Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Dim.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Cafwyd dau sylw ysgrifenedig ymlaen llaw cyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu Pobl a chafodd y rhain eu dosbarthu i aelodau’r pwyllgor, yr Aelod Cabinet a Swyddogion. Cafwyd cyflwyniad fideo hefyd gan yr Athro David Abbot, a chafodd ei chwarae yn y cyfarfod.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Esboniodd y Rheolwr Craffu y broses Galw i Mewn, fel y’i hamlinellir yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Siaradodd y Cynghorydd Kear fel yr Arweinydd Galw i Mewn, gan roi manylion y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, fel y’i nodir yn y cais Galw i Mewn. Fe wnaeth y Cynghorydd Howarth hefyd amlinellu ei resymau dros y galw i mewn.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Galw i Mewn:
· Pryderon am ba mor gyson a thrwyadl yw’r broses ymgynghori. · Pryder am y sylfaen tystiolaeth am y penderfyniad a theimlad fod y broses yn wallus. · Pryderon am addasrwydd y safle a gynigir ar gyfer y gwasanaeth yn y Fenni a phryderon am y cynlluniau cyllido ar gyfer sicrhau fod yr adeilad yn hygyrch. · Pryder am gadernid y strategaeth yn gyffredinol. · Pryder fod y penderfyniad yn cael ei ruthro ac na chafodd aelodau craffu y cyfle i archwilio gwybodaeth gefndir ehangach y teimlant sy’n berthnasol i’w craffu o’r penderfyniad.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet Ian Chandler i bwyntiau’r galw i mewn a chwestiynau aelodau gyda Jenny Jenkins, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Trafododd yr Aelod Cabinet y seiliau penodol am alw y penderfyniad i mewn, gan amlinellu’r craffu cyn y penderfyniad a wnaeth y pwyllgor ar 18 Gorffennaf cyn i’r Cabinet ystyried y mater ar 11 Hydref 2023, cyn y penderfyniad a gymerwyd ar 15 Tachwedd 2023. Sylweddolai ymrwymiad aelodau etholedig wrth graffu’r penderfyniad, ond dywedodd y bu’r broses graffu yn gadarn. Rhoddodd esboniad hefyd am y broses ymgynghori a ddilynwyd ac ymgysylltu defnyddwyr gwasanaeth yn gadarnhaol yn y broses.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod defnyddwyr gwasanaeth yn dal i dderbyn y gwasanaeth, ond bod angen symud tuag at wasanaeth cynhwysol ac egnïol cyn gynted ag sydd modd.
Pwyntiau allweddol a wnaed gan Aelodau’r Pwyllgor:
· Codwyd mater addasrwydd adeilad Theatr Melville a siaradodd rhai aelodau am bryderon am hygyrchedd · Mynegodd rhai aelodau eu dymuniad i dderbyn y penderfyniad a symud ymlaen yn gyflym i drawsnewid y gwasanaeth. · Mynegodd aelod bryder os yw cylch gorchwyl Fy Niwrnod, Fy Mywyd yn gydnaws gydag adeilad tebyg i Theatr Melville. · Mae pryderon yn parhau ymysg rhai aelodau am y broses ymgynghori a’r penderfyniadau’n ymwneud â safleoedd Fy Niwrnod, Fy Mywyd, gan awgrymu nam yng ngwneud penderfyniadau y weinyddiaeth. · Roedd pryderon am y cyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaeth. Canlyniad Ffurfiol Craffu (Crynodeb y Cadeirydd)
Yn dilyn trafodaeth sylweddol gyda’r rhan fwyaf ohoni ar gael ar y ffrwd fyw, symudodd y Pwyllgor ymlaen i bleidlais:
Cytunodd pedwar Aelod i dderbyn penderfyniad y Cabinet. Cytunodd pump Aelod i atgyfeirio’r penderfyniad i’r Cyngor llawn, am y rhesymau dilynol:
Mae gan aelodau amheuon am y penderfyniad a phryder pa mor gadarn oedd y broses ymgynghori a gynhaliwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Cariwyd y penderfyniad i atgyfeirio’r mater i’r Cyngor.
|