Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA and remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Cyflwyniad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, yn arbennig aelodau o’r cyhoedd oedd wedi mynychu i gymryd rhan yn y Fforwm Agored i’r Cyhoedd. Gofynnodd i’r Rheolwr Craffu esbonio’r broses galw i mewn fyddai’n cael ei dilyn yn y cyfarfod.

 

Y Cyd-destun ar gyfer y Galw i Mewn:

 

Trefnwyd y cyfarfod i drafod penderfyniad a wnaed ond nad oedd wedi dod i rym. Ar 30 Tachwedd gwnaed penderfyniad i ddadgomisiynu’r eiddo ar Stryd Tudor fel canolfan ar gyfer gwasanaethau cymorth dydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu yng ngogledd Sir Fynwy. Nid oedd y penderfyniad wedi effeithio ar ddarpariaeth barhaus y gwasanaeth a fu’n gweithredu drwy gydol y pandemig. Bu’r cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau anabledd dysgu yn ei le ers 2014, gan geisio cefnogi pobl gydag anabledd dysgu i ddilyn eu diddordebau a’u dymuniadau eu hunain o fewn lleoliadau cymunedol. Roedd hyn wedi arwain at ostyngiad yn nifer y bobl yn defnyddio Canolfan Ddydd Stryd Tudor a gostyngiad graddol mewn oriau agor cyn iddo gau dros dro yn 2020. Cynhelir adolygiad ehangach o’r gwasanaeth, a phenderfynwyd nad oedd yr adeilad ar Stryd Tudor bellach yn addas i’r diben ac y gellid ei werthu.

 

Galwyd y penderfyniad i mewn i gael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Pobl yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor am y rhesymau dilynol:

·      “Ni ifu unrhyw graffu ac ni chafodd ei gynnwys yn y cynllunydd”.

·      “Mae’r adeilad ar orlifdir”.

·      “Ni fu unrhyw ymgynghoriad gyda defnyddwyr/grwpiau. Defnyddir y safle ar gyfer defnyddwyr/grwpiau ac mae ganddynt anghenion arbennig difrifol”.

 

Esboniodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn clywed gan aelodau o’r cyhoedd cyn dechrau’r broses galw-i-mewn. Er fod y broses graffu fel arfer yn caniatáu 15 munud ar gyfer fforwm Agored i’r Cyhoedd, oherwydd y diddordeb sylfaenol mewn siarad yn y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd y byddid yn ymestyn y Fforwm Agored i’r Cyhoedd i alluogi unrhyw un oedd wedi hysbysu’r Cyngor ymlaen llaw am eu dymuniad i siarad yn y cyfarfod yn gallu gwneud hynny.

 

3.

Fforwm Agored Cyhoeddus 15 Munud – Mae modd ymestyn hyn ar ddisgresiwn y pwyllgor.

Cofnodion:

Mae recordiad o’r cyfarfod ar gael i’r cyhoedd ac mae’n rhoi sylwadau a fynegwyd gan aelodau o’r cyhoedd yn y cyfarfod. Yn ychwanegol, caiff adroddiad manwl ei baratoi yn dilyn y cyfarfod craffu i roi adroddiad llawn o’r cyfraniadau cyhoeddus sylweddol i’r cyfarfod, i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 19 Ionawr 2023, Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Pobl, Penderfyniad Galw-i-Mewn Canolfan Ddydd Tudor.pdf (monmouthshire.gov.uk) . Cafodd y sylwadau dilynol eu mynegi gan aelodau o’r cyhoedd. Ni all y cofnodion roi sylwadau ar gywirdeb unrhyw un o’r datganiadau, a gafodd eu crynhoi dan benawdau er mwyn hwlustod cyfeirio.

 

Yr hyn a awgrymodd pobl fod Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn ei gynnig iddynt

 

  • Dywedodd pobl fod Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn cynnig amgylchedd canolog, diogel a thwym ar gyfer pobl fregus gydag anableddau dysgu i gymdeithasu gyda ffrindiau a gwneud amrywiaeth o weithgareddau. Dywedodd pobl fod Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn golygu llawer mwy nag adeilad ffisegol iddynt – mae’n gweithredu fel hyb, lle i go iddo ar gyfer pobl o bob cefndir i  fagu eu hyder, dysgu sgiliau bywyd ac ennill cymwysterau. Clywodd Aelodau y teimlid fod Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn fan lle roedd cyfeillgarwch ystyrlon yn cael ei ffurfio rhwng defnyddwyr gwasanaeth a’r gymuned yn ehangach, oedd yn mynychu eu digwyddiadau codi arian. Mae hefyd yn rhoi seibiant ar gyfer gofalwyr o gyfrifoldebau gofalu 24/7.

 

  • Dywedodd pobl wrth y pwyllgor craffu fod lleoliad canolog Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn y Fenni yn rhwydd iddynt ei gyrraedd a bod ganddo’r cyfleusterau addas, tebyg i wely newid a chyfleusterau toiled i’r anabl oedd yn gweddu llawer o bobl gydag anableddau dysgu, ond nid rhai gydag anghenion cymhleth dybryd. Dywedodd rhai pobl wrth y pwyllgor na fedrai eu perthnasau ddefnyddio’r ganolfan oherwydd nad yw’n darparu ar gyfer anghenon pobl gydag anableddau difrifol, yn arbennig rhai sydd angen hydrotherapi, hoistau nenfwd a gofodau synhwyraidd, a gaiff eu darparu mewn cyfleusterau a adeiladwyd yn bwrpasol tebyg i’r safle yng Nghwmbrân.

 

  • Siaradodd pobl sut yr oedd ‘Fy Niwrnod, Fy Mywyd’, pan oedd yn gweithredu yng Nghanolfan Ddydd Stryd Tudor cyn y pandemig, wedi galluogi pobl i wneud cynlluniau personol a dewis pa weithgareddau yr hoffent eu gwneud. Soniodd pobl am bwysigrwydd cael dewis gwasanaethau dydd a/neu fod yn y gymuned, gan esbonio nad yw gweithgareddau yn y gymuned ar ben eu hunain yn cefnogi adeiladu cyfeillgarwch yn yr un ffordd. Dywedwyd mai’r cyfan roeddent ei eisiauoedd gweld eu ffrindiau mewn amgylchedd diogel a thwym oedd â’r cyfleusterau priodol ar gyfer eu hanghenion.

 

Sut y dywedodd pobl eu bod yn teimlo am gau’r Ganolfan Ddydd

 

  • Dywedodd rhai pobl sut y teimlent eu bod wedi colli’r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau yr oeddent yn arfer eu gwneud, lle roeddent yn medru ennill sgiliau bywyd gwerthfawr a chymwysterau oherwydd fod y ganolfan wedi cau. Dywedodd gofalwr wrth aelodau nad yw gweithgareddau yn y gymuned yn rhoi fawr o ysgogiad i bobl gydag anableddau dysgu a bod cau’r ganolfan wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl. Esboniodd un  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Galw i Mewn: Adeilad Stryd Tudor. pdf icon PDF 21 KB

Ystyried cais i ‘Alw i Mewn’ y cais am Benderfyniad Aelod Cabinet Unigol a gymerwyd ar 30ain Tachwedd 2022 sy’n ymwneud gyda’r defnydd o eiddo yn Stryd  Tudor cyn canlyniad yr adolygiad ehangach o’r Gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelodau a alwodd y penderfyniad i mewn i gyflwyno eu rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, fel y nodwyd yn flaenorol.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan yr ‘Aelodau Galw i Mewn’

 

Mynegodd Aelodau a alwodd y penderfyniad i fewn eu pryderon yng nghyswllt diffyg craffu cyn-penderfyniad. Fe wnaethant gwestiynu ansawdd a chadernid yr asesiad integredig ar effaith, a mynegi eu pryderon am ba mor drwyadl oedd y broses ymgynghori a gynhaliwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor am gwestiynau a sylwadau.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor

 

Siaradodd Aelodau yn faith am eu sylwadau ar y mater a dweud nad oedd y cyhoedd yn ystyried Canolfan Ddydd Stryd Tudor fel dim ond adeilad neu safle, ond fel cymuned, a bod pobl yn teimlo fod y gymuned yn cael ei thynnu oddi arnynt. Soniodd aelod o’r pwyllgor sut mae canolfannau dydd yn rhoi llawer mwy na dim ond adeilad a dweud fod anghenion pobl yn llawer pwysicach na chyflawni targedau tai neu wireddu budd ariannol.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n crynhoi canlyniad ffurfiol y cyfarfod galw-i-mewn.

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

  • Yng nghyswllt y materion penodol a godwyd wrth alw’r penderfyniad i mewn, derbyniwyd y dylid bod wedi craffu ymlaen llaw ar y penderfyniad gan roi esboniad pam nad oedd y penderfyniad wedi ei gynnwys ar Flaengynllunydd y Cabinet a’r Cyngor a gafodd y pwyllgor yn ei gyfarfod blaenorol.

 

  • Cadarnhawyd hefyd nad oedd yr adeilad ar orlifdir.

 

  • Derbyniwyd ymhellach na fu ymgynghoriad effeithiol ar y penderfyniad i gau Canolfan Ddydd Stryd Tudor.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod tri dewis ar gael iddynt, sef:

 

1)    Derbyn y penderfyniad

2)    Cyfeirio’r penderfyniad i’r Aelod Cabinet i’w ailystyried (gyda rhesymau)

3)    Cyfeirio’r penderfyniad at y Cyngor llawn

 

Gofynnodd y Pwyllgor am bleidlais wedi’i chofnodi ar yr opsiynau uchod, a’r canlyniad oedd:

 

Cynghorydd Rachel Buckler:                         Cyfeirio i’r Cyngor llawn

Cynghorydd Maureen Powell:                                    Cyfeirio i’r Cyngor llawn

Cynghorydd Jane Lucas (dros C Edwards):  Cyfeirio i’r Cyngor llawn

Cynghorydd Jayne Mckenna:                                     Cyfeirio i’r Cyngor llawn

Cynghorydd John Crook:                                            Cyfeirio i’r Cyngor llawn

Cynghorydd Tony Easson:                             Cyfeirio i’r Aelod Cabinet

Cynghorydd Jackie Strong:                            Cyfeirio i’r Aelod Cabinet       

Cynghorydd David Jones:                                          Cyfeirio i’r Cyngor llawn

Cynghorydd Sue Riley:                                               Cyfeirio i’r Aelod Cabinet

 

Cytunwyd i gyfeirio’r penderfyniad i’w ail-ystyried, yn dilyn pleidlais wedi’i chofnodi.

 

Yn dilyn y bleidlais wedi’i chofnodi, cytunodd y mwyafrif i gyfeirio’r penderfyniad i’r cyngor llawn, gan roi’r rheswm dilynol:

 

Mae angen llawer mwy eglurdeb ar ddarpariaeth y dyfodol. Mae angen ymgysylltu cadarn gyda defnyddwyr gwasanaeth a dylid cynnal craffu cyn-penderfyniad trwyadl cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

 

 

5.

Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Cadarnhau y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2023.