Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Pobl - Dydd Mawrth, 23ain Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim. 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd


Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Cofnodion:

Dim. 

 

3.

Craffu cynigion y gyllideb pdf icon PDF 127 KB

Craffu cynigion y gyllideb yn ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllogor.

 

20240117 Cabinet - Draft 2024-25 Budget - Covering report Final.pdf (monmouthshire.gov.uk)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Callard gynnig y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod ac ateb cwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Ian Chandler, Aelod Cabinet Marty Groucutt, Jane Rodgers, Tyrone Stokes, Peter Davies, Will McLean a Jonathan Davies. Esboniodd y Cynghorydd Callard fod y cynigion yn cynnwys gostyngiad o 3.2% yng nghyllideb Mon Life a chynnydd o 6.3% yn y gyllideb adnoddau. Cadarnhaodd fod y gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnig i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 7.5% a bod y Cyngor yn y cam ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor: 

 

Addysg

 

·        Yng nghyswllt arbedion effeithiolrwydd ysgolion o £854k, holwyd sut fydd hyn yn edrych mewn gwirionedd ar gyfer ein hysgolion. Gofynnodd aelodau am enghreifftiau o sut yr aiff ysgolion ati i wneud yr arbedion hyn.

·        Gofynnodd aelodau os yw’r Cabinet yn bryderus am ddiwedd £21.3 miliwn o gronfa Llywodraeth Cymru at Gyflog Athrawon, ynghyd ag arbedion effeithiolrwydd, ac os y gallem o bosibl golli athrawon ac os felly faint. Gofynnwyd i’r aelod cabinet os oedd wedi lobïo Llywodraeth Cymru i ailosod cronfa cyflogau athrawon ar gyfer y flwyddyn i ddod i liniaru’r baich ar ysgolion. Holodd aelodau os y gallai maint dosbarthiadau gael ei gynyddu oherwydd pwysau staffio ac os y gallai plant fod dan anfantais fel canlyniad i’r cynigion hyn.

·        Gofynnodd aelodau os oes gan yr Aelod Cabinet unrhyw bryderon y gallai’r arbedion effeithiolrwydd gael effaith negyddol ar ansawdd y cynnyrch mae’n rhaid i ysgolion ei gaffael, gan arwain at i ysgolion ddewis opsiynau rhatach.

·        Gofynnodd aelodau pa fesurau lliniaru a wneid yng nghyswllt  unrhyw bryderon am anghydraddoldeb a amlygwyd.

·        Yng nghyswllt cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), holodd Aelodau am effeithiau y gostyngiad yn y cyfraniad craidd at EAS ar Sir Fynwy.

 

Gofal Cymdeithasol 

 

·        Gofynnwyd cwestiynau am ddileu swyddi a swyddi gwag – faint, a ph’un a gânt eu llenwi.

·        Gofynnwyd am eglurhad os yw’r angen a aseswyd yn cael ei ostwng a sut y gallwn ddangos y bydd newid staff yn dal i ateb y goblygiadau statudol.

·        Roedd peth pryder os y bydd gan aseswyr gofal cymdeithasol y cymwysterau a goruchwyliaeth ddigonol i fedru cyflawni’r rôl, o gofio fod cyfeirio at wasanaethau yn wahanol i gynnal asesiad a chwestiynau os y bydd unrhyw effaith ar weithwyr cymdeithasol cofrestredig.

·        Yng nghyswllt Budden Crescent, gofynnodd Aelodau am sicrwydd fod rhan o’r ailgyflunio ar gyfer ailddylunio’r gwasanaeth a sicrhau rhannu bywydau.

·        Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y cyllid ychwanegol ar gyfer gofal a cymorth, ac os y bydd gan y bobl hynny fynediad i gyngor ar hawliau llesiant.

·        Yng nghyswllt gofal maeth, gan ein bod yn dibynnu’n helaeth ar asiantaethau maeth annibynnol, gofynnodd Aelodau sut y caiff y gwahaniaeth mewn costau ei drin? Sut fyddwn ni’n denu gofalwyr maeth i’r sir ac a fedrid ystyried gostyngiad yng nghyfraniad y dreth gyngor? 

 

 Cerddoriaeth Gwent  

 

·        Holodd aelodau em effaith colli’r cymhorthdal ar Gerddoriaeth Gwent a’u hadborth ar y cynnig. Gofynnwyd faint o ysgolion fyddai’n medru cyllido hyfforddiant cerddoriaeth ysgol gyfan ac os y gallai’r  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Nodi Blaenraglen Gwaith a Rhestr Weithredu y Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ychwanegir adroddiad y Gyfarwyddiaeth Gofal at y rhaglen gwaith.

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd canlynol: pdf icon PDF 241 KB

1 Rhagfyr 2023 (Cyfarfod Arbennig)

14 Tachwedd 2023 Cydbwyllgorau Craffu Perfformiad a Throsolwg a Phobl 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  • 1 Rhagfyr 2023 (cyfarfod arbennig)
  • 14 Tachwedd 2023 Cyfarfod ar y cyd o’r Pwyllgorau Craffu Perfformiad a Throsolwg a Pobl

 

Cynigiodd y Cynghorydd Powell ac eiliodd y Cynghorydd Edwards.

 

6.

Cyfarfod nesaf:

6 Chwefror 2024 (Cyfarfod Arbennig)

5 Mawrth 2024

 

Cofnodion:

Cyfarfod Arbennig 6 Chwefror 2024.