Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mercher, 17eg Gorffennaf, 2024 2.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Enwebwyd y Cynghorydd Laura Wright gan y Cynghorydd Jackie Strong, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Butler.

2.

Penodi is-gadeirydd

Cofnodion:

Enwebwyd y Cynghorydd Jackie Strong gan y Cynghorydd Sue Riley, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Wright.

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd


Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y Cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

 


 

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

5.

Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2022-2027 pdf icon PDF 638 KB

Craffu ar gynnydd parhaus y rhaglen ailgartrefu gyflym.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Bakewell a Rebecca Cresswell gyflwyniad manwl (sydd ar gael ar wefan y Cyngor gyda’r agenda), cyflwynodd yr adroddiad ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Jane Oates.

 

Pwyntiau allweddol a wnaed gan Aelodau: 

 

  • Gofynnwyd am eglurhad os yw’r cynllun lesio yn weithredol i Tai Sir Fynwy hefyd, a’r ymateb oedd ei fod.

 

  • Gofynnwyd cwestiynau am nifer y cartrefi fforddiadwy (rhagwelir tua 130 o gartrefi fforddiadwy), hyrwyddo gwasanaeth gosod Sir Fynwy, y llety ar gyfer teuluoedd a chyfraddau lwfans tai lleol. Hysbyswyd aelodau y caiff teuluoedd fel arfer eu gosod mewn anheddau hunan-gynwysedig, a bod y cyfraddau lwfans tai lleol yn seiliedig ar ddata 2011 ac yn llawer is na rhenti marchnad. Holodd Aelodau am ddefnydd data 2011 ar gyfer asesu’r Grant Tai Lleol.

 

  • Dywedodd Aelod mai nifer isel yn ei ward sy’n defnyddio Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy ac efallai y gellid ei hyrwyddo’n well drwy gynghorau tref a chymuned. Cydnabu swyddogion y byddai cysylltu â chynghorau tref a chymuned yn gam gweithredu y gallent ei ddilyn er mwyn hyrwyddo Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy (Gweithredu: Rebecca Cresswell).

 

  • Holodd Aelod am y cyfnod aros cyfartalog ar gyfer tai cymdeithasol, y ffigurau cam-drin domestig a lesio anheddau.

 

  • Gofynnodd aelodau am eglurhad ar y stoc tai ar gyfer teuluoedd o gofio fod Severn View ar gyfer pobl sengl.

 

  • Gofynnodd Aelodau os oedd cam-drin domestig o fewn aelwydydd yn arwain at gynnydd mewn digartrefedd.

 

  • Gofynnodd Aelod am eglurdeb os mai diben lesio anheddau oedd lliniaru’r defnydd o Wely a Brecwast a galw dros dro, yn hytrach na chynnig datrysiad hirdymor.

 

  • Holodd Aelod os yw rhywun yr aseswyd ei fod mewn llety anaddas yn cymhwyso fel bod mewn risg o ddigartrefedd. Cytunodd y swyddog i drafod yr amgylchiadau unigol gyda’r Aelod yn dilyn y cyfarfod.

 

  • Gofynnodd Aelod arall am eglurhad ar bobl gyda nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn y Ddeddf Cydraddoldeb a hefyd aelodau’r lluoedd arfog yn nhermau eu blaenoriaeth wrth gael annedd.

 

  • Gofynnwyd am eglurdeb os yw ‘person sengl’ yn cyfeirio at unigolyn sengl heb blant – cadarnhawyd ei fod yn cyfeirio at berson sengl heb blant ac mai nhw yw’r gyfran uchaf o geisiadau digartrefedd, ynghyd â phrinder difrifol o anheddau un ystafell wely.

 

  • Holodd Aelod faint o dai fforddiadwy a gafodd eu cyflenwi yn Sir Fynwy yn 2023-2024, a’r ffigur yw 63.

 

  • Awgrymodd Aelod ein bod yn ystyried yr eirfa wrth hyrwyddo anheddau ar gyfer pobl sydd angen cartref er mwyn osgoi’r stigma sy’n gysylltiedig gyda digartrefedd, a all hefyd ddenu mwy o landlordiaid. Ar gyfer diben yr adroddiad, cadarnhaodd Swyddogion fod angen defnyddio’r term ‘digartref’ i gyfeirio at bobl sy’n gymwys am gymorth dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a’i bod yn diffinio digartrefedd fel ‘peidio bod â llety addas neu fod mewn risg o golli hynny o fewn 56 diwrnod”. Fodd bynnag rhoddir ystyriaeth i farchnata a hyrwyddo cartrefi ar gyfer pawb.

 

  • Holwyd os ydym yn derbyn digon o arian grant gan Lywodraeth Cymru, ac os y gallai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wneud mwy. Cadarnhaodd swyddogion iddynt gael cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Pobl â Phrofiad Gofal pdf icon PDF 1 MB

Craffu ar gynnig bod profiad gofal yn cael ei drin fel pe bai’n nodwedd warchodedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Ian Chandler a Jane Rodgers yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.

 

Pwyntiau allweddol a wnaed gan Aelodau: 

 

  • Er nad oedd ag unrhyw gwestiynau am yr adroddiad, dywedodd yr Aelod ei bod yn dda gweld yr Cyngor yn cymryd camau gwirioneddol i ddangos ei fod o ddifri am y cymorth a roddir i bobl sydd wedi bod drwy’r system gofal.

 

  • Gofynnwyd os fydd hyn yn golygu cwestiwn penodol ar ffurflen gais i ddynodi ymgeiswyr sydd â phrofiad gofal, ac os y byddid yn gwneud yn glir pam y gofynnir y cwestiwn.

 

  • Gofynnodd Aelod pa gymorth a roddir i bobl ar ôl 25 oed.

 

  • Awgrymodd Cynghorydd arall efallai y gallai’r adroddiad gyfeirio at rai o fanteision gydol oes bod â phrofiad gofal.

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod cefnogaeth lawn gan y Pwyllgor ar gyfer cyfeiriad yr adroddiad a diolchodd i swyddogion a’r Aelodau Cabinet am fynychu. 

 

 

7.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Rhestr o Gamau Gweithredu Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 385 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd.

 

8.

Cynllunydd y Cabinet a’r Cyngor pdf icon PDF 480 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

 

9.

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16eg Ebrill 2024. pdf icon PDF 254 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd y Cofnodion fel bod yn wir a chywir. 

 

10.

Cyfarfod Nesaf: 23ain Gorffennaf 2024

Cofnodion:

23 Gorffennaf 2024.