Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mawrth, 23ain Gorffennaf, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud); neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 



Cofnodion:

Dim.

 

3.

Arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru pdf icon PDF 293 KB

Adolygu'r adroddiad arolygu diweddar.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Jane Rodgers a Ben Anderson yr adroddiad sydd yn werthusiad perfformiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru o’r gwasanaethau plant, sy’n amlygu’r cryfderau a’r meysydd gwella a ddynodwyd gan adroddiad yr arolwg. Dywedodd Ben Anderson, Arolygiaeth Gofal Cymru, fod yr arolwg yn gyffredinol gadarnhaol a bod tystiolaeth o ddatblygiad parhaus ar y gwasanaeth ers mis Chwefror. Dywedodd mai’r ffocws yn y dyfodol fyddai ar ymarfer ac ansawdd i sicrhau cydymffurfiaeth gyda dyletswyddau statudol ac i gasglu llais plant. Atebwyd cwestiynau yn fanwl gan Diane Corrister, ynghyd â Jane Rodgers a Ben Anderson.

 

Pwyntiau allweddol a wnaed gan Aelodau: 

 

  • Gofynnodd aelodau sut mae arweinwyr y  cael mwy o drosolwg o ansawdd asesiadau a chynlluniau a nodwyd y caiff hyfforddiant, sicrwydd ansawdd a chymorth gweithredu eu darparu ar gyfer staff.
  • Gofynnodd aelod am esboniad o’r model ymarfer newydd a’r Tîm Asesu Help Cynnar,
  • Gofynnwyd am eglurdeb am ba welliannau a wneir i ddod ag arfer i fod yn unol â gweithdrefnau diogelu yng Nghymru.  
  • Gofynnodd aelod arall am eglurdeb ar gydymffurfiaeth gyda gwaith papur ar gyfer cynadleddau amddiffyn plant a faint o eiriolaeth a gynigir i rieni cyn cynhadledd achos.
  • Holodd y pwyllgor am y prif gryfderau a meysydd gwella a ddynodwyd yn adroddiad yr arolwg, gan nodi fod yr adroddiad wedi cydnabod fod y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y cymorth cynnig teuluol ac ysbryd ac arweinyddiaeth o fewn y gwasanaeth yn gryfderau. Cydnabuwyd bod y meysydd i’w gwella yn cynnwys ymateb i a delio gydag effaith galw ar draws y gwasanaeth a gwneud yn si?r fod y gweithlu yn cyfateb gyda’r lefelau galw hynny.
  • Gofynnodd aelodau am esboniad am sut mae’r tîm yn trin mater gofal a chapasiti gweithlu yn y gwasanaeth, er mwyn cadw staff a gostwng dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth.
  • Ceisiodd aelodau sicrhau y caiff llais plant ei gasglu mewn ffordd gyson ac ystyrlon ac yn dibynnu ar oedran y plentyn ac y caiff hynny wedyn ei ddangos mewn asesiadau a chynlluniau gofal.  
  • Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.8 yr adroddiad sy’n awgrymu ymagwedd ofalus at reoli risg, gan gwestiynu os y gall fod gwrthddweud oherwydd bod ein nifer o blant sy’n derbyn gofal yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Eglurodd y swyddogion fod hyn i raddau oherwydd effaith galw ar y drws blaen, a bod angen i ymarfer seiliedig ar gryfderau fod yn fwy cyson ar draws pob maes o’r gwasanaeth.
  • Gofynnodd aelodau am eglurdeb ar ganlyniadau’r gwasanaeth llwyfan ar gyfer iechyd emosiynol pobl ifanc.
  • Holodd aelod arall am y cynnydd mewn atgyfeiriadau a hefyd atgyfeiriadau amhriodol a sut y gellid gostwng hyn, gan nodi y cynhelir dadansoddiad data ac archwilio arnynt ar hyn o bryd i ddeall y ffynonellau a’r rhesymau dros yr atgyfeiriadau. Gofynnodd aelodau am i adroddiad ar hyn ddod yn ôl atynt ar yr adeg priodol, gyda swyddogion yn cadarnhau y dylai hyn fod ar gael ar ôl mis Medi.

Gweithredu: Jane Rodgers a Diane Corrister.

4.

Polisi Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol

Cynnal gwaith craffu cyn penderfynu ar y cynigion sy'n destun ymgynghoriad. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Martyn Groucott, gan esbonio mai diben yr ymgynghoriad a’r adroddiad a gyflwynir i’r pwyllgor oedd ystyried p’un ai i fabwysiadu’r meini prawf ar gymhwyster pellter statudol ar gyfer darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol. Atebodd gwestiynau aelodau gyda Debra Hill-Howells. 

  

Pwyntiau allweddol a wnaed gan Aelodau: 

  

  • Gofynnodd aelodau am eglurdeb ar y ddau opsiwn ar gyfer newid y pellter statudol ar gyfer darparu cludiant am ddim a holi faint o arbedion y byddai’r naill a’r llall o’r opsiynau hyn yn ei roi. Dywedodd yr aelod nad oedd yr ymgynghoriad yn cynnig dewisiadau eraill heblaw newid y pellter statudol ar gyfer y cyhoedd i’w ystyried, er enghraifft, gynnydd yn y dreth gyngor.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Groucutt y byddai cynyddu’r dreth gyngor gan tua un pwynt canran yn cynhyrchu tua £700,000 y flwyddyn, ond y byddai angen ystyried hynny fel rhan o broses ehangach y gyllideb gan fod pwysau eraill ar y gyllideb y byddsi angen eu hystyried.
  • Soniodd aelod nad yw’r adeg o’r flwyddyn yn neilltuol o dda ar gyfer sicrhau ymatebion gan y cyhoedd i ymgynghoriadau, gan y byddai llawer o bobl ar wyliau. Cadarnhawyd fod yr etholiad cyffredinol wedi gohirio dyddiad dechrau’r ymgyhghoriad, fodd bynnag anfonwyd yr holl e-byst at ddefnyddwyr presennol cludiant, ysgolion, rhanddeiliaid a gweithredwyr i’w hysbysu am yr ymgynghoriad.  Cadarnhaodd swyddogion y cynhelir sesiynau mewn hybiau a bod dogfennau ar gael ar-lein yn esbonio diben yr ymgynghoriad yn ogystal ag arolwg sy’n gwahodd pobl i roi eu hadborth ar y cynigion.
  • Rhannodd aelod bryderon am gynyddu’r gwasanaeth mewnol a’r goblygiadau staffio. Cadarnhaodd y swyddog y caiff cost darpariaeth mewnol ei gymharu gyda thendrau allanol ac mai dim ond os mai dyna’r opsiwn ariannol gorau y bydd y gwasanaeth mewnol yn ymgymryd â’r gwasanaeth. 
  • Gofynnodd aelod sut y byddai’r cyngor yn monitro effaith amgylcheddol cynyddu cyllidebau cludiant personol a defnydd ceir ac ymatebodd swyddogion fod gan y cyngor gynllun ar waith i ostwng carbon a’i fod wedi gwneud datganiad ar argyfwng hinsawdd, ac y bydd yn asesu ôl-troed carbon y gwahanol opsiynau cyllid ac yn gweithio gydag ysgolion a rhieni i hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy gan ystyried yr effaith amgylcheddol fel rhan o’r broses benderfynu, i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol.
  • Gofynnodd aelod sut y byddai’r cyngor yn cefnogi rhieni mewn gwaith a all fod yn wynebu anawsterau oherwydd y newidiadau a pha fesurau lliniaru y byddid yn eu cynnig. Atebodd y Cyng Groucutt fod cymorth dewisol eisoes ar gael i helpu teuluoedd ac y byddid yn rhannu’r manylion hynny.
  • Gofynnodd aelodau sut y caiff y llwybrau cerdded sydd ar gael eu hasesu ar gyfer diogelwch ac addasrwydd a chlywsant fod proses asesu Diogelwch Ffyrdd PF a gynhelir fel arfer gan swyddogion Priffyrdd. Lle caiff asesiad ei herio, bydd swyddogion yn cerdded y llwybr gyda rhieni ac aelodau.
  • Holodd aelod pam nad oedd geiriad y polisi drafft wedi ei gynnwys yn y ddogfen ymgynghori a dywedwyd fod hynny oherwydd na fu newid ynddo, heblaw am y tri opsiwn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu'r Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 385 KB

Cofnodion:

Nodwyd.  

 

6.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 484 KB

Cofnodion:

Nodwyd.  

 

7.

Cyfarfod nesaf: 24ain Medi 2024 am 10.00am

Cofnodion:

Nodwyd.