Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Cofnodion:

Dim Aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Strategaeth Rhianta Corfforaethol pdf icon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet yr adroddiad a thrafododd y swyddogion y cynnwys yn fwy manwl.

 

Her:

 

Beth yw cyfanswm y nifer sy’n gadael gofal? A yw hyn tua’r un cyfartaledd mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill? Pa gefnogaeth ychwanegol ellir ei roi i’r plant yma?

 

Nid wyf yn si?r, ond gallaf gael y wybodaeth ar ôl y cyfarfod (Camau Gweithredu: Charlotte Drury), ond yr hyn fyddwn i’n ei ddweud yw bod gennym ddeilliannau da. Mae’r rhai sy’n gadael gofal yma yn dueddol o ddisgyn i ddau gr?p penodol, pobl ifanc y mae eu trawma a’u taith trwy ofal heb fod mor adferol ag y byddai rhywun yn gobeithio a gwneir llawer o waith gyda nhw o ran hyfforddiant a chymorth a mynediad at addysg ac addysg yn hwyrach mewn oes.  O ran y nifer o blant sydd mewn gwirionedd mewn addysg a phrentisiaethau gwaith addysg tymor hir neu mewn prifysgolion, rydym yn gwneud yn eithaf da yng nghyswllt ein cydweithwyr yng Ngwent, er nad oes gennym gymaint yn gadael gofal â rhai o’r awdurdodau mawr.

 

Mae adroddiad mwyaf diweddar y Comisiynydd Plant 2021-22 yn awgrymu nad oes digon o ddarpariaeth i blant ag anghenion cymhleth, sydd, yn ei hanfod, hefyd â’r potensial i gael effaith negyddol ar bobl ifanc sy’n gadael y system ofal.  Roedd hynny’n peri pryder i mi. A yw hynny wedi gwella ers 2021-22?

 

Os ydym yn sôn am ddarparu gofal, pan fyddwn yn dweud anghenion cymhleth, yn ddieithriad rydym yn sôn am blant â phroblemau iechyd meddwl sylweddol, plant ag anabledd neu blant sydd wedi profi llawer iawn o drawma, y mae eu hanghenion therapiwtig ac adferol yn fawr, gydag ymddygiad anodd weithiau.  Rydym mewn lle anodd ac mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa honno wedi gwaethygu, o ran datsefydlogi’r farchnad, ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig a sut y bydd yr agenda dileu yn symud yn ei blaen. Mae gan Sir Fynwy gynlluniau i greu ei hunedau preswyl ei hun fel ein bod yn gallu cael mwy o reolaeth a mwy o oruchwyliaeth dros y deilliannau i bobl ifanc, ond mae’n broblem genedlaethol.   Rydym wedi bod yn ddibynnol iawn ar asiantaethau annibynnol sy’n broblem benodol yn Sir Fynwy, ond o ran yr anhawster i leoli plant mewn lleoliadau maeth yn gyffredinol, rydym yn rhannu’r un her â gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig, sef nad oes gennym ddigon o ofalwyr maeth ac mae eu recriwtio yn mynd yn fwy heriol, ac nid yw’r ‘agenda dileu’ wedi ein helpu yn hyn o beth. Rydym yn cael trafferth dod o hyd i leoliadau i grwpiau o frodyr a chwiorydd, nad oes ganddynt efallai anghenion cymhleth na heriol ac i blant iau, yn rhannol oherwydd bod gennym ddemograffig h?n, gyda llawer o ofalwyr maeth yn ymddeol a hefyd nid oes gennym bobl iau yn dod i’r arena maethu oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio byw yma.  Mewn rhai cymunedau yn y cymoedd, gall rhoi gofal maeth gynnal incwm pobl, os oes gan bobl ystafell  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Blaenraglen Waith a Rhestr o’r Camau Gweithredu ar gyfer Craffu Pobl pdf icon PDF 350 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y flaenraglen.

 

5.

Rhaglen Waith y Cyngor a’r Cabinet pdf icon PDF 328 KB

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen.

 

6.

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2023 pdf icon PDF 411 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd y cofnodion.

 

7.

Cadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf fel 6 Mehefin 2023

Cofnodion:

Cadarnhawyd dyddiad y cyfarfod nesaf ar 6 Mehefin 2023.