Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Dim.
|
|
Craffu cynigion y gyllideb PDF 127 KB Craffu cynigion y gyllideb yn ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllogor.
20240117 Cabinet - Draft 2024-25 Budget - Covering report Final.pdf (monmouthshire.gov.uk)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Callard gynnig y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod ac ateb cwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Ian Chandler, Aelod Cabinet Marty Groucutt, Jane Rodgers, Tyrone Stokes, Peter Davies, Will McLean a Jonathan Davies. Esboniodd y Cynghorydd Callard fod y cynigion yn cynnwys gostyngiad o 3.2% yng nghyllideb Mon Life a chynnydd o 6.3% yn y gyllideb adnoddau. Cadarnhaodd fod y gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnig i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 7.5% a bod y Cyngor yn y cam ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:
Addysg
· Yng nghyswllt arbedion effeithiolrwydd ysgolion o £854k, holwyd sut fydd hyn yn edrych mewn gwirionedd ar gyfer ein hysgolion. Gofynnodd aelodau am enghreifftiau o sut yr aiff ysgolion ati i wneud yr arbedion hyn. · Gofynnodd aelodau os yw’r Cabinet yn bryderus am ddiwedd £21.3 miliwn o gronfa Llywodraeth Cymru at Gyflog Athrawon, ynghyd ag arbedion effeithiolrwydd, ac os y gallem o bosibl golli athrawon ac os felly faint. Gofynnwyd i’r aelod cabinet os oedd wedi lobïo Llywodraeth Cymru i ailosod cronfa cyflogau athrawon ar gyfer y flwyddyn i ddod i liniaru’r baich ar ysgolion. Holodd aelodau os y gallai maint dosbarthiadau gael ei gynyddu oherwydd pwysau staffio ac os y gallai plant fod dan anfantais fel canlyniad i’r cynigion hyn. · Gofynnodd aelodau os oes gan yr Aelod Cabinet unrhyw bryderon y gallai’r arbedion effeithiolrwydd gael effaith negyddol ar ansawdd y cynnyrch mae’n rhaid i ysgolion ei gaffael, gan arwain at i ysgolion ddewis opsiynau rhatach. · Gofynnodd aelodau pa fesurau lliniaru a wneid yng nghyswllt unrhyw bryderon am anghydraddoldeb a amlygwyd. · Yng nghyswllt cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), holodd Aelodau am effeithiau y gostyngiad yn y cyfraniad craidd at EAS ar Sir Fynwy.
Gofal Cymdeithasol
· Gofynnwyd cwestiynau am ddileu swyddi a swyddi gwag – faint, a ph’un a gânt eu llenwi. · Gofynnwyd am eglurhad os yw’r angen a aseswyd yn cael ei ostwng a sut y gallwn ddangos y bydd newid staff yn dal i ateb y goblygiadau statudol. · Roedd peth pryder os y bydd gan aseswyr gofal cymdeithasol y cymwysterau a goruchwyliaeth ddigonol i fedru cyflawni’r rôl, o gofio fod cyfeirio at wasanaethau yn wahanol i gynnal asesiad a chwestiynau os y bydd unrhyw effaith ar weithwyr cymdeithasol cofrestredig. · Yng nghyswllt Budden Crescent, gofynnodd Aelodau am sicrwydd fod rhan o’r ailgyflunio ar gyfer ailddylunio’r gwasanaeth a sicrhau rhannu bywydau. · Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y cyllid ychwanegol ar gyfer gofal a cymorth, ac os y bydd gan y bobl hynny fynediad i gyngor ar hawliau llesiant. · Yng nghyswllt gofal maeth, gan ein bod yn dibynnu’n helaeth ar asiantaethau maeth annibynnol, gofynnodd Aelodau sut y caiff y gwahaniaeth mewn costau ei drin? Sut fyddwn ni’n denu gofalwyr maeth i’r sir ac a fedrid ystyried gostyngiad yng nghyfraniad y dreth gyngor?
Cerddoriaeth Gwent
· Holodd aelodau em effaith colli’r cymhorthdal ar Gerddoriaeth Gwent a’u hadborth ar y cynnig. Gofynnwyd faint o ysgolion fyddai’n medru cyllido hyfforddiant cerddoriaeth ysgol gyfan ac os y gallai’r ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Nodi Blaenraglen Gwaith a Rhestr Weithredu y Pwyllgor Craffu Pobl PDF 352 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ychwanegir adroddiad y Gyfarwyddiaeth Gofal at y rhaglen gwaith.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd canlynol: PDF 241 KB 1 Rhagfyr 2023 (Cyfarfod Arbennig) 14 Tachwedd 2023 Cydbwyllgorau Craffu Perfformiad a Throsolwg a Phobl
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cynigiodd y Cynghorydd Powell ac eiliodd y Cynghorydd Edwards.
|
|
Cyfarfod nesaf: 6 Chwefror 2024 (Cyfarfod Arbennig) 5 Mawrth 2024
Cofnodion: Cyfarfod Arbennig 6 Chwefror 2024.
|