Agenda and minutes

Special, Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Iau, 10fed Awst, 2023 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

10.00am Fforwm Agored i’r Cyhoedd ar Bolisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol

Cofnodion:

Codwyd y materion canlynol:

 

·       Soniodd Cynghorydd Cymuned yn cynrychioli Cyngor Cymuned Matharn am sut mae’n rhaid i blant o’r ardal leol gerdded gydag oedolion gyda nhw ar y daith i’r ysgol ar hyd y llwybr cul ger yr A48 Pwllmeurig, gan fod cymaint o draffig fel na allai bysus ysgol fynd trwodd. Roedd y cynrychiolydd yn bryderus am agwedd iechyd a diogelwch y llygredd o draffig ar hyd y ffordd hon. Dywedwyd na fedrai rhai plant aros yn yr ysgol am weddill y diwrnod ysgol oherwydd pen tost fel canlyniad i’r cerdded.

 

·       Roedd menyw wedi gofyn am ymuno â’r cyfarfod ar gyfer y Fforwm Agored i’r Cyhoedd ond roedd wedi cael problemau yn ymuno â’r cyfarfod ond mae wedi anfon cyfraniad ysgrifenedig yn amlinellu pryderon am eiriad y polisi yng nghyswllt ysgolion ffydd. Anfonwyd y cyfraniad at yr Aelod Cabinet dros Addysg ac mae Aelodau uchod wedi cyfeirio at y pwyntiau allweddol, i’r Aelod Cabinet roi ystyriaeth iddynt.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r siaradwyr am fynychu a siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd i gynorthwyo’r Pwyllgor gyda’u trafodaethau.

 

3.

10.15am Craffu ar y Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol pdf icon PDF 809 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Martyn Groucutt yr adroddiad gyda Debra Hill-Howells. Atebodd Debra Hill-Howells gwestiynau’r aelodau gyda’r Cynghorydd Groucutt a Becky Pritchard.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan aelodau’r Pwyllgor:

 

Cododd y Pwyllgor y materion dilynol i’r Aelod Cabinet eu hystyried :

 

·       Mynegwyd pryder am y geiriad yn y polisi yn ymwneud ag ysgolion ffydd a chytunodd Aelodau fod angen i’r geiriad roi ystyriaeth i neges e-bost gan aelod o’r cyhoedd am y mater hwn, roedd angen i’r geiriad gynnwys y geiriau ‘yr ysgol ffydd addas agosaf’ i sicrhau y byddai’n addas ar sail ffydd.

 

·       Mewn ymateb, cadarnhaodd swyddogion na fydd y newidiadau ar ochr addysg ffydd polisi 2024/25 yn cael unrhyw effaith ymarferol ar gymhwyster cyfredol a chymhwyster y dyfodol cludiant am ddim i ysgolion ffydd ac na fyddir yn effeithio ar unrhyw un sy’n derbyn cludiant ffydd, a chroesawyd hynny gan Aelodau.

 

·       Mewn ymateb i bryderon gan Aelod, cytunodd swyddogion i newid y geiriad ar y paragraff yn cyfeirio at y llwybrau cerdded sydd ar gael i fod yn gydnaws gyda’r Mesur Teithio Dysgwyr ac i dynnu’r paragraff sy’n sôn am ‘digon peryglus’ a rhoi’r geiriad canlynol yn lle “Os bernir nad yw’r llwybr i’r ysgol yn ddiogel, yna ni fedrir disgwyl i’r dysgwr gerdded i’r ysgol, er fod y pellter rhwng y cartref a’r ysgol yn llai na’r terfyn pellter sy’n weithredol oedran y dysgwr mewn amgylchiadau o’r fath, mae gan y dysgwr hawl i gludiant am ddim.”

 

·       Mynegodd rhai Aelodau bryder am y newid yn y cyfnod hysbysiad ar gyfer dileu cludiant. Cytunodd swyddogion i ymchwilio adrannau cyfreithiol y ddyletswydd i asesu Anghenion Teithio Dysgwyr ym Mesur Teithio Dysgwyr (Cymru) 2008. Ymddengys fod Mesur Teithio Dysgwyr (2008) yn dangos asesiad ar gyfer disgyblion unigol bob blwyddyn academaidd ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Mae hyn yn golygu er bod y cyfnod hysbysu ym mholisi 2023/24 yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyfreithiol hon, nid yw'n cydymffurfio gyda dyletswydd gyfreithiol yng nghyswllt y drafft bolisi ar gyfer 2024/25, gan fod cyfnod hysbysiad byrrach yng nghanol y flwyddyn academaidd.

 

·       Mynegwyd pryder am ddiogelu ar fysus cyhoeddus gyda risg ychwanegol cynyddu’r defnydd o fysus cyhoeddus yn 2024/25 o’r defnydd cyfyngedig iawn a wneir ohonynt ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion fod teledu cylch cyfyng mewn bysus ac y cedwir y lluniau am 14 diwrnod fel y gellid adolygu unrhyw gwynion.

 

·       Cododd Aelod ar ymweliad bryder am argaeledd lleoedd ac na fedrid dibynnu ar gwmni bws cyhoeddus, gyda swyddogion yn dweud na fedrent roi sylw ar dendrau/contractau unigol. Cadarnhaodd swyddogion hefyd eu bod yn trefnu patrol croesiad ysgol yn ardal yr Aelod.

 

·       Mynegwyd consyrn i sicrhau y gweithredid Mesur Diogelwch ar Gludiant Dysgwyr (Cymru) 2011 i fysus cyhoeddus, yn cynnwys yr angen i gael gwregys ar bob sedd a’r gofynion angenrheidiol ar hyfforddiant gyrwyr.

 

·       Gofynnwyd am eglurhad os mai dim ond ar gyfer disgyblion uwchradd ac nid disgyblion cynradd y defnyddid bysus cyhoeddus, gan nad oedd geiriad drafft bolisi 2024/25 yn glir yn hyn o beth.

 

·       Mynegwyd pryder am wiriadau DBS. Soniodd Aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

11.00am Galw i mewn benderfyniad y Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023 yng nghyswllt cytundeb A106 ar gyfer Cil-y-coed pdf icon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Pwyllgor Craffu y broses Galw Mewn fel y’i hamlinellir yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Siaradodd y Cynghorydd Dymock fel yr Arweinydd Galw Mewn, gan roi manylion y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, fel y nodir yn y cais Galw Mewn. Ymatebodd yr Aelod Cabinet Martyn Groucutt i bwyntiau’r galw mewn a rhoddodd Joanne Chase, Dirprwy Swyddog Monitro eglurhad ar gyfreithlondeb cytundeb Adran 106. Atebwyd cwestiynau aelodau gan y Cynghorydd Groucutt, Joanne Chase a Cath Saunders.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau:

 

·       Holodd Aelod os yw’n rhaid gwario arian Adran 106 yn yr ardal leol. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro y gallai ysgolion o fewn y clwstwr gael budd, fel y nodir yn y cytundeb Adran 106 a bod hyn yn gyfreithlon.

 

·       Trafododd Aelodau nifer y disgyblion yn yr ysgolion dan sylw: Ysgol Gynradd Parc Castell gyda 190 o ddisgyblion gyda lle ar gyfer 210 disgybl, ac Ysgol yr Archesgob Rowan gyda 206 o ddisgyblion gyda lle ar gyfer 210 o ddisgyblion. 

 

·       Awgrymodd rhai Aelodau y byddai’r Ysgol Archesgob Rowan yn cael mwy o fudd o’r arian Adran 106 a byddai ag angen lliniaru lleol a bod y penderfyniad yn afresymegol. Teimlai Aelod arall, oherwydd fod yr ysgolion yn agos at ei gilydd, y gellid defnyddio’r arian i sicrhau budd ar unwaith ar gyfer Ysgol Parc Castell ac awgrymodd y gellid defnyddio arian ar ddyddiad yn y dyfodol ar gyfer Ysgol Archesgob Rowan.

 

·       Dywedodd Swyddogion mai mater amseriad yw hyn ac y gellir sicrhau’r arian a geir o fewn yr amserlen, gan y caiff cytundebau eu llunio yn hir cyn i’r arian ddod i law. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet y byddai’r ail drosglwyddiad arian o Heol yr Eglwys yn mynd i Ysgol Archesgob Rowan.

 

Canlyniad Ffurfiol Craffu:

 

Yn dilyn trafodaeth sylweddol sydd ar gael drwy’r ffrwd byw, symudodd y Pwyllgor i bleidlais:

 

Cytunodd pedwar Aelod i dderbyn penderfyniad yr Aelod Cabinet.

 

Cytunodd pump Aelod i gyfeirio’r penderfyniad i’r Cyngor llawn, a’r rhesymau a nodwyd oedd ei fod yn annheg i Ysgol Archesgob Rowan a chymuned Porthsgiwed.

 

Cariwyd y penderfyniad i gyfeirio’r mater i’r Cyngor.

 

5.

12.00 canol-dydd EGWYL

6.

12.30pm Fforwm Agored i’r Cyhoedd ar Adroddiad Darpariaeth Seibiant

Cofnodion:

Cafwyd cyfraniadau ysgrifenedig cyn y cyfarfod a chawsant eu rhannu gyda phawb a fynychodd. Dywedodd cyfraniad sut y teimlai’r teulu iddynt gael eu siomi gan y Cyngor yn nhermau’r cynigion i gau Budden Crescent a sut na fyddai darpariaeth seibiant arall yn diwallu eu hanghenion. Mae cyfraniad ysgrifenedig gan ddefnyddiwr gwasanaeth arall yn amlygu pwysigrwydd y gwasanaeth iddi hi a’i pherthynas. Cafodd cyfraniad ysgrifenedig gan academydd hefyd ei gylchredeg i Aelodau a mynychodd menyw oedd wedi anfon cyfraniad ysgrifenedig y cyfarfod a siaradodd ar ran ei theulu, yn esbonio sut mae’r gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd yn Budden Crescent yn diwallu anghenion ei theulu ac y byddent yn ei chael yn anodd iawn hebddo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau ac am gynorthwyo’r Pwyllgor gyda’i graffu.

 

7.

1.00pm Craffu ar yr Adroddiad Darpariaeth Seibiant pdf icon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Ian Chandler. Rhoddodd Jane Rodgers gyflwyniad. Cynigiodd y Cynghorydd Strong ei safbwynt fel yr Aelod Ward lleol dros Budden Crescent. Atebwyd cwestiynau aelodau gan y Cynghorydd Chandler, Jane Rodgers, Jenny Jenkins a Clare Morgan.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Pwyllgor:

 

Cydnabu’r Pwyllgor ymroddiad y gr?p staff a safon uchel y gofal a’r cymorth a ddarparodd y gwasanaeth seibiant yn Budden Crescent i bobl gydag anabledd dysgu a’u gofalwyr am flynyddoedd lawer. Roedd gwahaniaeth barn yn y pwyllgor am y cynigion a ddaeth gerbron y Pwyllgor Craffu, ond mae’r canlynol yn cynnig pwyntiau allweddol i’w hystyried gan y Weithrediaeth:

 

·             Dywedodd rhai aelodau nad yw’r adroddiad yn amlinellu yr ystod llawn o gyfleoedd seibiant sydd ar gael ar draws y sir.

 

·             Mynegwyd rhai pryderon am y data ac os oes gennym ddarlun cywir o’r galw am y gwasanaeth, ar hyn o bryd a hefyd yn y dyfodol.

 

·             Dywedodd rhai aelodau na ddylai lefelau is o ddefnydd fel canlyniad i’r pandemig fod yn gyfiawnhad i ddileu gwasanaethau.

 

·             Er bod cefnogi pobl yn bwysig iawn, cydnabu aelodau os yw’r galw am y gwasanaethau a gynigir yn Budden Crescent wedi gostwng, na fedrid anwybyddu’r goblygiadau cost, gan gydnabod ei fod yn gadael llai o arian ar gael i ddarparu mathau eraill o seibiant.

 

·             Teimlai rhai aelodau y gall fod yn fyrbwyll i ddibynnu ar gyfleusterau a ddarperir gan awdurdodau lleol, o gofio’r cynnydd yn y boblogaeth henoed a nododd yr angen am ddarpariaeth seibiant yn y sir.

 

·             Mynegwyd pryderon am allu darpariaeth seibiant arall i ymateb i argyfyngau a pha mor hyblyg a fyddai’r trefniadau eraill a gynigid yn medru diwallu’r anghenion hynny.

 

·             Holodd Aelodau os gallai Budden Crescent weithredu model seibiant ehangach i ddarparu ar gyfer pobl yn dioddef gyda dementia neu anabledd dysgu ac os y byddai hyn yn gwneud y gwasanaeth yn ariannol hyfyw. Clywodd Aelodau y byddai’n anodd iawn staffio hyn, gan y byddai angen gwahanol sgiliau gofal ar gyfer pobl gyda gwahanol gyflyrau iechyd. Fodd bynnag, mae Aelodau’n gwybod fod Centrica Lodge yng Nghasnewydd yn gweithredu model seibiant ehangach, gan ddarparu ar gyfer gofal pobl oedrannus, anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl ac oedolion iau. Holodd Aelodau felly pam na all Sir Fynwy arallgyfeirio i ddiwallu nifer o anghenion gofal ac awgrymwyd fod hyn yn rhywbeth y dylai’r Weithrediaeth ei ymchwilio. Soniwyd hefyd am bosibilrwydd safle rhanbarthol, gan gydnabod fod awdurdodau eraill yn wynebu heriau tebyg.

 

·             Roedd gwahaniaeth barn am yr adolygiad, credai rhai aelodau fod angen adolygiad annibynnol ond dywedodd eraill ei fod yn adroddiad trylwyr.  

 

Canlyniad Ffurfiol y Craffu:

 

Gwaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

1.     Os yw’r Weithrediaeth yn cau Budden Close, ei fod yn cynnal adolygiad llawn o’r opsiynau seibiant, gan fod mwyafrif yr opsiynau yn anhyfyw ar hyn o bryd ar gyfer rhai gydag anghenion cymhleth sydd angen gofal 24/7. Mae’r Pwyllgor yn gofyn i’r Weithrediaeth sicrhau fod mathau arall o gymorth seibiant a ‘rhannu bywyd’ ar gael i bobl ac yn rhoi’r lefel briodol o ofal  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cadarnhau mai dyddiad y cyfarfod nesaf fydd 5 Hydref 2023