Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim
|
||
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Ni ddefnyddiwyd unrhyw gynigion..
|
||
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Cabinet Adnoddau y cynigion ar gyfer 2023-2024 i’r pwyllgor (mae’r cyflwyniad ar gael ar-lein) cyn i’r pwyllgor ofyn cwestiynau.
Her: Yn nhermau sut y gall y gyllideb hon effeithio ar blant a phobl ifanc, rydych yn sôn fod y rhaglen cyfalaf yn goruchwylio cynnal a chadw a gwella ein ffyrdd, ysgolion a chanolfannau hamdden ac yn y blaen gyda chynigion ar gyfer arbedion effeithiolrwydd o 3%, fyddech chi’n disgwyl hwnnw yn gyffredinol i bawb? Mae rhai ysgolion yn newydd ac wedi cael gwelliannau sylweddol mewn blynyddoedd diweddar ac roedd y rhan fwyaf o ysgolion mewn sefyllfa ariannol gadarn yn ystod y pandemig, diolch i’r arian ychwanegol a ddyrannwyd yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, yn anffodus mae Ysgol Cas-gwent mewn diffyg am resymau hanesyddol. Fy mhrif bryder yw parhau gwella ysgolion yn yr amgylchedd ysgol, fel y gall disgyblion gadw’n wastad gyda’u cyfoedion mewn ysgolion mewn rhannau eraill o Sir Fynwy yn arbennig tra disgwylir cyllid o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwid yn flaenorol yn gyllid Ysgolion 21ain Ganrif). Cas-gwent yw’r ysgol olaf yn Sir Fynwy i fanteisio o’r rhaglen a chadarnhaodd y Cabinet cyn y Nadolig eu bod yn fodlon gyda’r cynnydd, ond roeddwn eisiau gwirio y bydd Ysgol Cas-gwent ac ysgolion eraill yn dal i dderbyn y cyllid hwn.
Aelod Cabinet Addysg: Nid oes unrhyw fwriad y bydd ansawdd cyfleusterau Ysgol Cas-gwent yn dioddef. Mae’r cyngor wedi treulio arian sylweddol yn diweddaru cyfleusterau yno, tebyg i gynhyrchu p?er solar a gwn fod yr ysgol wrth ei bodd gyda buddsoddiad y Cyngor hyd yma. Rydym ar gam cynnar trafodaethau gyda Cas-gwent fel y bedwaredd ysgol am sut olwg fydd ar ddarpariaeth a gobeithiaf fy mod wedi eich sicrhau fod yr ysgol yn gadarn yn ein golygon. Mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhrefynwy wedi manteisio o’r cyllid hwn ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor ac felly, hyd yn oed mewn cyfnod anodd, nid ydym yn anghofio anghenion ein plant a’n pobl ifanc a dyna pam ein bod yn cynnig cynyddu cyllideb ysgolion ar raddfa nas gwelwyd ers peth amser.
Yng nghyswllt dod ag incwm ychwanegol i mewn drwy ffioedd a chostau dewisol, tebyg i gynyddu cost parcio a gwasanaethau gwastraff, oni fydd yn atal pobl rhag defnyddio’r meysydd parcio ac nad yw’n debygol o ddod â’r incwm a ddisgwylir, tra’n gwneud preswylwyr yn ddig yn y broses. Mae codi mwy am wasanaethau gwastraff yn debyg o gynyddu tipio anghyfreithlon neu losgi gwastraff mewn eiddo, gan achosi mwy o broblemau ar gyfer staff y Cyngor, felly hoffwn glywed eich barn am hynny.
Aelod Cabinet Adnoddau: Rydym yn ymwybodol o’r materion hyn, felly nid ydym yn newid amlder casgliadau palmant fel cynghorau eraill. Yn nhermau parcio ceir, rydym yn ymwybodol iawn o’r cysylltiad rhwng cymunedau a chanol trefi ffyniannus a hygyrchedd. Rydym yn defnyddio cynlluniau teithio llesol a’r cyllid sydd ar gael yno ac mae gennym adolygiad parcio ar y gweill ar gyfer eleni sy’n rhoi ystyriaeth i anghenion cymunedau yn ogystal â sut y ... view the full Cofnodion text for item 3. |
||
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 28 Chwefror 2023 am 10.00am. |