleol ac na fyddai angen lobio? · A yw’r cynllun i ostwng costau benthyca gan £1.8m yn gydnaws gyda thynnu derbyniadau cyfalaf? · Mae’r arbedion a ofynnir gan y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol yn fater o gonsyrn – sut y disgwylir iddynt wneud mwy gyda llai? · A fydd costau’n gysylltiedig gyda gwneud newidiadau pontio? · Mae pryderon am y dybiaeth y caiff y cap ar ofal dibreswyl yn y gymuned ei godi. Beth yw’r effaith bosibl pe na gwireddir arbedion o £570k? · Beth fydd effaith grant y gweithlu gwasanaethau cymdeithasol ac ailaiinio swyddi gwag ar y gweithlu rheng flaen? · Gofal Cymdeithasol: sut mae cyfarfod gofynion statudol yn cydfynd gyda 853 awr o angen nas caiff ei ddiwallu? Pa effaith gaiff yr arbedion hyn ar yr oriau hyn o angen heb ei ddiwallu? · Er mwyn eglurder llwyr, nid oes unrhyw angen a aseswyd heb fod yn cael ei gyflawni ar gyfer unrhyw unigolyn, weithiau mae’n oedi 853 awr, ac felly a ydym yn cyflawni ein goblygiadau statudol? · Pa sicrwydd fedrir ei roi am arbedion pan fod y dangosiad diweddaraf yn dangos cynnydd yn y rhagolwg o orwariant o’r mis blaenorol? · Dan 5.8, mae casgliadau gwastraff yn parhau’r un fath ond o gofio y caiff bagiau du eu casglu bob bythefnos, a edrychwyd ar yr achos am gasgliadau bob bythefnos ar gyfer y bagiau eraill? · Yn sleid 3 yn y cyflwyniad, a yw’r gwahaniaeth rhwng y ffigurau ar gyfer y pwysau cost yn gamgymeriad talgrynnu? · Ynghylch y gostyngiad yng nghyllid Cerddoriaeth Gwent, a gafodd y goblygiadau eu hystyried oherwydd y gydberthynas gref rhwng dysgu cerddoriaeth a dysgu mewn pynciau eraill? · A fedrid helpu Cerddoriaeth Gwent mewn ffyrdd eraill, tebyg i ostwng hurio ystafelloedd mewn ysgolion? · Cau amgueddfeydd a gorsaf Tyndyrn am un diwrnod – a fydd hynny’n arwain at ddryswch i ymwelwyr? A gaiff hyn ei fonitro mewn rhyw ffordd? · Agor ar wyliau banc – beth am wyliau ysgol e.e. gwyliau’r ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Diweddariad Chwarter 2 ar y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol PDF 1 MB Craffu ar berfformiad y Cyngor yn erbyn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol
Cofnodion: Cyflwynodd Mary Ann Brocklesby, yr Arweinydd, yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Will Mclean a Matthew Gatehouse.
Cwestiynau Allweddol gan Aelodau:
· A oes mwy o ddisgyblion o deuluoedd amddifadus yn cael eu hannog i dderbyn prydau ysgol am ddim? A yw’r cyngor yn rhoi cymhorthdal i deuluoedd gydag incwm gwell? · Sut mae rhoi blaenoriaeth i anghenion y plant hynny nad ydynt yn yr ysgol? Pa gefnogaeth gaiff ei rhoi i blant sydd wedi gadael addysg ffurfiol oherwydd pryder ac afiechyd meddwl? A oes gennym gyfres gynhwysfawr o setiau data ar gyfer y disgyblion hynny cyn iddynt adael y lleoliad addysg ffurfiol? · Er eglurder, mae’r adroddiad yn dynodi sefyllfa ddiweddaraf disgyblion uwchradd yw 1 mewn 10 o ddisgyblion heb fod yn mynychu? Ar gyfer disgyblion prydau ysgol am ddim, mae’n 1 mewn 5? · Hoffai’r pwyllgor atgoffa disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid mai’r ysgol yw’r lle gorau i blant. · Heblaw cynlluniau bwyd ac oergelloedd cymunedol, beth arall sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ein cymunedau? A ydych yn disgwyl i gynigion y gyllideb i waethygu anghydraddoldeb? · A ydym yn cyfeirio preswylwyr at wasanaethau neu adnoddau i’e helpu yn ôl i waith? · Beth sy’n cael ei wneud i helpu pobl ddigartref i fyw’n annibynnol e.e. dychwelyd i addysg neu gyflogaeth? · A yw’n iawn fod plant rhwng 5-11 oed yn cael dognau o’r un maint i ginio, heb fod yn cael mwy os ydynt yn dal i fod eisiau bwyd, ond ar ddiwedd y cinio bod y sbarion yn cael eu taflu? · Mae pryderon am effaith cynlluniau creu lle ar fusnesau bach yn Nhrefynwy, yn arbennig yng nghyswllt llwybrau teithio llesol, costau parcio a nifer is o ymwelwyr. sut mae’r cyngor yn bwriadu mynd i’r afael â’r materion hyn? GWEITHREDU (ymateb ysgrifenedig am gynlluniau i fynd i’r afael â phryderon yn Nhrefynwy) · Mae ynysigrwydd mewn ardaloedd gwledig a’r straen a’r tlodi sy’n wynebu pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig yng nghyswllt costau uwch yn bryder mawr. A fedrwn weld rhywbeth yn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol i helpu cyrraedd y bobl hyn? · Sut mae Cyngor Sir Fynwy yn cymharu gydag awdurdodau eraill ar draws Cymru yn nhermau adrodd am ganlyniadau ac effeithiau’r gyllideb? · Mae rhai disgyblion yn dewis peidio cael ciniawau ysgol – a yw hynny’n golygu nad ydynt yn cael dim byd? A ydym yn gwybod beth maent yn ei gael, a sut y dylem sicrhau goruchwylwyr? · A gaiff strategaeth VAWDASV wedi ei chwblhau ei rhannu gydag aelodau, a sut? · Gyda chyfeiriad at gronfeydd teithio llesol ar gyfer newidiadau cyflym ac effeithlon, pa mor rhwydd hi yw cael cwblhau prosiectau bach tebyg i drwsio palmentydd a gostwng cyrbiau? · I ba raddau ydyn ni’n medru dylanwadu ar Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar faterion partneriaeth? · A oes unrhyw waith yn cael ei wneud gydag ysgolion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, e.e. gosod paneli solar, gan eu darparu ar gyfer y dyfodol yng nghyswllt costau ynni? · Yng nghyswllt y caffes Benthyg, a oes risg y bydd gwirfoddolwyr yn blino? ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Blaen Raglen Waith Craffu a Rhestr Gweithrediadau Perfformiad a Throsolwg PDF 427 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Strong am edrych am ddyddiad ar gyfer craffu ar recriwtio a chadw gweithwyr Gofal Cymdeithasol – GWEITHREDU
Anfonir e-bost at aelodau gyda dyddiadau a gynigir ym mis Mawrth a mis Mehefin.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar: PDF 662 KB · 22ain o Dachwedd 2023 · 15fed o Ionawr 2024 (Arbennig)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · 22 Tachwedd 2023 · 15 Ionawr 2024 (Arbennig)
Cafodd y cofnodion eu cadarnhau, cynigiwyd gan y Cynghorydd Strong ac eiliwyd gan y Cynghorydd Howells.
|
|
Cyfarfod nesaf: 20fed o Chwefror 2024 |