Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
Rhif | eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Crook ei enwebu fel Cadeirydd y Cynghorydd Powell, eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Strong. Etholwyd y Cynghorydd Crook.
|
|
Penodi Is-gadeirydd. Cofnodion: Cafodd y Cynghorydd Strong ei enwebu fel Is-gadeirydd gan y Cynghorydd Stevens, eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Riley. Cafodd y Cynghorydd Strong ei benodi.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y cyhoedd i gyfarfod y Pwyllgor Craffu Pobl, a fyddai'n ystyried canlyniad yr Adolygiad ar Fy Niwrnod, Fy Mywyd a'r adborth o'r broses ymgynghori. Eglurodd mai rôl y pwyllgor craffu oedd cynnig barn i'r cabinet a gwneud unrhyw argymhellion, y gall y Cabinet eu derbyn neu eu gwrthod fel rhan o'u penderfyniadau yn y dyfodol, ond bod yr Aelodau'n awyddus i glywed gan y cyhoedd ac yn enwedig defnyddwyr gwasanaeth Fy Niwrnod, Fy Mywyd.
Cadarnhaodd y Cadeirydd fod cyfraniad ysgrifenedig wedi'i dderbyn cyn y cyfarfod gan Mr David Abbott, yr oedd yr Aelodau wedi'i weld. Amlygodd hefyd fod deiseb gyda llawer o lofnodion wedi ei chyflwyno i'r Pwyllgor a bod yr Aelodau'n nodi cryfder teimlad y cyhoedd ar y mater o'u blaenau.
Roedd presenoldeb cyhoeddus mawr yn y
cyfarfod craffu a siaradodd 13 aelod o'r cyhoe
· Yr angen am ganolfan lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel, yn teimlo eu bod yn perthyn, heb deimlo'n wahanol, gan eu helpu i fagu hyder a chynnig ymdeimlad o bwrpas ac ansawdd bywyd iddynt. · Yr angen am ganolfan sydd wedi'i lleoli'n ganolog yn y gymuned, nid ar yr ymylon. · Toiledau hygyrch a chyfleusterau newid, gan gynnwys newid gwelyau. · Lle y gallant ymgymryd â gweithgareddau lles mewnol. · Cegin a gardd. · Ystafell synhwyraidd · Ardaloedd cymunedol cytbwys a mannau tawel.
Roedd teimlad cryf ymhlith aelodau'r cyhoedd mai Canolfan Ddydd Tudor Street oedd yr unig adeilad a allai ddarparu'r cyfleusterau cywir, a soniodd llawer mai dyna oedd eu hoff ddewis. Dywedodd un aelod o'r cyhoedd mai "nid mater lleol yn unig oedd hwn, ond mater o ddiddordeb i'r cyhoedd" a galwodd ar i'r cyngor weithredu gyda "thosturi a rhagolwg" ac "ystyried gwir gost y penderfyniad, nid yn unig mewn termau ariannol, ond o ran lles dinasyddion a chydlyniant cymunedol".
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fynychu a siarad o dan y Fforwm Agored Cyhoeddus i gynorthwyo'r Pwyllgor gyda'u trafodaethau.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Ian Chandler a Jane Rodgers yr adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodaugyda Nicholas Keyse a Clare Morgan.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau'r Pwyllgor
· Roedd nifer o Aelodau yn anfodlon ar y broses sgorio, a'r sgoriau unigol a ddyrannwyd i'r adeiladau ac yn rhoi enghreifftiau o'r hyn yr oeddent yn teimlo oedd diffyg cysondeb wrth gymhwyso sgorau. Gofynnodd yr Aelod Cabinet a oedd yr adeiladau cywir ar y rhestr fer. Nid oedd yr Aelodau'n anghytuno ac nid oedd unrhyw farn y dylai unrhyw adeiladau eraill ymddangos ar y rhestr fer. Cynigiodd yr Aelod Cabinet gynnal sesiwn gydag aelodau i egluro'r meini prawf, y gellir eu trefnu yn ôl disgresiwn y pwyllgor. Pwysleisiodd hefyd y byddai pob adeilad yn cael ei ystyried eto yn dilyn y sifft cychwynnol hwn gyda chyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth cyfredol a darpar ddefnyddwyr.
· Mae'r Aelodau o'r farn y gallai'r Asesiad Effaith Integredig fod wedi bod yn gryfach o ran y categori oedran, ond hefyd o ran rhyw (nid rhywedd), i gydnabod y bydd llawer o ofalwyr yn fenywod ac felly, byddai effeithiau canlyniadol ar eu gallu i weithio a'u lles. Amlygodd yr Aelodau y gallai fod gan bobl, sydd ag anableddau dysgu, broblemau iechyd cyd-forbidrwydd eraill hefyd, y dylid eu cydnabod. Teimlai'r aelodau fod angen yr asesiad i adlewyrchu anghenion gofalwyr yn gywir, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth.
· Nododd y Pwyllgor fod meini prawf cymhwysedd y gwasanaeth wedi newid, sy'n awgrymu niferoedd is o ddefnyddwyr gwasanaeth nag yr oedd y Pwyllgor yn ei ddisgwyl. Cododd hyn bryder ynghylch a yw pobl yn cael eu cefnogi'n ddigonol.
· Awgrymodd sawl Aelod mai Canolfan Ddydd Tudor Street oedd eu dewis a ffefrir o ran lleoliad ar gyfer canolfan yn Y Fenni. Cefnogodd yr aelodau’r angen am gegin a gardd i alluogi pobl i barhau â'r gweithgareddau hynny y maent wir yn eu mwynhau mewn unrhyw adeiladau yn y dyfodol.
· Clywodd yr aelodau fod gofalwyr di-dâl hefyd yn defnyddio Canolfan Ddydd Tudor Street fel lle i gael rhywfaint o seibiant. Tynnwyd sylw hefyd at gludiant i wasanaethau, gan adlewyrchu bod rhai gofalwyr wedi canfod bod yr amser a gymerir i gludo'r rhai sy'n derbyn gofal i wasanaethau, yn golygu mai dim ond cyfnod byr o seibiant oedd ar gael iddynt, cyn gorfod eu casglu.
· Roedd yr Aelodau'n teimlo'n gryf bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn aelodau agored i niwed o'r cyhoedd, y dylid eu cefnogi ac na ddylent orfod brwydro i gael gwasanaethau.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu hamynedd drwy gydol y broses a'r cyhoedd am eu presenoldeb a'u cyfraniad gwerthfawr. Diolchodd hefyd i Aelodau'r Cabinet a Swyddogion am eu mewnbwn a daeth i'r casgliad:
· Cafwyd cefnogaeth eang gan y pwyllgor ar gyfer argymhellion yr adolygiad ac awydd cryf i weld y gwaith yn mynd rhagddo ar gyflymder.
· Roedd yr Aelod Cabinet wedi dweud y byddai'n cynnal gweithdai defnyddwyr gwasanaeth dros yr haf i ofyn am eu dewisiadau a chasglu rhagor o wybodaeth am y tri adeilad ar y rhestr fer, ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Blaenraglen Waith Craffu Pobl PDF 102 KB Cofnodion: Nodwyd y flaenraglen waith.
|
|
Rhaglen Waith y Cyngor a’r Cabinet PDF 223 KB Cofnodion: Nodwyd y flaenraglen waith.
|
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2023. PDF 339 KB Cofnodion: Derbyniwyd y cofnodion fel cofnod cywir a gwir o'r cyfarfod.
|
|
Cyfarfod nesaf: Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2023 am 10.00am. Cofnodion: Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r Pwyllgor yn cyfarfod y diwrnod canlynol, 19eg Gorffennaf 2023.
|