Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Gwener, 1af Rhagfyr, 2023 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Cafwyd dau sylw ysgrifenedig ymlaen llaw cyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu Pobl a chafodd y rhain eu dosbarthu i aelodau’r pwyllgor, yr Aelod Cabinet a Swyddogion. Cafwyd cyflwyniad fideo hefyd gan yr Athro David Abbot, a chafodd ei chwarae yn y cyfarfod.

 

3.

Galw i mewn penderfyniad y Cabinet ar 15fed Tachwedd 2023 mewn perthynas â datblygu dyfodol y Canolfannau Fy Niwrnod Fy Mywyd (My Day My Life). pdf icon PDF 12 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Rheolwr Craffu y broses Galw i Mewn, fel y’i hamlinellir yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Siaradodd y Cynghorydd Kear fel yr Arweinydd Galw i Mewn, gan roi manylion y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, fel y’i nodir yn y cais Galw i Mewn. Fe wnaeth y Cynghorydd Howarth hefyd amlinellu ei resymau dros y galw i mewn.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Galw i Mewn:

 

·         Pryderon am ba mor gyson a thrwyadl yw’r broses ymgynghori.

·         Pryder am y sylfaen tystiolaeth am y penderfyniad a theimlad fod y broses yn wallus.

·         Pryderon am addasrwydd y safle a gynigir ar gyfer y gwasanaeth yn y Fenni a phryderon am y cynlluniau cyllido ar gyfer sicrhau fod yr adeilad yn hygyrch.

·         Pryder am gadernid y strategaeth yn gyffredinol.

·         Pryder fod y penderfyniad yn cael ei ruthro ac na chafodd aelodau craffu y cyfle i archwilio gwybodaeth gefndir ehangach y teimlant sy’n berthnasol i’w  craffu o’r penderfyniad.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet Ian Chandler i bwyntiau’r galw i mewn a chwestiynau aelodau gyda Jenny Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Trafododd yr Aelod Cabinet y seiliau penodol am alw y penderfyniad i mewn, gan amlinellu’r craffu cyn y penderfyniad a wnaeth y pwyllgor ar 18 Gorffennaf cyn i’r Cabinet ystyried y mater ar 11 Hydref 2023, cyn y penderfyniad a gymerwyd ar 15 Tachwedd 2023. Sylweddolai ymrwymiad aelodau etholedig wrth graffu’r penderfyniad, ond dywedodd y bu’r broses graffu yn gadarn. Rhoddodd esboniad hefyd am y broses ymgynghori a ddilynwyd ac ymgysylltu defnyddwyr gwasanaeth yn gadarnhaol yn y broses.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod defnyddwyr gwasanaeth yn dal i dderbyn y gwasanaeth, ond bod angen symud tuag at wasanaeth cynhwysol ac egnïol cyn gynted ag sydd modd.

 

Pwyntiau allweddol a wnaed gan Aelodau’r Pwyllgor:

 

·         Codwyd mater addasrwydd adeilad Theatr Melville a siaradodd rhai aelodau am bryderon am hygyrchedd

·         Mynegodd rhai aelodau eu dymuniad i dderbyn y penderfyniad a symud ymlaen yn gyflym i drawsnewid y gwasanaeth.

·         Mynegodd aelod bryder os yw cylch gorchwyl Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn gydnaws gydag adeilad tebyg i Theatr Melville.

·         Mae pryderon yn parhau ymysg rhai aelodau am y broses ymgynghori a’r penderfyniadau’n ymwneud â safleoedd Fy Niwrnod, Fy Mywyd, gan awgrymu nam yng ngwneud penderfyniadau y weinyddiaeth.

·         Roedd pryderon am y cyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaeth.

Canlyniad Ffurfiol Craffu (Crynodeb y Cadeirydd)

 

Yn dilyn trafodaeth sylweddol gyda’r rhan fwyaf ohoni ar gael ar y ffrwd fyw, symudodd y Pwyllgor ymlaen i bleidlais:

 

Cytunodd pedwar Aelod i dderbyn penderfyniad y Cabinet. Cytunodd pump Aelod i atgyfeirio’r penderfyniad i’r Cyngor llawn, am y rhesymau dilynol:

 

Mae gan aelodau amheuon am y penderfyniad a phryder pa mor gadarn oedd y broses ymgynghori a gynhaliwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth.

 

Cariwyd y penderfyniad i atgyfeirio’r mater i’r Cyngor.