Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA and remote attendance
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, yn arbennig aelodau o’r cyhoedd oedd wedi mynychu i gymryd rhan yn y Fforwm Agored i’r Cyhoedd. Gofynnodd i’r Rheolwr Craffu esbonio’r broses galw i mewn fyddai’n cael ei dilyn yn y cyfarfod.
Y Cyd-destun ar gyfer y Galw i Mewn:
Trefnwyd y cyfarfod i drafod penderfyniad a wnaed ond nad oedd wedi dod i rym. Ar 30 Tachwedd gwnaed penderfyniad i ddadgomisiynu’r eiddo ar Stryd Tudor fel canolfan ar gyfer gwasanaethau cymorth dydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu yng ngogledd Sir Fynwy. Nid oedd y penderfyniad wedi effeithio ar ddarpariaeth barhaus y gwasanaeth a fu’n gweithredu drwy gydol y pandemig. Bu’r cyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau anabledd dysgu yn ei le ers 2014, gan geisio cefnogi pobl gydag anabledd dysgu i ddilyn eu diddordebau a’u dymuniadau eu hunain o fewn lleoliadau cymunedol. Roedd hyn wedi arwain at ostyngiad yn nifer y bobl yn defnyddio Canolfan Ddydd Stryd Tudor a gostyngiad graddol mewn oriau agor cyn iddo gau dros dro yn 2020. Cynhelir adolygiad ehangach o’r gwasanaeth, a phenderfynwyd nad oedd yr adeilad ar Stryd Tudor bellach yn addas i’r diben ac y gellid ei werthu.
Galwyd y penderfyniad i mewn i gael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Pobl yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor am y rhesymau dilynol: · “Ni ifu unrhyw graffu ac ni chafodd ei gynnwys yn y cynllunydd”. · “Mae’r adeilad ar orlifdir”. · “Ni fu unrhyw ymgynghoriad gyda defnyddwyr/grwpiau. Defnyddir y safle ar gyfer defnyddwyr/grwpiau ac mae ganddynt anghenion arbennig difrifol”.
Esboniodd y Cadeirydd y byddai’r Pwyllgor yn clywed gan aelodau o’r cyhoedd cyn dechrau’r broses galw-i-mewn. Er fod y broses graffu fel arfer yn caniatáu 15 munud ar gyfer fforwm Agored i’r Cyhoedd, oherwydd y diddordeb sylfaenol mewn siarad yn y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd y byddid yn ymestyn y Fforwm Agored i’r Cyhoedd i alluogi unrhyw un oedd wedi hysbysu’r Cyngor ymlaen llaw am eu dymuniad i siarad yn y cyfarfod yn gallu gwneud hynny.
|
|
Fforwm Agored Cyhoeddus 15 Munud – Mae modd ymestyn hyn ar ddisgresiwn y pwyllgor. Cofnodion: Mae recordiad o’r cyfarfod ar gael i’r cyhoedd ac mae’n rhoi sylwadau a fynegwyd gan aelodau o’r cyhoedd yn y cyfarfod. Yn ychwanegol, caiff adroddiad manwl ei baratoi yn dilyn y cyfarfod craffu i roi adroddiad llawn o’r cyfraniadau cyhoeddus sylweddol i’r cyfarfod, i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 19 Ionawr 2023, Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Pobl, Penderfyniad Galw-i-Mewn Canolfan Ddydd Tudor.pdf (monmouthshire.gov.uk) . Cafodd y sylwadau dilynol eu mynegi gan aelodau o’r cyhoedd. Ni all y cofnodion roi sylwadau ar gywirdeb unrhyw un o’r datganiadau, a gafodd eu crynhoi dan benawdau er mwyn hwlustod cyfeirio.
Yr hyn a awgrymodd pobl fod Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn ei gynnig iddynt
Sut y dywedodd pobl eu bod yn teimlo am gau’r Ganolfan Ddydd
|
|
Galw i Mewn: Adeilad Stryd Tudor. PDF 21 KB Ystyried cais i ‘Alw i Mewn’ y cais am Benderfyniad Aelod Cabinet Unigol a gymerwyd ar 30ain Tachwedd 2022 sy’n ymwneud gyda’r defnydd o eiddo yn Stryd Tudor cyn canlyniad yr adolygiad ehangach o’r Gwasanaethau Fy Niwrnod, Fy Mywyd sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelodau a alwodd y penderfyniad i mewn i gyflwyno eu rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn, fel y nodwyd yn flaenorol.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan yr ‘Aelodau Galw i Mewn’
Mynegodd Aelodau a alwodd y penderfyniad i fewn eu pryderon yng nghyswllt diffyg craffu cyn-penderfyniad. Fe wnaethant gwestiynu ansawdd a chadernid yr asesiad integredig ar effaith, a mynegi eu pryderon am ba mor drwyadl oedd y broses ymgynghori a gynhaliwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor am gwestiynau a sylwadau.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor
Siaradodd Aelodau yn faith am eu sylwadau ar y mater a dweud nad oedd y cyhoedd yn ystyried Canolfan Ddydd Stryd Tudor fel dim ond adeilad neu safle, ond fel cymuned, a bod pobl yn teimlo fod y gymuned yn cael ei thynnu oddi arnynt. Soniodd aelod o’r pwyllgor sut mae canolfannau dydd yn rhoi llawer mwy na dim ond adeilad a dweud fod anghenion pobl yn llawer pwysicach na chyflawni targedau tai neu wireddu budd ariannol.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n crynhoi canlyniad ffurfiol y cyfarfod galw-i-mewn.
Casgliad y Cadeirydd:
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod tri dewis ar gael iddynt, sef:
1) Derbyn y penderfyniad 2) Cyfeirio’r penderfyniad i’r Aelod Cabinet i’w ailystyried (gyda rhesymau) 3) Cyfeirio’r penderfyniad at y Cyngor llawn
Gofynnodd y Pwyllgor am bleidlais wedi’i chofnodi ar yr opsiynau uchod, a’r canlyniad oedd:
Cynghorydd Rachel Buckler: Cyfeirio i’r Cyngor llawn Cynghorydd Maureen Powell: Cyfeirio i’r Cyngor llawn Cynghorydd Jane Lucas (dros C Edwards): Cyfeirio i’r Cyngor llawn Cynghorydd Jayne Mckenna: Cyfeirio i’r Cyngor llawn Cynghorydd John Crook: Cyfeirio i’r Cyngor llawn Cynghorydd Tony Easson: Cyfeirio i’r Aelod Cabinet Cynghorydd Jackie Strong: Cyfeirio i’r Aelod Cabinet Cynghorydd David Jones: Cyfeirio i’r Cyngor llawn Cynghorydd Sue Riley: Cyfeirio i’r Aelod Cabinet
Cytunwyd i gyfeirio’r penderfyniad i’w ail-ystyried, yn dilyn pleidlais wedi’i chofnodi.
Yn dilyn y bleidlais wedi’i chofnodi, cytunodd y mwyafrif i gyfeirio’r penderfyniad i’r cyngor llawn, gan roi’r rheswm dilynol:
Mae angen llawer mwy eglurdeb ar ddarpariaeth y dyfodol. Mae angen ymgysylltu cadarn gyda defnyddwyr gwasanaeth a dylid cynnal craffu cyn-penderfyniad trwyadl cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
|
|
Cyfarfod Nesaf Cofnodion: Cadarnhau y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2023.
|