Agenda and minutes

Pre Decision Scrutiny, Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mercher, 19eg Gorffennaf, 2023 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Nodyn: PLEASE NOTE AGENDA ITEM NUMBER 4 - RESPITE PROVISION FOR ADULTS WITH LEARNING DIFFICULTIES - AND AGENDA ITEM 6 - HOME TO SCHOOL TRANSPORT POLICY - ARE LKELY TO BE DEFERRED TO A FUTURE MEETING OF THE COMMITTEE AND NOT DEBATED TODAY. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y cyhoedd i gyfarfod y Pwyllgor Craffu Pobl a fyddai’n ystyried yr Asesiad o Anghenion Sipsiwn a Theithwyr. Esboniodd mai rôl y pwyllgor craffu oedd cynnig sylwadau i’r Cabinet a gwneud unrhyw argymhellion y gallai’r Cabinet eu derbyn neu eu gwrthod pan fyddant yn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, ond bod Aelodau yn awyddus i glywed gan y cyhoedd.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi derbyn nifer fawr o ymatebion ysgrifenedig gan aelodau o’r cyhoedd yn rhoi eu sylwadau, ynghyd â deiseb gyda llawer o lofnodion o Lanfihangel Troddi. Nododd Aelodau nerth y teimlad cyhoeddus ar y mater sydd ger eu bron. diolchodd i’r cyhoedd a rhoddodd sicrwydd y byddai’r holl sylwadau a gafwyd gan Aelodau yn cael eu cyflwyno i’r Aelod Cabinet a Swyddogion yn dilyn y cyfarfod, i gael eu cynnwys fel rhan o drafodaethau’r Cabinet yn y dyfodol.

 

Roedd nifer fawr o’r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod craffu, gyda’r cyhoedd yn amlygu pryderon allweddol yn ymwneud ag addasrwydd y safleoedd sy’n cael eu trafod. Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw (mae’r recordiad ar gael ar dudalen agenda’r Cyngor ar y wefan), yn rhoi manylion llawn y drafodaeth; fodd bynnag, codwyd y materion dilynol o gonsyrn yng nghyswllt y gwahanol safleoedd a drafodwyd:

·      Grinau pentref/tir comin y mae cymunedau yn eu defnyddio ar gyfer hamdden ar hyn o bryd, yn arbennig blant a all fod yn methu cael mynediad i gyfleusterau eraill oherwydd iechyd ac anabledd ac effaith colli gofodau gwyrdd ar eu hiechyd a’u lles.

·      Hygyrchedd ar gyfer y gymuned deithiol a’r pryderon canlynol:

·      Pryderon am ddiogelwch ffyrdd, diffyg palmentydd, diffyg llwybrau cerdded diogel, dim goleuadau stryd ac absenoldeb llwybrau teithio llesol,

·      Cysylltiadau gwael gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus eraill tebyg i ysgolion, meddygon.

·      Pryderon amgylcheddol yn gysylltiedig â bioamrywiaeth ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

·      Agosatrwydd at draffyrdd, s?n a llygredd aer.

·      Pryderon am halogiad tir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a siarad yn y Fforwm Agored i’r Cyhoedd i gynorthwyo’r Pwyllgor gyda’i drafodaethau.

 

3.

Darpariaeth Seibiant i oedolion sydd ag anableddau dysgu pdf icon PDF 234 KB

NODWCH FOD YR EITEM HON YN DEBYGOL O GAEL EI GOHIRIO I GYFARFOD O'R PWYLLGOR YN Y DYFODOL AC NA CHAIFF EI THRAFOD HEDDIW.

 

I gynnal craffu cyn penderfynu ar gynigion sy'n ymwneud â'r Ddarpariaeth Seibiant

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn gohirio eitemau 4 a 6 o’u hagenda i gyfarfod yn y dyfodol, oherwydd fod y Pwyllgor wedi derbyn diddordeb sylweddol gan y cyhoedd mewn mynychu Fforwm Agored i’r Gyhoedd i siarad ar Ddarpariaeth Seibiant. Esboniodd fod Aelodau yn awyddus i sicrhau y byddai llais defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei glywed fel rhan o’r broses graffu a bod Aelodau felly wedi cytuno gohirio ystyriaeth o’r Ddarpariaeth Seibiant a’r Polisi Cludiant Rhwng yr Ysgol a’r Cartref. Ni chafodd dyddiad ei gadarnhau ar gyfer y cyfarfod hyd yma, ond sicrhaodd y Cadeirydd y byddai pawb oedd wedi mynegi diddordeb mewn cyfrannu at y cyfarfod yn cael eu hysbysu am y dyddiad newydd.

 

4.

Asesiad Anghenion Sipsiwn a Theithwyr pdf icon PDF 315 KB

Cynnal gwaith craffu cyn penderfynu ar gynigion, cyn penderfyniad y Cabinet

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Sara Burch ac Ian Bakewell, yn sôn am y broses a ddilynwyd hyd yma yn cynnwys amserlen adroddiadau a gyflwynwyd i’r pwyllgor craffu, yn ogystal â’r gweithdai craffu anffurfiol y gwahoddwyd pob Aelod etholedig iddynt. Atebodd yr Aelod Cabinet gwestiynau Aelodau gyda Mark Hand a Craig O’Connor.

 

Siaradodd yr Aelodau Ward lleol, y Cynghorwyr Richard John, Frances Taylor a Fay Bromfield, ar ran Jane Lucas a siaradodd John Crook yn faith i rannu eu pryderon am addasrwydd y safleoedd a ddynodwyd yn eu wardiau. Cynigiodd y Cynghorydd Richard John fod y Pwyllgor yn argymell Opsiwn 3,  sef gwrthod yr holl safleoedd sydd dan drafodaeth.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor

 

·      Holodd Aelodau’r Pwyllgor os ydym fel Cyngor yn wirioneddol ystyried anghenion Sipsiwn a Theithwyr ac os yw’r Cyngor yn dangos parch dyladwy i’w hadborth, gan fod y gymuned deithio wedi nodi na fyddai dim o’u safleoedd yn ateb eu gofynion.

 

·      Mynegodd y Pwyllgor bryderon difrifol am gywirdeb y broses Coch, Oren a Gwyrdd a’r broses a ddilynwyd i dynnu safleoedd o’r rhestr, gan adael 4 safle a deimlai’r Pwyllgor oedd yn hollol anaddas am ystod eang o resymau a amlinellwyd gan y cyhoedd a’r Aelodau ward.

 

·      Holodd Aelodau os oes tystiolaeth fod y Cyngor yn defnyddio’r canllawiau ar Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sy’n dweud fod angen cartrefi hygyrch ac ansawdd da ar gyfer traffig trwm – roedd hyn yn un enghraifft yn unig o lle teimlai’r Pwyllgor Craffu nad oedd y canllawiau wedi eu gweithredu. 

 

·      Teimlai’r Pwyllgor y cafodd y broses ei rhuthro heb fod Aelodau yn cael rhybudd digonol i ymweld â’r safleoedd ac ymgyfarwyddo a chael gwybodaeth lawn am eu haddasrwydd. Teimlai Aelodau fod y penderfyniadau yn rhy bwysig i Sipsiwn a Theithwyr a’r cymunedau presennol i gael eu rhuthro i ateb amserlenni’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

·      Fe wnaeth Aelodau annog yr Aelod Cabinet a’r Swyddog i negodi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys problemau ar safleoedd presennol, lle mae Sipsiwn a Theithwyr wedi setlo a lle mae ganddynt gysylltiadau cryf i’r ardal leol.

 

Canlyniad Ffurfiol y Craffu:

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu hamynedd drwy gydol y broses a’r cyhoedd am fod yn bresennol a’u cyfraniad gwerthfawr. Diolchodd hefyd i Aelodau’r Cabinet a Swyddogion am eu mewnbwn a chasglodd bod:

 

·         Yr Aelodau yn gwrthod y pedwar argymhelliad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu.

 

·         Bod Aelodau yn argymell gwneud galwad i dirfeddianwyr i awgrymu parseli o dir yn unol ag argymhelliad 2.3 yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 26 Gorffennaf 2023) a bod y broses ddethol yn dechrau eto.

 

·         Argymhellodd yr Aelodau y dylid cefnogi’r cymunedau Sipsiwn a Theithwyr presennol mor bell ag sy’n bosibl, ac y gallai hynny hefyd gynorthwyo’r Cyngor i ateb yr angen a ddynodwyd.

 

·         Byddai’r Cadeirydd yn cyflwyno crynodeb ffurfiol i’r Cabinet i adlewyrchu sylwadau’r Pwyllgor, ynghyd â rhai sylwadau ychwanegol i’r Weithrediaeth eu hystyried wrth wneud eu penderfyniadau yn y dyfodol.

 

5.

Polisi Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol

Cynnal gwaith craffu cyn penderfynu ar gynigion, cyn penderfyniad y Cabinet

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd y cafodd yr eitem hon ei gohirio ac esboniodd y byddid yn trefnu Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Pobl i ystyried ar eitem hon, ar ddyddiad i gael ei gadarnhau.

 

6.

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf fel 5ed Hydref 2023

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cadeirydd y cynhelir cyfarfod cyffredin nesaf y Pwyllgor Craffu Pobl ar 5 Hydref 2023, ond atgoffodd Aelodau y byddai angen i’r Pwyllgor alw Cyfarfod Arbennig yn ystod mis Awst ar gyfer craffu ar Ddarpariaeth Seibiant a Pholisi Trafnidiaeth Rhwng yr Ysgol a’r Cartref.